Newyddion
Mwy na chytundeb Gwener y Groglith
Bu marwolaeth Martin McGuiness yn gyfle trist i bwyso a mesur arwyddion gobaith yng Ngogledd Iwerddon.

Ian Paisley a Martin McGuiness
Bu tröedigaeth McGuiness ei hun, o fod yn filwr rhyddid, neu derfysgwr, i ddilyn ffordd ddi-drais drwy’r bleidlais, yn ogystal â’r newid cyhoeddus yn Paisley, o fod yn corddi’r dyfroedd gyda’i anerchiadau a’i bregethau ymfflamychol, i fod yn gymodwr oedd yn barod i wrando, – bu’r cyfan yn destun diolch ac agor drysau. ‘Doedd y cyfeillgarwch a dyfodd rhwng y ddau ddim llai na gwyrth ac y mae’r darluniau o’r ddau gyda’i gilydd yn ddelweddau hapus a llawer mwy grymus na geiriau (dealladwy a dialgar) rhai fel Norman Tebbit neu ambell i gyn-filwr a glywyd ar Radio Cymru. Efallai mai’r hyn a fynegodd orau y newid sydd wedi digwydd yn y Gogledd yw pan gerddodd y ferch gyntaf i fod yn Arweinydd y DUP, Arlene Foster, i’r gwasanaeth angladdol yn Eglwys Gatholig St. Columba yn y Bogside ym Melffast – yr arweinydd cyntaf i wneud hynny – a chael cymeradwyaeth y gynulleidfa fawr oddi mewn ac oddi allan. Ategwyd y gymeradwyaeth honno gan eiriau Bill Clinton a gan fendith yr offeiriad, Y Tad Michael Canny ar ddiwedd y gwasanaeth yn cyfeirio at obaith y Pasg.
Yn ôl ar y bont
Mae digwyddiadau brynhawn Mercher, Mawrth 22ain ar Bont Westminster ac yn y fynedfa i Westminster ei hun, a hyd yn oed yr amser – 2.40p.m. – yn gyfarwydd i bawb erbyn hyn, ac nid oes angen i Agora ail adrodd y ffeithiau.
Bu’r cyfan yn drychineb i gynifer o unigolion, i deuluoedd (gan gynnwys teulu Khalis Masood ei hun ), i bobl Llundain, i Dŷ’r Cyffredin ac i’r Llywodraeth. Ond, ar drothwy’r Pasg, mae’r ymateb i’r drychineb yr un mor bwysig. Roedd arweinwyr y crefyddau ‘etifedd Abraham‘ wedi dod ynghyd, a phob un yn eu tro wedi gwneud datganiad byr o gydymdeimlad ac o ymrwymiad i ymwrthod ag unrhyw ragfarn hiliol a chrefyddol ac i gydweithio i adeiladau byd o ryddid ac o ddiogelwch. Yna, wythnos union yn ddiweddarach, yn yr un lle ac ar yr un amser, daeth cannoedd lawer ynghyd o wahanol gefndiroedd, crefydd, gwledydd a hil yn cynrychioli, nid yn unig Llundain, ond yr holl fyd. Mae’r darlun yn mynegi’r teimladau, y meddyliau, y gweddïau a’r neges oedd ar y bont wythnos yn ddiweddarach. Love for all, hatred for none, yw’r neges syml ar y baneri.
Neges y Pasg yn Syria
Mae Archesgob Maronaidd Damascus, Archesgob Samir Nassar , wedi cyfuno neges y Grawys gyda neges y Pasg eleni. Er bod Llywodraeth Assad (gyda chymorth bomiau Rwsia) fel petae yn gorchfygu IS a nifer o’r gwrthryfelwyr eraill yn erbyn y llywodraeth (a gafodd gymorth bomiau rhai o wledydd y Gorllewin yn eu brwydr), mae’r Archesgob yn dweud fod y dioddefaint a’r dinistr yn parhau. Mae’r eglwys yn Syria, meddai, yng nghanol ardaloedd â ddinistriwyd, cymunedau a chwalwyd, dinasoedd â ddinistriwyd. “Chwerw fu’r Grawys”, meddai, wrth ystyried yr eglwysi (a’r mosgiau) a fomiwyd. “Mae 12 miliwn heb do, mae 11 miliwn yn ffoaduriaid ac y mae bron i 500,000 wedi eu lladd mewn 5 mlynedd. Mae 40,000 a 10,000 o blant wedi ei lladd yn Aleppo yn unig. Ond fe fyddwn yn paratoi i ddathlu’r Pasg, fel y mae Cristnogion wedi ei wneud yn Syria er dyddiau Llyfr yr Actau.”
