E-fwletin 19 Medi 2021

Spong

Yr wythnos hon fe fuodd Yr Esgob John Shelby Spong farw yn 90oed. ‘Nes i erioed gyfarfod y dyn, ond fe newidiodd fy mywyd i.

Fe wnaeth Spong i mi feddwl, a rhoddodd wedd newydd i mi ar Iesu Grist. Rhoddodd yr atebion yr oeddwn i’n chwilio amdanyn nhw pan oedd diwinyddiaeth Ysgol Sul y 70au wedi hen fethu, a minnau wedi rhoi’r gorau i feddwl. Er fy mod mewn eglwys fywiog eangfrydig, doedd gen i fy hun mo’r arfau deallusol i gyfiawnhau fy aelodaeth o’r eglwys i mi fy hun heb sôn am fy ffrindiau yn y dafarn. Ond daeth Spong.

Proffwyd yn ei oes ei hun, ac fel dywedodd rhywun am y gwirionedd, fe’i dilornwyd, ac fe’i gwrthwynebwyd yn ffyrnig nes ei dderbyn yn ddigamsyniol.

Dyrchafwyd Spong er ei waethaf ei hun a heirarchiaeth ei eglwys, yn Esgob. Llwyddodd i gadw’r swydd honno er gwaethaf ei wrthwynebwyr, a’i defnyddio fel llwyfan i gyfathrebu ei neges i’r byd.

Roedd yn ddiwinydd praff a deallus ond yn gyfathrebwr syml a grymus.

I mi eglurodd ffeithiau syml ond chwyldroadol.

Ganwyd Cristnogaeth yn y Synagog ac fe’i magwyd yno am yn hir iawn. Iddew oedd Crist ac fe lapiwyd yr ysgrythurau Iddewig amdano. Wnaeth y Beibl ddim proffwydo dyfodiad Crist. Ysgrifennwyd hanes Crist gyda’r ysgrythurau Iddewig ar agor fel bod y stori honno’n cyflawni’r hyn a broffwydwyd ganddynt.

A’r frawddeg ysgytwol a gaed ganddo’n gyson oedd – ac mae pob ysgolhaig Beiblaidd yn gwybod hyn.

Felly sut nad oeddwn i’n gwybod? Sut nad oedd degawdau o bregethwyr huawdl wedi llwyddo i gyfathrebu hyn i mi? Wrth gwrs byddai rhai yn gwadu hyn. Ond roedd llu o rai eraill yn cadw’n dawel; er mwyn cadw’r ddysgl eglwysig yn wastad, rhai yn ei sibrwd rhwng y llinellau fel bod y rhai oedd eisoes yn gwybod yn ei glywed. Ond doeddwn i ddim yn clywed nac yn deall. Fel maen nhw’n dweud, roedd angen rhywun i sbelio fo allan i mi. A Spong wnaeth hynny.

Ac unwaith mae rhywun wedi deall, ac wedi deall mai’r nod yw dehongli’r gwirioneddau mytholegol yn y stori yn hytrach na chwilio’n ofer am wirioneddau llythrennol – yna mae hanes bywyd a gwaith Crist yn agor o’r newydd ac mor berthnasol ac erioed yn yr 21G. Mae modd edrych ar y geni, y gwyrthiau a’r atgyfodiad a’u deall mewn cyd-destun ysgrythurol, diwinyddol, dilys, heb eu credu’n llythrennol. Roedd hyn yn gymaint o ryddhad i mi – yn llythrennol.

Credai Spong bod yr eglwys wedi ei chaethiwo i oes o’r blaen ac os oedd hi’n perthyn i oes arall roedd hi’n anorfod ei bod yn marw gyda’r bobl oedd yn cofio’r oes bell honno. A chynigiodd ffordd ymlaen.

Gwnaeth wahaniaeth ymarferol. Credai yn lle merched a phobl hoyw yn yr eglwys ac ordeiniodd ddegau o frodyr a chwiorydd yn offeiriaid yn ei enwad. Gwnaeth ei hun yn wyneb cyhoeddus i farn radical, amhoblogaidd. Daeth yn enw, yn arwr, yn gocyn hitio ac yn elyn i lawer. Ond defnyddiodd y sylw ac oes y teledu a’r we i daflu ei lais hyd yn oed ymhellach.

Ysgrifennodd dros ddwsin o gyfrolau ysgolheigaidd ond hygyrch. Dechreuais i gyda ‘Why Christianity Must Change or Die’. Cystal lle a’r un!

Dwi’n gobeithio fy mod yn dweud pader wrth berson, ond dylai pawb sydd yn dilyn Cristnogaeth 21 ddarllen neu wrando ar Spong. Dechreuwch yma:

https://www.youtube.com/watch?v=JrNJR2bZNdA

…  a dilynwch eich trwynau trwy youtube a thrwy ei lyfrau fesul un.

Dywedodd, ei fod, wrth fynd yn hŷn yn credu’n ddyfnach ond fod ganddo lai o gredoau nac erioed.

Y mantra i mi yw: Rwy’n gweld Duw fel ffynhonnell bywyd sy’n ehangu fy ngallu i fyw; i fyw i’r eithaf. Rwy’n gweld Duw fel Ffynhonnell cariad sy’n fy rhyddhau i garu y tu hwnt i unrhyw rwystr; i garu’n afrad. Rwy’n gweld Duw fel Sylfaen Bod sy’n rhoi’r dewrder i mi i fod y cyfan a alla’i fod. Trwy fyw i’r eithaf rwy’n gwneud y Duw sy’n fywyd yn weladwy. Trwy garu’n afrad rwy’n gwneud y Duw sy’n gariad yn weladwy. Trwy fod y cyfan a alla’i fod rwy’n gwneud y Duw sy’n Sylfaen Bod yn weladwy.

Fe lwyddodd. Gobeithio y cawn ninnau ras i ‘sbelio fo allan’ i’n hoes a’n gwlad ninnau. Diolch amdano.