E-fwletin 20 Ionawr, 2019

HEN WLAD FY MAMAU

Nid heb rywfaint o gywilydd mae sylweddoli pa mor esgeulus, os nad dibris, wir,  fuom ni drigolion hen wlad y tadau o ferched, ein mamau a’n chwiorydd. Cyrhaeddodd y ffaith honno adre mewn ffordd arbennig iawn yr wythnosau diwethaf yma’n dilyn ymgyrch gafodd gryn sylw ar y cyfryngau torfol, ’Hidden Heroines.’ Erbyn hyn gwyddom mai Betty Campbell fydd yn cael ei lle gydag Aneurin Bevan, Lloyd George, Gareth Edwards a’u tebyg ar bedestalau’r brifddinas.

Mae’n werth nodi nad ffenomen Gymreig mohoni  ond yn hytrach ddiffyg cyffredin i genhedloedd ar draws y byd. Yr hyn sy’n rhyfedd, er hynny, mewn perthynas  â’r Cymry yw iddynt gael eu nabod ar un adeg fel pobl hynod o ystyriol o le merched yn eu bywyd a hwnnw’n lle blaenllaw ac anrhydeddus.  Ofer sôn nawr, efallai, am le amlwg a chyfiawn merched yng nghyfreithiau Hywel Dda, gynt. Yn nes atom o lawer a heb fod yn gwbl ddieithr inni  yw’r teuluoedd Cymraeg laniodd ym Mhatagonia yn 1865 â’r cerflun o’r fam Gymreig godwyd yn Puerto Madryn yn dynodi’r ffaith, â hithau’n cefnu ar y môr ac yn wynebu’r antur heriol a pheryglus am y tir, i rywrai sylwi mai hithau oedd ar y blaen yn arwain a chyfarwyddo, yn ennyn hyder a chalonogi.

Beth ddigwyddodd inni? Beth aeth o’i le? Go brin i’r gwronesau i gyd fynd dros y dŵr!

Prin, wrth gwrs, yw lle Cristnogion i feirniadu’r neb roddodd le eilradd i ferched gan i’r eglwys fod cynddrwg â’r un sefydliad am eu cadw’n eu lle. Sobrwydd yw sylweddoli i gynifer o Gristnogion gywreinio eu clustiau yn y fath fodd nes clywed y Beibl yn  cadarnhau a  meithrin eu rhagfarnau jingoaid.   Nid fod hynny wedi bod yn gamp fawr iddynt chwaith a chofio bo’r Ysgrythurau yn gynnyrch cyfnodau nad ystyriai fenywod yn gydwastad â gwrywod. Pennod sy’n dyrchafu gwraig i safle aruchel iawn yw’r olaf yn llyfr y Diarhebion. Eto, safle eilradd ydyw â hithau’n sefyll yno ar sail ei pherthynas â’i gŵr a’i phlant. Does rhyfedd yn y byd bo’i  ‘gŵr yn ei chanmol’ a’i ‘phlant yn ei bendithio’  â hithau wrthi’n ddiatal,  ddydd a nos yn darparu ar eu cyfer.

Un o gamau mentrus cyfieithydd Beibl.net, er mawr ofid i’r puryddion Beiblaidd,  oedd dofi barn yr Apostol Paul ar ferched. Wrth osod rhai o’r brawddegau a ystyrir yn wrth-fenywaidd mewn dyfynodau y mae’r Apostol wedi ei achub rhag sawl cam a chael ei weld, bellach,  yn ŵr blaengar yn ei ddydd, arloesol, rhydd a radical ei feddwl. Nid Arfon Jones yw’r cyntaf i nodi hyn, wrth gwrs, ond mae lle i gredu y caiff ei farn ef fwy o ystyriaeth yng Nghymru nag un Karen Armstrong a Tom Wright, dyweder.

Mae ‘na ryw sibrydion ar led ar hyn o bryd mai Prisca yw awdures y llythyr at yr Hebreaid. Bydd  hynny’n sicr o  wthio’r ffiniau’n ormodol i rywrai, yn enwedig o gofio mai’r un soniodd gyntaf am hynny oedd y diwinydd, nid anenwog, Adolf von Harnack.

Ein cofion atoch – a chofiwch am Facebook, ac am ein gwefan a’r cyfle i ymateb ac i drafod. Cofiwch hefyd am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar 29 a 30 Mawrth yn Aberystwyth ar y thema ‘Dechrau o’r Newydd’. Bydd cyflwyniad theatrig ar y nos Wener, a darlithoedd ar y Sadwrn gyda Cynog Dafis, Arwel Jones, Catrin Williams, Huw Williams a Gareth Wyn Jones. Mae’r manylion llawn ar ein gwefan yn yr Adran Newyddion.