Ar ôl clywed am y drychineb yn Llundain ar Fawrth 22ain anfonodd hefyd neges o gydymdeimlad at Faer Llundain, gan nodi fod eu cydymdeimlad yn fawr oherwydd eu bod hwy wedi byw gyda thrychinebau llawer iawn mwy ers blynyddoedd maith. Dywedodd mai dyna yw bywyd yn Syria fel mannau eraill yn y Dwyrain Canol.
Ar gyfer pererinion y Pasg.
Ar Fawrth 22ain cwblhawyd naw mis o waith adfer ar Eglwys y Bedd Sanctaidd yn Jerwsalem, cyrchfan a fydd, er gwaethaf y sefyllfa fregus, yn denu miloedd eto eleni. Honnir mai dyma’r fan (ond nid oes cytundeb ar hynny) lle y croeshoeliwyd, y claddwyd ac felly yr atgyfododd Iesu.
Mae 50 o wyddonwyr a thechnegwyr Groegaidd wedi bod yn gweithio bob nos am naw mis i adfer yr hyn sy’n cael ei alw yn Ediciwl sydd uwchben y bedd. Y Gronfa Cofadfeilion Byd sydd wedi goruchwylio’r gwaith. Am y tro cyntaf ers dwy ganrif roedd yn rhaid codi’r graig oedd ar ddrws y bedd er mwyn gwneud y gwaith. Oherwydd y gwrthdaro sydd wedi bod ers canrifoedd rhwng eglwysi a thraddodiadau ynglŷn â meddiant o’r safle, mae’n arwyddocaol mai gan Fwslim mae allweddau’r eglwys.
Marwolaeth David Ollerton
Dydd Gwener, Mawrth 31ain cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch am fywyd David Ollerton yng Nghanolfan Christchurch, Casnewydd. David Ollerton oedd sylfaenydd mudiad Cymrugyfan, sydd, yn ôl y wefan yn rwydwaith ‘i blannu a chryfhau eglwysi … sydd yn cydweithio gyda grwpiau ac enwadau efengylaidd. Mae Cymrugyfan yn ceisio hyrwyddo a hybu lluosiad eglwysi efengylaidd ar draws ein cenedl ac annog eglwysi sy’n bodoli i blannu eglwysi mewn modd mwy effeithiol ac arloesi wrth efengylu yn yr ardaloedd mwyaf anghenus.’
Trwy ei gariad at Gymru a thrwytho’i hun yn yr iaith a hanes Cymru, daeth i ymdeimlo, a defnyddio ei eiriau ei hun, ‘â baich dros Gymru.’ Bu’n arweinydd dylanwadol a galw mawr arno i siarad mewn cynadleddau Cristnogol Efengylaidd. Yn 2016 cyhoeddodd ei waith ymchwil manwl mewn cyfrol o’r enw ‘Cenhadaeth newydd i Gymru’ (Cyhoeddiadau’r Gair. Cyfieithiad Cymraeg gan Meirion Morris.) Mae’n gyfrol swmpus o 304 o dudalennau yn llawn gwybodaeth ac ystadegau, ond hefyd yn cyflwyno’r ffordd ymlaen i eglwysi sydd am dyfu ac ar gyfer eglwysi sydd eto i’w plannu. Cafodd ei hadolygu ar wefan Cristnogaeth 21. Mae Agora yn cydymdeimlo yn fawr â’i deulu ac â’i ffrindiau led-led Cymru a thu hwnt.
YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.



