Gwerth ei ddarllen:
A Bigger Table – Building a Messy Authentic and Hopeful Spiritual Community (John Pavlovitz : Westminster and John Knox Press)
Daeth y llyfr i’m dwylo ar yr un pryd a chyflwyniad “Y Byd ar Bedwar” ar fywyd crefyddol Cymru. Roedd y rhaglen deledu yn ddarlun o barlys, ofn a digalondid. Bu darllen y llyfr yn help i’m ysbrydoli ac i ymwroli.
Y mae’r llyfr yn dechrau gyda Pavlovitz yn ŵr galarus o ganlyniad i ethol Donald Trump. Mae’n siomedig yn bennaf oherwydd bod cymaint o greulondeb a chasineb wedi dod i’r golwg ymhlith y boblogaeth a’r cyfan wedi digwydd gyda thipyn o help o’r byd crefyddol.
Roedd Pavlovitz yn fachgen oedd yn sicr o’i hunaniaeth o fewn diwylliant llwythol y byd Eidalaidd/Americanaidd. Aeth i goleg gan gyfarfod â phobl agored a chariadus. Arweiniodd hyn ymhen blynyddoedd iddo ddod “yn weinidog i bwy bynnag” (all people pastor).
Datblygodd ei ffydd mewn ffordd oedd yn anturus, gwefreiddiol ac yn llawn menter peryglus: “roeddwn yn dod i gyffyrddiad gyda phersonau nad oedd gen i ddim yn gyffredin â nhw ond yn raddol dihunais i’r ffaith fod gen i a nhw dir cyffredin, sef, ein dynoliaeth”.
Bu Pavlovitz yn chwilio am ysbryd eangfrydig o fewn yr eglwys ond yn rhy aml yn darganfod bod cymunedau ffydd yn “gentrified, sanitized and homogeneous”. Roeddent yn cadw ar wahan i’r “tlawd, pobl y chwith neu unrhyw un sydd am ryw reswm yn anodd i ddelio â nhw”.
Y mae’r llyfr yn ysbrydoli ac yn herio gan gyfeirio at rhywbeth sy’n fwy na chrefydd oedfa (awr yn unig) sydd o dan reolaeth gaeth. Mae’n tywys tuag at “fwrdd mawr” croesawus sy’n rhy fawr i’w gario trwy ddrws capel nac eglwys. Nonsens iddo yw “Duw mawr a bwrdd bychan” ac y mae angen ceisio deall a delio â’r hyn sy’n cyfyngu ac yn elyniaethus i efengyl gras a chariad, gan gynnwys yn rhy aml pobl a’u syniadau tra crefyddol.
Dyma broblem i ni Gristnogion Cymraeg – sut mae cysoni brwydr dros yr iaith gyda bwrdd eang?