E-fwletin 26 Mai, 2019

Dawn proffwydo…

Mae ychydig o sylw wedi’i roi yn y wasg Gymraeg yn ddiweddar i broffwydoliaeth Dr D. Ben Rees. Proffwyda na fydd capeli nac eglwysi Cymraeg yn bodoli erbyn 2050. Heb os, mae achosion yn cau blith draphlith o Fôn i Fynwy, ond mae yna le i obeithio hefyd. Rwy’n obeithiol oherwydd bod Duw yn ei air yn ein galw i fod yn bobl obeithiol, ac rwy’n obeithiol wrth weld Duw ar waith yng Nghymru a thrwy’r Gymraeg.

Dywed Iesu ei fod yn ‘mynd i adeiladu fy eglwys’ (Mathew 16:18). Proffwyda Eseia na fydd diwedd ar deyrnasiad Iesu (9:7). Dyma addewidion Duw i’w bobl. Mae Mair yn moli Duw am ei fod yn Dduw’r addewidion (Luc 1:55). Nid cyfeirio at Gymru a’r Gymraeg a wna’r Ysgrythur yma’n benodol, wrth gwrs, ond maent yn addewidion y dylem obeithio ynddynt.

Soniais fod tystiolaeth o Dduw ar waith yng Nghymru heddiw yn gwneud i mi obeithio na fydd proffwydoliaeth ein brawd yn dod yn wir. Dros y Pasg, cynhaliwyd gŵyl Llanw yn Ninbych-y-pysgod, ble daeth cannoedd ynghyd, o bob oed, enwad a thraddodiad, i ddathlu’r Atgyfodiad. Roedd gwasanaeth bore Sul diwethaf Eglwys Ebeneser, Caerdydd, dan arweiniad criw o Gristnogion ifanc yn eu hugeiniau. Cynhaliwyd noson Thai i’r gymuned yn ddiweddar mewn eglwys yn Llandysul sy’n denu nifer fawr o deuluoedd iddi. Mae eglwys Gymraeg yn ymgynnull ar bnawn Sul yn ardal Abertawe i addoli, gweddïo, astudio’r Gair a chymdeithasu, a’r mwyafrif yno rhwng 17 a 30. Dw i’n siwr bod rhagor o enghreifftiau o eglwysi Cymraeg ifanc yn tystio’n hyderus ac ar ffurf newydd i’w cymunedau hefyd. Efallai yn wir na fydd capel Cymraeg ar agor erbyn 2050, ond o weld Duw ar waith yn y Gymraeg heddiw, dw i’n hyderus y bydd eglwysi Cymraeg yn ffynnu ac yn cyfarfod mewn amryw fannau a lleoliadau…hyd yn oed mewn tafarndai!

Proffwyda Joel: “Ar ôl hynny, bydda i’n tywallt fy Ysbryd ar y bobl i gyd. Bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo; bydd dynion hŷn yn cael breuddwydion, a dynion ifanc yn cael gweledigaethau.”

Ar drothwy Eisteddfod yr Urdd, ac wrth obeithio am wledd o wythnos o ganu, adrodd, dawnsio, celf, cerddoriaeth a rhyfeddodau gwyddonol, a oes lle yn ein capeli a’n heglwysi i fechgyn a merched broffwydo ac i fod yn weledyddion? A yw’n confensiynau, ein traddodiadau, ein pwyllgorau a hyd yn oed ein haddoliad a’n crefydd yn rhwystro gwaith yr Ysbryd, gan achosi i ddynion hŷn gael hunllefau am y dyfodol, yn hytrach na chael pleser mewn breuddwydion melys a chysurlon?!

Dw i’n ddiolchgar i D. Ben Rees am ei gyfraniad gwerthfawr i’r sgwrs, ac am alw ar yr enwadau i ystyried o ddifri eu hystad. Ond gadewch i ni hefyd gymryd cysur a hyder yn y ffaith mai Duw’r addewidion yw ein Duw ni, a’i fod ar waith heddiw, a bod ein meibion a’n merched yn proffwydo, ac yn parhau i broffwydo yn y Gymraeg.

(Cynhelir ein Cynhadledd Flynyddol ar Orffennaf 6ed eleni, yng nghapel Salem, Caerdydd. Y cyfranwyr fydd Elin Royles, Aled Eirug a Gethin Rhys. Bydd rhagor o fanylion yn ymddangos ar y wefan yn y dyddiau nesaf. Cadwch y dyddiad yn rhydd!)