God with Us – the meaning of the cross and resurrection. Then and Now (SPCK 2017; ISBN 978-281-07664-2)




gan y moesegydd Americanaidd Stanley Hauerwas i griw o fyfyrwyr oedd yn graddio o goleg diwinyddol (Without Apology; Seabury Books, Efrog Newydd; ISBN-13:978-1-59627-248-4). Mae’n eu herio (a ninnau, wrth gwrs) i wynebu’r gost o ddweud y gwirionedd, yn ein rhybuddio yn erbyn y perygl o dybio bod ein gwirionedd ni yn wir pan yw’n dipyn o hunan-dwyll, o fodloni ar wirioneddau bach handi, yn hytrach na chyfeirio at wirioneddau mwy, yn enwedig at yr Un sydd yn dyst i’r gwirionedd cyflawn am Dduw. 

Yng ngwledydd Prydain fe ddechreuodd y symudiad hwn gyda thwf yr SNP yn 2007 ac wedyn. Gwelwyd rhywbeth tebyg gyda Jeremy Corbyn a’i apêl ar sail hunaniaeth dosbarth ar ôl 2015. Ar raddfa lai, fe fu’r dyblu yn aelodaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn dilyn refferendwm Ewrop yn ganlyniad apelio at etholwyr a chanddynt hunaniaeth Ewropeaidd – tra bod canlyniad y refferendwm ei hun, yn nannedd yr holl dystiolaeth economaidd, yn arwydd pendant mai hunaniaeth yn hytrach na’r economi yw prif gymhelliad y pleidleiswyr erbyn hyn. Roedd llawer o’r ardaloedd a bleidleisiodd o blaid Ewrop (megis yr Alban, Gwynedd a Cheredigion) yn arddel hunaniaeth genedlaethol ac Ewropeaidd yn hytrach nag un Brydeinig – neu, yn achos y prifddinasoedd Caerdydd a Llundain, hunaniaeth gosmopolitaidd – tra bod Prydain a hyd yn oed yr ymerodraeth Brydeinig yn apelgar i lawer o’r ardaloedd a bleidleisiodd o blaid ymadael.

Ymateb cyntaf rhai ohonom yng Nghymru yw gweld y gwerthoedd hyn yn rhai ‘Seisnig’ iawn. Maent yn drewi o blwyfoldeb, meddwn. Ond arhoswch eiliad. Os ydych am ddod â dagrau i lygaid Cymro neu Gymraes gosmopolitaidd, does ond angen sôn am ‘filltir sgwâr’ D. J. Williams – neu ganu ‘Ry’n ni yma o hyd’ – ac onid ein fersiwn ni o’r un gredo yw hyn? Mae geiriau megis ‘cynefin’ a ‘phentref’ yn ddwfn yn ein henaid. Tra bod Cymry yn ymfalchïo yng ngwerthoedd eangfrydig Caerdydd neu Lundain, rydym yn hiraethu am agosatrwydd Trefin neu Dreorci. Yn wir, mae llawer o Gymry sydd – fel finnau – wedi symud o’r cymoedd i Gaerdydd yn llawn rhamant am natur agos-atoch tai teras y pentrefi glofaol lle mae pawb yn adnabod ei gilydd. Ond yn y gwynt nesaf dyma ni’n eu melltithio am eu ‘culni’ yn pleidleisio ar sail yr hunaniaeth honno i wrthwynebu’r newid i’r gymdeithas yn sgil mewnfudo o ddwyrain Ewrop. Ar ochr arall y geiniog, tra ydym yn croesawu eangfrydedd pleidleiswyr Llundain a’u brwdfrydedd dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd a byw mewn dinas lle siaradeir cannoedd o ieithoedd, rydym yn gresynu at y ffordd mae teithwyr yr Underground yn anwybyddu ei gilydd, a bod neb yn cynnal sgwrs ar y stryd nac yn adnabod eu cymdogion. Onid ofni cymdeithas felly yr oedd rhai o leiaf o bleidleiswyr Brexit Cymru?



