E-fwletin 15 Rhagfyr, 2019

Democratiaeth?

Wedi’r holl ddyfalu, wedi’r holl ganfasio, dyna ni’n gwybod beth yw barn y bobol. Barn neu fympwy? Yn hynny o beth mae gen i gydymdeimlad â’r 216 ymgeisydd a safodd y tro hwn yng Nghymru.

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol hon fe ddaeth hi’n amlwg fod democratiaeth “newydd” ar waith. Cyn hyn, fe welwyd pa mor bwysig oedd gallu’r arweinyddion a chynrychiolwyr y pleidiau i greu argraff ar y gynulleidfa deledu. Mewn geiriau eraill roedd gallu person i “berfformio” yn allweddol, sy’n awgrymu y dylid cadw hynny mewn cof wrth ddewis arweinydd. Y gallu i berfformio o flaen y camerâu oedd yr ystyriaeth. Er yn waith caled, dan lygad didrugaredd y camera, roedd hynny’n esmwythach na chrwydro’r strydoedd trwy’r gwynt a’r glaw i gyfarfod â phobol wyneb yn wyneb.

Pwy enillodd y ddadl deledu oedd yr ymffrost. Ond mae’r ddemocratiaeth “newydd” wedi symud barn i berspectif mwy sinistr. Dro ar ôl tro, ac nid yng ngwledydd Prydain yn unig o bell ffordd, mae celwydd yn dod yn rhwydd i wleidyddion. Magodd yr ymadrodd ‘fake news’ ei ystyr ei hun, i’r graddau fod hau yr hadau camarweiniol, celwyddog bellach yn arf a ddefnyddir yn agored i ddylanwadu ar y gwyliwr. Yr hyn sy’n dioddef yw ‘gwirionedd.’

Onid tristwch affwysol yw’r ffaith fod Arlywyddion a Phrifweinidogion gwledydd yn pedlera celwyddau yn gwbl wyneb-galed ac wyneb-agored? Mae’n nodwedd herfeiddiol, afiach o drin y broses. Bu adeg pan oedd ansawdd i arweinyddiaeth. Dawn brin yw honno heddiw.

Pam fod gwleidyddion o’r fath, mae’n ymddangos, yn poeni cyn lleied am ennill ymddiriedaeth pobol? Ennill pŵer yw’r nôd. Addo’r byd, heb fawr fwriad i gyflawni’r addewidion hynny – ag eithrio parchu’r farn rwygedig [52%/48%] am gyflawni Brexit.  Onid y gwir yw ein bod ni’n talu’r pris am fethiant gambl y Torĩaid bron bedair blynedd yn ôl i drechu plaid oedd yn fygythiad iddi hi bryd hynny ond sydd bellach yn blaid gloff a’i harweinydd unbeniaethol wedi troi ei gôt. Ei air olaf ef yn yr ymgyrch oedd gobeithio am law trwm ar ddydd yr etholiad er mwyn taflu dŵr oer ar frwdfrydedd ei wrthwynebwyr! A gobeithio na fydd y ffermwyr hynny oedd yn wên lawen ac yn codi eu bodiau-tywydd-teg ym mhresenoldeb Boris Johnson yn y Ffair Aeaf yn cwyno am ansicrwydd y farchnad amaethyddol yfory.

Mae’r dyddiau pan oedd rheidrwydd ar y cyfryngau torfol i gadw balans ac i fod yn ofalus rhag lledu celwyddau wedi hen fynd heibio. Y cyfryngau dylanwadol erbyn hyn yw’r cyfryngau cymdeithasol di-reoledig. Sut gellir eu rheoleiddio sut bynnag? Mae’n ddiwydiant ynddo’i hun. Ac mae cyflymder y dylanwad yn aruthrol. Dyna natur y bwystfil. O fewn mili-eiliad mae’r celwyddau a’r hanner-gwirioneddau wedi eu hanfon a’u hail-anfon gan filiynau o ddefnyddwyr y “ddemocratiaeth” anghyfrifol, beryglus hon.

Yr eironi, yn nhymor Adfent, yw mai symbol y groes fu’r arwydd ar y papur pleidleisio. “Gwasgarodd y rhai balch eu calon; tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau, a dyrchafodd y rhai distadl.” ‘Fake news’ neu gwirionedd?