E-fwletin Chwefror 5ed, 2017

 

"Am yr ysgol rad Sabothol
Clod, clod i Dduw …"
                        Roger Edwards (1811-86)

Cyflwynwyd Coleg y Werin, astudiaeth gan y Parchedig Ddr Huw John Hughes, i selogion yr Ysgol Sul ddoe, heddiw ac yfory ac i gofio’n annwyl am Miss Menai Williams (1923-2013), a fu’n ffyddlon iddi gydol ei hoes. 

Mae’r gyfrol yn drysor o wybodaeth am y cyfnod cynnar rhwng 1780 a 1851, am arloeswyr y mudiad, am eu dyheadau a’u gobeithion. Nod yr Ysgol Sul o’r cychwyn cyntaf oedd cyflwyno gwybodaeth am Gristnogaeth, a meithrin cenedlaethau o bobl yn hyddysg yn eu Beibl. Cyflwyno gwybodaeth, sylwer, nid ei thrafod; derbyn ‘ffeithiau’, nid eu herio; mabwysiadu amcanion iwtilitariaeth Fictoraidd Thomas Gradgrind, a bortreadwyd yn graffig yn nofel Hard Times Charles Dickens, a’u cymhwyso i grefydd ymneilltuol. 


"Clod am Ysgol i'n haddysgu
Yng ngeiriau Duw!" 

Yn fy arddegau ceisiais drefnu deiseb ymhlith aelodau dosbarthiadau oedolion ein Hysgol Sul i gefnogi ymgyrchoedd diarfogi niwclear yr CND. Yn fy naïfrwydd, roeddwn wedi cymryd yn ganiataol y byddai pawb o blaid. Cefais fy siomi gan geidwadaeth yr aelodau: doedd neb, neb o gwbl, yn fodlon arwyddo’r ddeiseb. Yn fwy na hynny, cefais fy siomi gan ddiffyg unrhyw awydd i drafod y pwnc, heb sôn am ei drafod o fewn fframwaith Cristnogaeth. Do, cefais fy nadrithio. Os nad oedd y capel, a’r Ysgol Sul yn arbennig, yn gallu bod yn fforwm i drafod materion o’r fath yna pa ddiben crefydda o gwbl? 

"Ynddi cawn yr addysg oreu,
Addysg berffaith Llyfr y llyfrau"

Erbyn hyn, flynyddoedd yn ddiweddarach, rwyf yn cael cryn flas ar fod yn aelod o ddosbarth Ysgol Sul sy’n wahanol iawn ei weledigaeth. Mae rhai pethau wedi aros fel yr oeddent, yn arbennig yr eirfa o fyd addysg: rydym mewn ‘dosbarth’ yn rhan o ‘ysgol’, yn dilyn ‘gwers’ dan arweiniad ‘athro’. Ond gwahanol iawn yw’n dehongliad o’r geiriau hynny ac anogir trafodaeth a rhannu profiad a barn, gyda phawb yn barod i hogi meddwl a ffydd ein gilydd wrth geisio dehongli’r testun. Mae gwaith yr Ysgol Sul yn rhan annatod o’n cenhadaeth fel eglwys.

Mae’n arwyddocaol na lwyddodd ‘Am yr ysgol rad Sabothol’ i fodloni meini prawf golygyddion Caneuon Ffydd. Synnwn i ddim na chafodd Miss Menai Williams ddylanwad bach ar y penderfyniad hwnnw. 

(Rydym yn chwilio am rywun i helpu gyda’r gwaith o gynnal y wefan, sef golygu’r cynnwys, gofalu am y diwyg, trefnu a dosbarthu’r e-fwletin, dylunio a chyhoeddi Agora a goruchwylio’r Bwrdd Clebran. Os medrwch helpu, dewch i gysylltiad drwy ateb y neges hon. Mae hyfforddiant ar gael.)