“Y mae’r tlodion gyda chwi bob amser…” (Math.26:11)
Yn ystod yr wythnos a aeth heibio, bu’n anodd osgoi tlodi yn ei wahanol ffurfiau yn ein byd helbulus. Cafwyd cyfle yn ystod wythnos Cymorth Cristnogol i feddwl am beryglon tlodi yn Sierra Leone y wlad beryclaf i roi genedigaeth i blentyn oherwydd y tlodi a diffyg adnoddau addas. Ar yr un pryd, mae Cymorth Cristnogol wedi tynnu allan faniffesto am y saith mlynedd nesaf. Fel erioed mae ei chymorth i gymuned dlawd i helpu ei hun yn ogystal ag yn ymateb i argyfwng y foment. Mae`r pwyslais ar gymuned yn hytrach nag ar unigolion. Cred mai problem wleidyddol yw tlodi yn y bôn, a bod tynnu sylw at hynny yn rhan o’i chenhadaeth. Daeth cyfle hefyd i arwyddo deiseb yn galw am ddileu dyledion Sierra Leone oherwydd y benthyciadau a gafwyd i reoli haint marwol yr Ebola. Heb faddeuant gall y wlad lithro i gors economaidd ddyfnach. Mae cyfle i arwyddo’r ddeiseb ar y we.
Yn ystod yr un wythnos cawsom ein syfrdanu gan y newyddion fod tlodi ymhlith plant yn uwch yng Nghymru nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig ar sail ymchwil gwahanol elusennau. Mae dros 206,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi sy’n gynnydd o 1% ac mae rhieni’n gorfod gwneud “penderfyniadau amhosib” o fwydo eu hunain neu eu plant. Fe ddangosodd yr ymchwil mai’r ardaloedd oedd â’r canran uchaf o blant yn byw mewn tlodi – 35% – oedd etholaethau De Caerdydd a Phenarth, Cwm Cynon a’r Rhondda. Mae 1/3 o blant cymoedd y de, gan gynnwys Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tudful yn byw mewn tlodi. Ym Mhenrhiwceibr yng Nghwm Cynon, mae bron eu hanner yn byw mewn tlodi.
Yna caed stori gyffelyb yn Nyffryn Clwyd gan Chris Rouane A.S. yn tynnu ein sylw at sgandal y Banciau Bwyd. Mae Gorllewin y Rhyl a gorllewin tref Dinbych ymysg yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru. Y llynedd yn ôl Trussell Trust bu galw mwy am fwyd y banciau. Sefydlu’r Credyd Cynhwysol (Universal Credit) a phump wythnos o aros oedd y prif achos. Roedd y nifer o oedolion anghenus wedi cynyddu o 696 a phlant o 416. Cyfanswm o oedolion 1763, plant 1273. Dwysawyd y sefyllfa oedd eisoes yn argyfyngus oherwydd y toriadau. Mae Cynulliad Cymru yn beio Llywodraeth San Steffan a llywodraeth San Steffan yn dadlau dros gael gwaith i bobol. Eto y mae pobol mewn gwaith hefo cyflog isel yn dibynnu ar y banciau bwyd.
Yn wyneb y fath amgylchiadau y mae’n anodd derbyn datganiad yn ddiweddar fod y bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog wedi lleihau yn y Deyrnas Unedig. Yn yr un wythnos caed erthygl yn y Guardian gan Helen Barnard yn dadlau dros y ffordd ymlaen: marchnad lafur fydd yn gweithio i deuluoedd (cyflogau’n rhy isel), cael tai fforddiadwy go iawn (rhy gostus ar hyn o bryd), croesawu Credyd Cynhwysol ond rhaid diddymu’r pum wythnos o aros amdano. Ymddengys fodd bynnag fod yr ymdrech i ddileu tlodi yn un ymdrech barhaus, ond y mae’n rhaid parhau’r ymdrech.