E-fwletin 18 Hydref 2020

Mynd am dro

“Pwy a all gael digon o syllu ar ei ogoniant ef?” (Ecclesiasticus 42:25)

Dwi ‘di bod yn cerdded ar hyd heolydd a feidiroedd fy milltir sgwâr ers misoedd lawer erbyn hyn. Dwi’n hoff o gerdded ond pe bai rhywun wedi dweud wrtha i cyn y cau mawr y byddwn yn mwynhau cerdded mewn cylchoedd o fewn tafliad carreg i’r tŷ oherwydd cyfyngiadau COVID 19 byddwn wedi ei wfftio. Ond os am ymarfer corff ac awyr iach doedd ‘da fi ddim dewis.

Weithiau mae cael eich gorfodi i newid yn beth da. Doedd dim hawl neidio yn y car a gyrru am filltiroedd lawer i’r traeth neu’r mynydd agosaf er mwyn cael mwynhau’r golygfeydd. Doedd dim modd stopio am ddisied mewn caffi ar y ffordd adref. Boed law neu hindda byddwn yn camu o’r tŷ a gydag amser fe ddes i fwynhau’r arlwy rhyfeddol oedd i’w weld ym môn y cloddiau.

Fe sylwais ar hen furddun oedd wedi ei gwato gan ddinad ac iorwg, fe ddes i werthfawrogi crefftwaith y gwerinwyr a gododd y cloddiau cywrain ac fe ddechreuais oedi a syllu ar risgl hen dderwen ger croes Geltaidd ar ben feidr fferm gyfagos. Sylwais fod pistyll  yn codi nid nepell o’r tŷ pan oedd hi’n bwrw glaw’n drwm. Yn olaf, fe ddechreuais ddysgu enwau rhai o’r blodau a’r creaduriaid des i ar eu traws – Sawdl y Fuwch, Garlleg yr Arth, Llysiau’r Drindod, Llygad Llo Mawr, Llin y Tylwyth Teg, Boneddiges y Wig, Glöyn Trilliw Bach a Brith y Coed.

Bu rhaid newid y drefn ar ddydd Sul. Dim cwrdd am 10.30 ‘pronto’. Dim ishte’n y sedd arferol, gweddi, codi, emyn, ishte, gweddi, codi, emyn, darlleniad, casgliad, codi, emyn, pregeth, codi, emyn, gweddi, getre! Da’th hi’n drefn newydd ar y Sul. Codi’n weddol, boed law neu hindda a mas am dro ‘da’ r ci, gan wledda ar arlwy rhyfeddol Duw ym môn y clawdd. Cyrraedd getre, matryd os oedd y dillad yn stegetsh, dished o de. Yna, ishte lawr a mwynhau oedfa neu gyfraniad dros y we neu ar y teledu.

Wedi fy ysgogi gan ambell i gyflwyniad gallwn droi at fy Meibl a darllen ymhellach gan ddilyn trywydd y cyfraniadau lu oedd yn cyrraedd y ‘rwm ffrynt’ o bob rhan o Gymru. Roedd cynifer o negeseuon arbennig ac amrywiol – fel y blodau a’r pili pala ym môn y clawdd – gan aelodau o deulu’r ffydd. Roedd yn chwa o awyr iach o wybod bod cynifer am rannu o’u ffydd a’u profiad a thrwy hynny fy nghysuro a’m herio.

O fedru rhannu neges y Gwaredwr gyda chyd Gristnogion Cymru benbaladr codwyd fy ysbryd a bu’n fodd i fy nghynorthwyo i gadw persbectif, cadw’r ofnau draw a lleddfu’r gofid am deulu a gwaith. Dyna beth yw hanfod ffydd – cynnig gobaith am y presennol a’r dyfodol, cynnig cynhaliaeth a phwrpas pan all pethau bod yn ddiflas a rhyfeddu a chanmol pan ma’ popeth yn iawn. Yn ystod y ‘clo mawr’ fe wnaeth Duw fy nghynorthwyo i ryfeddu ar Ei greadigaeth trwy fy arwain ar hyd heolydd a feidiroedd fy milltir sgwâr a chynigiodd gyfle i fi gael rhannu o’i air anhygoel o gludwch fy nghartref.

Yn ddiweddar, fe ail ddechreuodd gwasanaethau’r capel. Rhyfedd o deimlad oedd cerdded nôl drwy’r drysau mawr i horest o adeilad Fictorianaidd. Roedd pawb ar wasgar ac yn syllu ar ei gilydd o bellter. Braf oedd cael cwrdd â chydnabod a chael gwrando ar y Gair, ond mae fy Sul wedi newid. Mae’n rhyfedd fel mae Duw yn gweithio. Wedi dychwelyd o’r oedfa, er gwaetha’r glaw a’r gwynt, rhaid oedd mynd am dro.

Cyfarchion caredig

Cristnogaeth 21

www.cristnogaeth21.cymru

 

Cofiwch ein bod yn dal i wahodd cyfraniadau ariannol tuag at yr Apêl i hyrwyddo gwaith Cristnogaeth 21. Hyd yn hyn, rydym wedi codi’n agos at £2,000 ond mae angen rhagor i gynnal y wefan a sicrhau parhad y llwyfan i drafodaeth agored a blaengar ar Gristnogaeth gyfoes. Mae’r manylion ar sut i gyfrannu ar gael ar y wefan. Diolch yn fawr.