E-fwletin 22 Gorffennaf 2018

Rhagfarnu

Gair diddorol yw ‘rhagfarn’. Dyw pobol ragfarnllyd ddim yn agored eu meddwl. Ma’ nhw’n bobol sydd prin yn meddwl o gwbl, yn ein meddwl (rhagfarnllyd?) ni. Pobol negyddol. Pobol annymunol.

Dros y misoedd diwethaf cefais y fraint, unwaith eto, o weithio’n ddwys â chriwiau o bobol ifainc. Pobol agored eu meddyliau. Yn eiddgar i greu a chwestiynu. Pobol gadarnhaol. Pobol ddymunol dros ben.  Mi roedden nhw, serch hynny, yn bobol ragfarnllyd.

O dan sylw’r ddau griw y bues i’n gweithio â nhw oedd bywydau pobol ifainc ddau gan mlynedd yn ôl. Pobol oedd, mewn cyd-destunau go wahanol i’w gilydd, wedi gweithredu’n radical yn wyneb heriau’r oes.

Roedd y rhagfarn gyntaf i fynd i’r afael â hi yn un ddigon disgwyliedig. Mae dau gan mlynedd yn ôl yn ddau gan mlynedd yn ôl. Roedd eu ffordd o fyw yn hen ffordd o fyw. Eu ffordd o sgwennu yn hen ffordd o sgwennu. Eu ffordd o garu yn hen ffordd o garu.

Ond mi roedden nhw’n caru. Ac yn cynhennu. Yn ffoli ac yn callio. Yn llonni a phwdu. Yn mynd dros ben llestri a chwympo i’r falen.

Dipyn o waith oedd rhyddhau’r criwiau ifainc o’r rhagfarn a gyflwynwyd iddynt gan y geiriau ‘hen’ a ‘hanes’. Ond wedi cael gafael yn allwedd y meddwl agored, buon nhw fawr o dro cyn iddyn nhw, bobol ifanc heddi’, ddechrau uniaethu â gobeithion a siomedigaethau pobol ifainc ddoe a fu.

Ond dim ond dechrau. Oherwydd roedd yna ragfarn arall yn dal i gaethiwo eu dychymyg, sef y syniad fod yr holl ‘grefydd’ a ‘diwygiadau’ a phethe yma oedd yn holl bresennol yn y cyfnod yn, wel… talp mawr tywyll o ragfarn. Mai mudiad cul a rhagfarnllyd oedd Anghydffurfiaeth. Mai sefydlu sefydliadau dweud-wrthot-ti-beth-i-feddwl oedd nod yr arweinwyr. A dyma ni nôl gyda dilema’r ‘bobol ifainc oedd yn hen eu ffordd’ unwaith eto. Hynny yw, i bobol ifainc heddi’ hen ddynion diflas-geidwadol oedd Harris a Rowland a Phantycelyn. Roedd eu fandaliaeth greadigol, eu radicaliaeth fentrus-beryglus a’u joie de vivre y tu hwnt i’w dychymyg. 

Mi oedd taclo’r ail ragfarn hon yn dipyn mwy o waith. Ond, mae’n werth nodi nad tasg amhosib mohoni – yn enwedig o fewn prosiect creadigol oedd â’r broses o gwestiynu a thrafod trwyadl, didwyll ac agored (ond diogel) yn greiddiol iddi.

Yn wir, ni fu’n hir cyn i gwestiynwyr a thrafodwyr ifainc seiet greadigol heddi’ ddechrau uniaethu â chwestiynwyr a thrafodwyr ifainc y seiet greadigol a fu. Yn enwedig wrth i’r cwestiynu a thrafod hynny fentro, ar adegau, i diroedd anghysurus gan achosi i ni gyd – beth bynnag oedd ein rôl o fewn y drafodaeth – fynd sia-thre â’r galon yn gor-guro a’r meddwl yn gwrthod ymdawelu.  

A beth oedd wrth fôn ein hanesmwythyd? Beth arall ond consyrn? A chyfrifoldeb. A chydymdeimlad. Yn wir, dim byd llai nag ein consyrn. Ein cyfrifoldeb. Ein cydymdeimlad. Cwestiynau oesol y theatr-heb-ffiniau ry’n ni’n ei galw’n Gristnogaeth. 

Does dim angen adeiladau na pharaffenalia technegol ar y theatr hon. I’r gwrthwyneb. Ei dynameg gyntaf yw tynnu lawr. Datod. Datgymalu. Diddymu pob ‘rhag’ sy’n rhwystro.

Mae pobol ifainc, yn amlwg, yn barod i greu. Beth yw’r ‘rhag’? Y rhwystr? Ni, falle? A’n rhagfarnau?

Ddaeth hi’n awr eu dinistrio?