E-fwletin 21 Mehefin 2020

“Tynnu i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu….”

Mae tri darlun yn glynu yn y cof am gynnwrf yr wythnosau diwethaf.

  • Cerflun efydd o lofrudd gwyn a wnaeth ffortiwn ar werthu caethion, yn cael ei dynnu i lawr a’i daflu i ddoc Bryste.
  • Dyn du yn cario ar ei ysgwyddau ddyn gwyn a anafwyd mewn gwrthdystio chwyrn yn Llundain.
  • Dyn gwyn â’i gefn tuag at y camera yn arllwys ei ddŵr gerllaw cofeb i blismon a laddwyd mewn ymosodiad terfysgol flwyddyn neu ddwy yn ôl.

Hiliaeth yw’r cefndir cyffredin y tri llun. Protest gyfiawn yw Black Lives Matter (BLM) yn erbyn lladd pobl dduon, dynion ifanc yn bennaf, gan heddlu yn America, peth sy’n parhau traddodiad di-ddeddf y ‘lynching’ oedd yn ddifyrrwch prynhawn Sul i Gristnogion gwyn De America ar un cyfnod. Mae diwylliant gynnau i bawb yn golygu bod llu o bobl wynion hefyd yn dioddef yr un cam.

Mae’r tri llun yn tystio naill ai i rym neu i berygl tyrfa o bobl wedi gwylltio neu wedi meddwi. Y mae angen disgyblaeth ac undod ysbrydol i rwystro torf rhag troi’n giwed dreisgar. Yr oedd Ghandi yn hyfforddi pobl sut i fod yn ddi-drais mewn protest. Pan oedd Martin Luther King yn ei anterth yr oedd diwylliant o hunan ddisgyblaeth a gweddi yn clymu’r dorf yn uned o ddyheu am gyfiawnder. Dymchwelwyd y cerflun o Colston ym Mryste i ‘Hwre’ gan filoedd – minnau’ n eu plith. Ond oherwydd natur dorfol y cyfryngau, mae mwy o sylw yn cael i roi i ddymchwel cerfluniau erbyn hyn nag i ddymchwel hiliaeth. Ardderchog o beth wythnos yn ddiweddarach oedd gweld urddas argyhoeddedig peldroediwr ifanc croenddu yn ennill dadl o blaid plant newynog. Gallai hynny wneud mwy yn erbyn hiliaeth na’r protestio.

Ac mae’r criw o ddynion du a arbedodd fywyd creadur gwyn o’r aden dde yn arddangos dynoliaeth gref a thrugarog oedd yn drech na bygythiadau ciwed ddi-feddwl. Trawiadol hefyd mai ei deulu ei hun a ddywedodd wrth yr heddlu pwy oedd yr un yn gollwng ei ddwr ger cofeb i heddwas a laddwyd wrth wneud ei waith o ddiogelu’r cyhoedd. Yr oedd arnynt gywilydd ohono – ac yntau ohono’i hun erbyn hyn.

Y lleiaf y gallwn ei wneud ydi dysgu am hanes pobl dduon yma ym Mhrydain, ac yn arbennig yng Nghymru. (Mae’r enw Floyd yn swnio fel llygriad o’r enw Lloyd/Llwyd. Pwy tybed oedd y Llwyd hwnnw oedd yn berchennog cyndeidiau George Floyd?) Nid peth hawdd yw newid cwricwlwm hanes, fel y gwyddom yng Nghymru ac mae angen i ninnau glywed hanes disgynyddion y caethion.

Na wrthwynebwch ddrwg meddai Iesu wrth ei ddilynwyr, ac mae’n haws deall pam pan welwn weithredoedd sy’n peri rhyfeddod a llawenydd. Gallwn ddechrau trwy ddiheintio’n calonnau o bob rhagfarn cudd anymwybodol ynom ni’n hunain a’n gwared rhag pob hunan-gyfiawnder a gwrando.

 “Dydw i ddim am sylweddoli faint y mae rhyddid yn ei hawlio gen i, na faint o ymroddiad mewn cariad a thangnefedd y bydd ei angen”. (Rumi, bardd Sufi o’r Dwyrain Canol).

 

SESIWN ZOOM C21

7:00 p.m. Nos Fercher, 15fed Gorffennaf

‘ADDOLI YN Y CYFNOD CLO’

Rhannu profiadau yng nghwmni:

Rhodri Darcy, Beti Wyn James, Evan Morgan

Llywydd: Enid Morgan

Cadeirydd y drafodaeth: Emlyn Davies

Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn dilyn yn syth wedyn.

Rhaid cofrestru i gael cyfrinair er mwyn ymuno.

Anfonwch e-bost at: cristnogaeth21@gmail.com neu atebwch y neges hon.