E-fwletin 22 Hydref 2017

Taleithiau Unol?

Er bod yna raniadau enwadol a diwinyddol yn britho’r Eglwys yma yng Nghymru fach, ymddengys nad ydyn nhw ond megis crafiadau arwynebol mewn cymhariaeth â’r sefyllfa sydd yn yr UDA ar hyn o bryd. Os yw Donald J Trump wedi llwyddo i begynnu’r drafodaeth wleidyddol yno, mae e hefyd wedi amlygu’r rhaniadau crefyddol sydd yn y wlad.

Mae ei safbwynt wahaniaethol yn erbyn Moslemiaid (a lleiafrifoedd eraill o bob math), ei ymosodiadau di-baid ar Obamacare, ei gefnogaeth i bolisïau cymdeithasol ceidwadol megis cyfyngu ar atal cenhedlu a hawliau i erthylu, ei amharodrwydd i gyfyngu ar werthiant drylliau, a llawer polisi arall, yn polareiddio’r byd a’r betws.

Cafodd ei ethol, mae’n debyg, gyda chefnogaeth gref o du’r ‘Dde Grefyddol’, adain ‘efengylaidd’ y sbectrwm crefyddol yno. Cyfeiriodd un o’i gefnogwyr crefyddol mwyaf pybyr, y Parch Franklin Graham, bod y ffaith ei bod hi’n bwrw glaw ar adeg urddo Trump yn arwydd Beiblaidd o fendith Duw ar ei arlywyddiaeth. Mae Franklin wedi parhau i wneud datganiadau ysgubol o’r fath mewn cefnogaeth i Mr Trump, a hynny er gwaethaf ymdrechion ei dad, Billy, i liniaru ychydig ar ei rethreg eithafol-geidwadol. Rhethreg yw honno sy’n llurgunio’r Efengyl er mwyn cefnogi’r agenda ormesol ac ymraniadol mae Trump a’i gefnogwyr yn ei hyrwyddo.

Mae UDA wastad wedi gweld ei hun fel arweinydd moesol y gorllewin ‘rhydd’, ond’ yw hi? America yw ffagl gobaith gwareiddiad Cristnogol y gorllewin. Dyna‘r goel. Dyna’r myth cyhoeddus. Ond i ba raddau y medrir ystyried America yn wâr neu’n Gristnogol o ran moeseg a diwylliant mewn gwirionedd? Ystyrir rhai ffeithiau moel yn unig.

Yn dilyn y lladdfa diweddar yn Las Vegas mae un pegwn o’r sbectrwm gwleidyddol a chrefyddol yno yn dal i honni bod hi’n ‘hawl’ sylfaenol dan y cyfansoddiad i’r saethwr gasglu dros 30 o ddrylliau pwerus – hawl – ond mai ’braint’ fyddai hi i’r 500 a mwy o’i ddioddefwyr i dderbyn gofal meddygol o ganlyniad i gael eu saethu ganddo. Mae nifer o’r dioddefwyr hynny eisoes wedi agor gwefannau codi arian i holi am gymorth – am gardod – er mwyn medru trin eu clwyfau. I roi halen ar y briw, mae Trump yn parhau i danseilio Obamacare ar bob cyfle.

Yr ail ffaith: ers 2001 mae’n debyg bod bron i 7,000 (6,893) o filwyr Americanaidd wedi marw mewn rhyfeloedd ar draws y byd. Adref, ar eu tir eu hunain, yn ystod yr un cyfnod, lladdwyd dros 130,000 (130,347) o ddinasyddion America gan eu cydwladwyr. Gwlad Gristnogol wâr? Mae’n rhaid i ni ddechrau amau hynny go iawn, glei.

Tra bod y chwith gwleidyddol yn ei chael hi’n anodd dygymod â dyfodiad Trump ac ymosodiad eofn y neo-geidwadwyr hyn ar wrthrychedd, ffeithiau a thrafodaeth resymegol, mae’n ymddangos bod y chwith crefyddol yn cael ychydig mwy o lwyddiant. Bydd nifer o gefnogwyr C21 yn ymwybodol o fudiadau fel The Christian Left, Sojouners, a Moral Movement y Parch William J Barber; ynghyd â sylwebwyr a blogwyr rhyddfrydol a blaengar fel John Pavlovitz. Os nad ydych yn gyfarwydd â nhw, chwiliwch amdanyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r gwrthgyferbyniad rhyngddynt â lladmeryddion crefyddol ceidwadol ac adweithiol y wlad, o ran ymagwedd, goslef a chynnwys, yn drawiadol iawn.

Dydy’r cyfeillion hyn ddim yn derbyn fawr o sylw ar y cyfryngau torfol cyffredinol, wrth gwrs – dim mwy na C21. Yn yr hinsawdd gymdeithasol/wleidyddol gyfredol yn y gwledydd hyn, hinsawdd sy’n dechrau ymdebygi’n rhy agos i normau’r UDA, efallai, tybed nad oes angen i C21 bod yn fwy llafar hefyd?