E-fwletin 30ain Gorffennaf 2018

Fyddwch chi yn y gwasanaeth fore Sul yn yr Eisteddfod? A fyddwch chi’n aros ‘mlaen i’r Gymanfa Ganu Foreol ?
Dyma un na fydd yno.

Nid am fod yr amser yn lletchwith, nac am fod Cymanfa yn y Bore yn swnio fel rhywbeth wedi ei wthio o’r neilltu, ond am nad ydw i wedi llwyddo bod yn y naill neu’r llall ers blynyddoedd. Yn wir rwy wedi bod yn osgoi Cymanfaoedd Canu ers blynyddoedd ac yn cofio Aneirin Talfan Davies yn swta sylwi mai “canu pop wnaeth ddifetha pob diwygiad a fu yng Nghymru erioed”.

Clywais ambell flwyddyn ganmol i’r côr neu edmygedd o waith y plant – y cwbl yn dystiolaeth o’r diwylliant perfformio sy’n rhan mor bwysig o’n diwylliant Cymraeg. Clywais ganmol ar ambell bregeth ddewr neu rymus , a chlywais ffrindiau annwyl yn sôn am y profiad adnewyddol o ganu emynau mewn cynulleidfa fawr.

Ond ai dyna amcan cynnal y gwasanaethau hyn yn yr Eisteddfod ar y Sul? Ai er mwyn galluogi pawb sy’n dal i arddel eu hymlyniad wrth yr Efengyl i fwynhau bod mewn cynulleidfa (gymharol) fawr ac i ganu hoff emynau gydag arddeliad. A’r Gymanfa?

Pan fyddwn ni’n trio ‘cynnal’ ambell sefydliad neu achos da, oni fyddai’n well weithiau ei adael i farw? Gwell torri troed neu goes i ffwrdd na gadael i’r cnawd fadru a gwenwyno gweddill y corff.

Felly dyma holi a yw gwasanaeth a Chymanfa’r Eisteddfod yn gwneud unrhyw beth o werth i fywyd Cristnogol Cymru erbyn hyn? Dichon fod unigolion neu gôr ar eu mantais ond a ydi’r gwasanaethau hyn, ddim bellach, os buon nhw erioed, yn achlysuron adfywio ffyddlondeb, porthi’n duwioldeb, dyfnhau’n deall o’r ysgrythurau, a rhoi asgwrn cefn yn ein tystiolaeth i’r Efengyl? Mae gwasanaethau bychain ym mhabell Cytûn wedi bod yn fwy bendithiol, dybiwn i.

Pam bod mor negyddol?

Mewn gwasanaeth o fawl, neu wasanaeth y Gair, neu Gymun Bendigaid y mae rhyw hanfodion sy’n rhaid i ni wrthynt. Ymwybyddiaeth o fawredd y Creawdwr, rhyfeddod o gofio dysgeidiaeth a bywyd Iesu, a hiraeth am gyffyrddiad Ysbryd Duw yn ein dwysbigo, ein cysuro, a’n cryfhau. Nid cael ein difyrru, na’n diddori na pheri rhyfeddod at ansawdd cerdd na barddoniaeth na morio canu, na dim felly. Cael ein hatgoffa o wirioneddau sy’n sail i’n buchedd. Hebddynt, nid oes addoli. ‘Diwylliant’ yw’r gweddill. Diwylliant graenus a gwreiddiol hyd yn oed. Ond ydi gwreiddioldeb yn rhinwedd mewn addoli?

Maddeuer gair o brofiad. Nid sathru ar gyrn yw’r bwriad. Mae’r Cymry sy’n aelodau o Gylch Cymraeg Eglwys Rhufain yn cynnal offeren yn Gymraeg bob blwyddyn. Y llynedd, yn Y Fenni, yr oedd, yn ôl y traddodiad yn Eglwys y Plwyf. Eglurodd yr Esgob Edwin Regan i’r twr plwyfolion lleol oedd wedi ymuno i gefnogi’r achlysur, bod y cwbl yn mynd i fod yn Gymraeg. Ac meddai yn ei ddull bachog ei hun, yn Saesneg “What matters is that the language of the Mass is love” – Beth sy’n cyfrif yw mai iaith yr Offeren yw Cariad.

Dyna i ni i gyd sut i fesur dilysrwydd ein haddoli ar unrhyw achlysur.