E-fwletin 13 Ionawr 2019

“Cymraeg oedd iaith Iesu am a wyddom ni”

 Mae addoldai, yn arbennig yng nghefn gwlad,  yn wynebu sefyllfa drychinebus. Mae rhai capeli yn methu sicrhau un oedfa bob Sul, ond beth sy’n rhwystro  cydgynllunio a chydweithio? Mae enghreifftiau o gydweithio, wrth gwrs, ond diffyg hynny yw’r darlun cyffredinol trist.
 
Mae’n bryd i ni gydnabod  nifer o anawsterau:
 

  1. Mae strwythur Cytûn yn rhwystr.

Trefnir yn enw Cytûn ar sail ddaearyddol yn unig, gan obeithio y bydd yr oedfaon yn rhai ‘dwyieithog’.  Mae addoldai Saesneg yn tueddu i ganoli mewn trefi, tra mae addoldai Cymraeg yn llawer mwy gwasgaredig. Gwell o lawer felly fyddai hybu cydweithio rhwng addoldai sy’n defnyddio’r un iaith, yn hytrach nag ar sail lleoliad.
 

  1. Dydy oedfaon dwyieithog ddim yn gweithio.

Mae angen gormod o waith paratoi. Pan mae hyn yn digwydd (e.e. Cwrdd Gweddi Chwiorydd y Byd) y canlyniad yw oedfa hir iawn, sef i bob pwrpas ddwy oedfa, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg. Nid wyf erioed wedi mynychu un ble nad wyf wedi clywed grŵp di-Gymraeg,  bach ond swnllyd, yn cwyno ynghylch faint o Gymraeg a defnyddiwyd, hyd yn oed mewn ardal ble mae mwyafrif y trigolion a’r addoldai yn naturiol Gymraeg.  Mae’n amhosibl egluro i Saeson uniaith pam mae addoli yn y Gymraeg yn bwysig i ni.  Mae pwysau parhaol am fwy o Saesneg yn creu oedfaon Saesneg gyda phwt o Gymraeg i gyfiawnhau eu galw yn “ddwyieithog”.  Gall hyn arwain at newid iaith addoldy yn llwyr (fel mae eglwysi Anglicanaidd  ac ambell gapel wedi ei ddarganfod).
 
       3. Mae enwadaeth yn rhwystr.

Pleidleisiodd rhai Annibynwyr yn erbyn uno’r enwadau anghydffurfiol ar y sail y buasai hynny yn eu  gorfodi i weithredu’n ddwyieithog,  a pheth anarferol yw dod o hyd i ddefnyddiau cyd-enwadol Gymraeg. Gwneir ambell drefniant gan enwadau i gynorthwyo  eglwysi gwan. Yn yr ardal hon, mae un enwad yn darparu person i gefnogi  eglwysi heb weinidog  tra mae enwad arall yn trefnu cyrsiau hyfforddi  lleygwyr. Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y ddau.  Mae diffyg cyfathrebu dychrynllyd. Ni wn o’r gornel hon,  a oes cynlluniau Cymraeg gan enwadau eraill.  Hyd y gwn, nid oes cynlluniau gan yr enwadau i annog cydweithio lleol.
 
4.         Mae angen cyd-drefnu.

Cymraeg yw iaith Iesu i fwyafrif y Cymry Cymraeg, ac felly mae addoli mewn iaith arall mor lletchwith a defnyddio’r Saesneg gyda’u teulu. Mae eglwysi bychain yn methu rhannu eu trefniadau ac mae angen deunydd addoli sy’n hawdd ei rannu a’i ddefnyddio mewn  grwpiau bychain. Nid ydym yn ceisio dod â Christnogion Cymraeg at ei gilydd heb sôn am genhadu ymhlith y genhedlaeth iau. Mae dirfawr angen trefnu datrysiadau Cymraeg ond  pwy sy’n gyfrifol am hybu cynllunio Cymraeg lleol?  Cytûn?  Yr Enwadau? Cristnogaeth 21?
 
Tra’n bod yn ystyried y pethau hyn mae capel arall , yn yr ardal hon, yn cynnal yr oedfa olaf y Sul nesaf.  Yn y dryswch a’r galar mae’n amhosibl gwybod faint o’r aelodau fydd yn symud i addoldy arall, a faint fydd yn colli cysylltiad gyda’u cyd-Gristnogion.
 
(Cofiwch am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar 29 a 30 Mawrth yn Aberystwyth ar y thema ‘Dechrau o’r Newydd’. Bydd cyflwyniad theatrig ar y nos Wener, a darlithoedd ar y Sadwrn gyda Cynog Dafis, Arwel Jones, Catrin Williams, Huw Williams a Gareth Wyn Jones. Mae’r manylion llawn ar ein gwefan yn yr Adran Newyddion.)