E-fwletin 6 Mai, 2018

Mwslim ym Moreia

Caed un sylw mewn trafodaeth rai wythnosau yn ôl a hoeliodd fy meddwl. Trafodaeth oedd hi am beryglon tanseilio ffydd Cristnogion yn eu credoau traddodiadol. “Dyna’r angorion sy’n sicrwydd iddynt yn stormydd bywyd,” meddai un. Ac meddai un arall, “Os tynnwch chi’r seiliau, dyna holl adeilad eu Cristnogaeth yn dymchwel.” Fe ddaeth y rhybuddion yna i’m mhoeni i eto dros y Pasg. Mewn erthyglau a phregethau a myfyrdodau clywid mor ganolog i Gristnogaeth yw’r bedd gwag, gan wneud i mi, sy’n methu gweld mai atgyfodiad corfforol Iesu yw sylfaen Cristnogaeth, deimlo fel adyn o derfysgwr yn gosod bom o dan deml y dogmâu. Yn waeth na hynny, atgyfodiad corfforol Iesu, meddid, yw unig sail gobaith i deuluoedd yn eu galar: peidiwch â dinistrio eu cysur.

 Ond y dewis sy’n ein hwynebu yw hyn: naill ai llefaru yn ôl ein hargyhoeddiad a’n cydwybod neu ailadrodd yr un hen ddogmâu oesol er mwyn diogelu teimladau. Y gwir amdani yw fod llu o Gristnogion wedi gorfod wynebu’r dewis hwn ar wahanol adegau. Mae’r Diwygiad Protestannaidd yn enghraifft amlwg. A ddylai Martin Luther fod wedi llyncu ei argyhoeddiad oherwydd fod ambell druan mewn profedigaeth yn cael cysur o feddwl ei fod yn medru rhyddhau ei fam o boenau uffern drwy dalu rhyw swllt neu ddau i brynu maddeueb ar ei rhan? A bu gan Babyddion ar hyd y canrifoedd ddaliadau annwyl a chysurlon eraill nas derbynnir gan Brotestaniaid.

 Os ydym yn argyhoeddedig fod rhai dogmâu neu athrawiaethau yn groes i arweiniad Iesu, ein cyfrifoldeb yw datgan ein argyhoeddiad. Wedi’r cyfan dyna sut y bydd Cristnogaeth yn cywiro ei chamgymeriadau ac yn ei diwygio ei hun o gyfnod i gyfnod. Ymadrodd a ddefnyddiwyd gan Karl Barth, ond a briodolid i Awstin, oedd “ecclesia semper reformanda” (rhaid i’r eglwys gael ei diwygio yn barhaus). Cyfrifoldeb dilynwyr Iesu ym mhob oes yw caniatáu i Iesu, drwy ei eiriau a’i arweiniad, buro a diwygio’r eglwys.

 Ond mae yna ddau berygl mawr yn codi fan hyn. Sut allwn ni wybod i sicrwydd beth yw’r gwirionedd am ewyllys a safbwynt Iesu? A’r ail berygl yw mai sôn yr ydym o hyd am gredu safbwynt neu gredu ffeithiau. Yn wyneb yr anawsterau hyn caf awgrymiadau Brian McLaren yn gynorthwyol iawn. Y mae’n edrych ar grefydd drwy lygaid gwahanol, gan ddadlau dros ganiatáu i Gristion goleddu ffydd heb fod angen iddo seilio’r ffydd honno ar ryw “wirioneddau” gwrthrychol y mae’n rhaid iddo gredu ynddynt. Mae’n gwrthgyferbynnu ymddiriedaeth bersonol yn Nuw gyda chredu mewn honiadau am Dduw. Y mae ffydd Cristnogion, meddai, nid mewn gwybodaeth, ond yn Nuw.

 A chan ddilyn ei resymeg i’r cyfeiriad hwn, mae’n awgrymu yn More Ready Than You Realizey gallai dilynwyr Iesu barhau i fod yn ddilynwyr Bwda hefyd, neu’n Hindwaid neu Fwslemiaid. Felly, yn hytrach na chystadlu â hwy, yn sicr yn hytrach na brwydro yn eu herbyn neu eu lladd fel y gwnâi Cristnogion gynt, dylem eu cynorthwyo hwy, a phawb arall, i fentro ar gael gafael ar fywyd teyrnas Dduw.