Yn Genesis mae cyfrifoldeb dyn fel stiward ar fyd natur yn ganolog. Ond ar hyn o bryd mae dyn yn methu yn y cyfrifoldeb cysegredig hwn. Mae ei weithgareddau yn dadsefydlogi’r hinsawdd, yn difa rhywogaethau, yn traflyncu adnoddau’r Ddaear, yn llygru’r dyfroedd a’r moroedd ac yn diffeithio’r pridd.
Ond mae un peth yn gyffredin i’r tri Cham, ac yn ganolog iddynt, sef na all Duw, neu Bŵer mwy na ni’n hunain, wneud dim i orchfygu ein halcoholiaeth na dileu ein gwendidau cymeriad hyd nes inni’n gyntaf eu derbyn. ‘Derbyn, felly, yw’r ateb i’n holl broblemau’, chwedl ‘Llyfr Mawr’ yr Alcoholigion Anhysbys (AA). A dyna yw’r allwedd sy’n agor y drws i ymyrraeth drawsnewidiol Duw ac i ysbrydolrwydd all wneud drosom yr hyn na allwn ei wneud drosom ni ein hunain.
Drwy’r broses hon, bu iddynt ailddarganfod pedwar mewnwelediad (insight) oedd yn cwmpasu dysgeidiaeth meddyliau ysbrydol mwyaf yr oesoedd a phob traddodiad. Ac roedd yr hyn wnaethon nhw ei ddarganfod yn rhywbeth gwahanol i athrawiaeth y Beibl; nid y gorchmynion: ‘Na ladd; na odineba, a.y.b.’, ond ffagl, os dymunwch chi, i oleuo’u llwybr at ysbrydolrwydd a fyddai’n gweddu i’w stad amherffaith, a’u diogelu ’run pryd rhag y creigiau a’r peryglon allai rwystro neu derfynu eu taith i sobrwydd.
Ond mewnwelediadau a ddeilliodd o weithredu oedd y rhain; dysgu o brofiad wnaeth Bill Wilson a Dr Bob Smith. Ac fel hyn y mae pob adferiad llawn wedi bod ers hynny: darganfod drosoch eich hun yw’r unig ffordd i gyrraedd gwynfyd. Fedrwch chi ddim darllen, dychmygu neu feddwl, neu siarad eich ffordd i sobrwydd. Yr unig ffordd yw trwy weithredu, sef yr hyn sy’n cael ei awgrymu yn y 12 Cam. Fel sy’n ysgrifenedig yn y ‘Llyfr Mawr’: ‘Dyma’r camau a gymeron ni, ac fe’u hawgrymwn fel cynllun adferiad.’ Yr un math o ‘awgrym’ ydy o, gyda llaw, â’r ‘awgrym’ y dylech agor eich parasiwt ar ôl neidio allan o awyren!
Ond mae rhinwedd arall eto fyth yn dechrau amlygu’i hun drwy holl graciau ac amherffeithrwydd ein bywydau: wrth inni herio ein gwendidau a datblygu ymwybyddiaeth ddofn o’n pechadurusrwydd ni ein hunain, mae tosturi tuag at wendidau pobl eraill yn dechrau datblygu. Rydym yn gallu cydymdeimlo ag eraill a gweld pethau drwy’u llygaid nhw; meddwl pethau drwy’u meddyliau nhw, a theimlo pethau drwy’u calonnau nhw. Rydym yn trin pobl eraill fel y byddem ni ein hunain yn dymuno cael ein trin. Tosturi Duw yw hyn – Duw’n gweithredu drwom. A dyma un o roddion mwyaf y daith ysbrydol, os nad y fwyaf.![Hanging by a Thread by [Samuel Wells]](https://images-eu.ssl-images-amazon.com/images/I/41X74iQGy1L._SY346_.jpg)


Dyma Iesu, sydd yng nghyflwyniad Marc wedi herio grym yr awdurdodau ac wedi ei ystyried fel un oedd yn fygythiad i ragdybiaethau, disgwyliadau a gwerthoedd yr ymerodraeth Rufeinig. Bu’n fygythiad i gynffonwyr crefyddol trwy ailddifffinio geiriau fel barn, pechod, a sancteiddrwydd. Mae stori Iesu yn Efengyl Marc yn ddeifiol, a diflewyn-ar-dafod.




