E-fwletin 12 Medi 2021

Pigau’r drain

I’r rhai ohonom sy’n byw ar y tir mae mis Medi yn arwyddo dechrau tymor y torri cloddiau. Dyma’r amser rydyn ni’n troi sylw at y ffiniau sy’n cadw trefn rhwng cae a chae, maes a gwndwn. Mae’r drain, y meiri a’r rhosod gwylltion wedi cael penrhyddid dros yr haf ac mae’r tyfiant blynyddol yn ddrysfa bigog erbyn hyn. Ond cyn rhoi’r peiriannau tocio ar waith rhaid mentro i estyn llaw i ganol pigiadau’r drysni a’r drain i gasglu cynhaeaf cyfoethog o eirin duon bach, mwyar a chriafol.

Pigog a dryslyd yw hi yn Affganistan hefyd – a dweud y lleiaf. Ry’n ni gyd wedi gweld y lluniau truenus o faes awyr Kabul wrth i filoedd geisio ffoi am eu bywydau o flaen milwyr y Taliban. Ry’n ni wedi clywed am ofnau pobl am ddychwelyd i drefn gyfreithiol Islamaidd lem. Ry’n ni wedi clywed am ofnau gwragedd a merched y bydd eu hawliau dynol yn cael eu sathru unwaith yn rhagor. Ac mae pryder am ffyniant economaidd y wlad hefyd wrth i gefnogaeth ryngwladol ddiflannu. Bydd tlodi yn siŵr o ddilyn, fel y mae yn sgil pob rhyfel.

Yr hyn sy’n synnu llawer yw pa mor sydyn y bu goruchafiaeth y Taliban. Dywed rhai sylwebyddion mai un esboniad am hynny yw deisyfiad taer gwerin Affganistan am heddwch ar ôl profi 43 mlynedd o ryfela. Ie, 43 mlynedd nid 20. Mae 43 mlynedd ers i’r coup comiwnyddol yn 1978 ysgogi adwaith gan y llwythau gogleddol, gan ysgogi tanciau Rwsia i groesi’r ffin i gefnogi’r llywodraeth a’r mujahadeen i’w herlid hwythau o’r wlad yn eu tro. Yn sgil hynny daeth y Taliban i rym.

Ddoe nodwyd 20 mlynedd ers cyflafan yr 11 Medi 2001 yn Efrog Newydd a Washington. Ni allwn ond cydymdeimlo â phawb a ddioddefodd ac sy’n parhau i ddioddef o ganlyniad i’r ymosodiad erchyll hwnnw. Ymosodiad 9/11 fu’r sbardun i’r Unol Daleithiau a Phrydain oresgyn Affganistan, wrth gwrs. Roedd y Taliban yn rhoi lloches i derfysgwyr eithafol. Rhaid oedd eu canfod a’u dileu. Codi rhyfel yn erbyn terfysgaeth oedd y gri – fel pe bai modd i ennill y frwydr honno drwy rym arfau.

Mae’r rhyfel honno a’r goresgyniad bellach ar ben. A diddorol oedd sylwi yn ddiweddar ar Jonathan Powell, pennaeth staff Tony Blair rhwng 1995-2007, yn cyfaddef mae colli fu hanes y gynghrair orllewinol. Ond y wers nad sy’n cael ei dysgu, meddai, boed hynny o Affganistan neu o Ogledd Iwerddon, yw nad oes modd gorseddu heddwch mewn gwlad heb yn gyntaf estyn llaw a thrafod gyda’ch gelynion. Dydy treched treisied ddim yn gweithio, meddai. Rhaid i heddwch parhaol fod yn gynhwysol ac mae hynny’n golygu cryn dipyn o gyfaddawdu a cheisio gweld pethau o safbwynt pobl eraill.

Mae’r offeiriad a’r awdur o’r Iseldiroedd, Henri Nouwen yn ein hatgoffa: “Yng Nghrist nid oes gwledydd i’w concro, dim ideolegau i’w gorfodi, dim pobl i’w dominyddu. Nid oes ond plant, menywod a dynion i’w caru”. O ystyried y ddrysfa sy’n wynebu pobl Affganistan y dyddiau yma, sut mae rhoi’r cariad hwnnw ar waith? Edifeirwch a maddeuant oedd y llwybr a ddewiswyd gan Desmond Tutu ac eraill yn Ne Affrica.

Maddeuant. “Beth yw maddau?” gofynnodd Waldo, “Cael ffordd trwy’r drain at ochr hen elyn”. Er mor fentrus a phoenus yw’r dasg, dim ond o wneud hynny y daw ffrwythau cynhaeaf Duw i’n dwylo.