Y Chweched Cam

 

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

Y CHWECHED CAM

Bod yn hollol barod i Dduw ddileu holl wendidau ein cymeriad

Mae’r broses yng Ngham 6 yn debyg i’r broses yng Nghamau 1 a 2 – yn yr ystyr fod yn rhaid inni dderbyn rhai gwirioneddau annifyr ac anghyfforddus amdanom ni ein hunain. Yng Nghamau 1 a 2 – ein bod yn alcoholigion (neu’n gaeth i sylwedd neu ymddygiad arall) a bod angen help arnom i’w orchfygu; yng Ngham 6 – fod gennym ddiffygion cymeriad sydd wedi cyfrannu at ein problemau a bod angen help arnom i’w dileu. Ond mae un peth yn gyffredin i’r tri Cham, ac yn ganolog iddynt, sef na all Duw, neu Bŵer mwy na ni’n hunain, wneud dim i orchfygu ein halcoholiaeth na dileu ein gwendidau cymeriad hyd nes inni’n gyntaf eu derbyn. ‘Derbyn, felly, yw’r ateb i’n holl broblemau’, chwedl ‘Llyfr Mawr’ yr Alcoholigion Anhysbys (AA). A dyna yw’r allwedd sy’n agor y drws i ymyrraeth drawsnewidiol Duw ac i ysbrydolrwydd all wneud drosom yr hyn na allwn ei wneud drosom ni ein hunain.

Ysbrydolrwydd y gwan a’r toredig, y tlawd a’r gwylaidd.

Ond nid ysbrydolrwydd yn yr ystyr crefyddol yw hwn. Mae hwn yn wahanol: ysbrydolrwydd yr amherffaith ydyw. Ysbrydolrwydd y gwan a’r toredig, y tlawd a’r gwylaidd. Ysbrydolrwydd y bobl sydd ag angerdd mawr a chryf, gorffennol problemus a dyfodol ansicr. Yn ôl yr awduron Ernest Kurtz a Katherine Ketcham, ysbrydolrwydd hynafol ydyw, a ailddarganfuwyd gan griw o feddwon anobeithiol oedd yn chwilio am ateb i gyflwr nad oedd meddygon na neb arall yn gwybod yr ateb iddo na sut i’w drin.

Mae’r cyd-destun hanesyddol yn bwysig. Yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf, roedd alcoholiaeth yn cael ei ystyried yn gyflwr nad oedd gwella arno – ac eithrio, yn ôl Carl Jung, fod newid seicic cyflawn yn digwydd, a hwnnw’n ddigon pwerus i oresgyn ysfa’r dioddefwr i yfed.

Bill Wilson a Dr Bob Smith

Apeliodd hyn at Bill Wilson a Dr Bob Smith, cyd-sylfaenwyr AA, gan fod pob ymdrech arall ar eu rhan i sobri wedi methu; gwyddent fod eu cyflwr yn anobeithiol. Gan dynnu ar y profiadau hyn – ac ar brofiadau’r Oxford Group (grŵp crefyddol a sefydlwyd i helpu alcoholigion i roi’r gorau i yfed ond a aeth i ymhel â gwleidyddiaeth a’r mudiad dirwest, a thrwy hynny golli ffocws ei brif bwrpas) ac athroniaeth William James yn ei lyfr, The Varieties of Religious Experience, a Carl Jung, y seiciatrydd enwog – aethant ati i greu ffordd o fyw fyddai’n caniatáu iddynt fyw gyda’u ‘cyflwr anobeithiol’, gyda’u hamherffeithrwydd sylfaenol.

Drwy’r broses hon, bu iddynt ailddarganfod pedwar mewnwelediad (insight) oedd yn cwmpasu dysgeidiaeth meddyliau ysbrydol mwyaf yr oesoedd a phob traddodiad. Ac roedd yr hyn wnaethon nhw ei ddarganfod yn rhywbeth gwahanol i athrawiaeth y Beibl; nid y gorchmynion: ‘Na ladd; na odineba, a.y.b.’, ond ffagl, os dymunwch chi, i oleuo’u llwybr at ysbrydolrwydd a fyddai’n gweddu i’w stad amherffaith, a’u diogelu ’run pryd rhag y creigiau a’r peryglon allai rwystro neu derfynu eu taith i sobrwydd.

Y mewnwelediad cyntaf oedd fod ysbrydolrwydd yn hanfodol ond yn wahanol: yn hanfodol i gyrraedd y stad o sobrwydd a darganfod yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynol, ond yn wahanol i’r dehongliad Beiblaidd traddodiadol a chyfarwydd.

Nid crefydd mohono, felly.

Yr ail oedd y darganfyddiad fod yna wahaniaeth mawr rhwng hudoliaeth a gwyrth, rhwng hudoliaeth a dirgelwch – ac nad oedd gan ysbrydolrwydd ddim oll i’w wneud â thwyll hudoliaeth ond popeth i’w wneud â’r rhyfeddod sydd ymhlyg ym mhob dirgelwch a gwyrth. Credent mewn gwyrthiau, ac oherwydd eu gallu i ymwrthod ag yfed, rhywbeth na allent ei wneud cyn y profiad ysbrydol, roeddynt yn gwybod fod Duw yn bod yn hytrach na chredu fod Duw yn bod, fel y gwnâi rhai o’r crefyddwyr.

Y trydydd mewnwelediad oedd bod ysbrydolrwydd yn rhywbeth penagored – na ellid ei berchnogi na chadw gafael arno – a’i fod yn cynnig mwy o gwestiynau nag o atebion. Roedd yn rhywbeth oedd yn dod fel ein bara beunyddiol, un dydd ar y tro. Roedd yn rhaid cynnau’r fflam o’r newydd bob dydd.

A’r pedwerydd darganfyddiad oedd bod gwir ysbrydolrwydd yn perchnogi pob agwedd ar fywyd rhywun, bod yn rhaid iddo gyffwrdd popeth neu fel arall ni fyddai’n cyffwrdd dim.

Ond mewnwelediadau a ddeilliodd o weithredu oedd y rhain; dysgu o brofiad wnaeth Bill Wilson a Dr Bob Smith. Ac fel hyn y mae pob adferiad llawn wedi bod ers hynny: darganfod drosoch eich hun yw’r unig ffordd i gyrraedd gwynfyd. Fedrwch chi ddim darllen, dychmygu neu feddwl, neu siarad eich ffordd i sobrwydd. Yr unig ffordd yw trwy weithredu, sef yr hyn sy’n cael ei awgrymu yn y 12 Cam. Fel sy’n ysgrifenedig yn y ‘Llyfr Mawr’: ‘Dyma’r camau a gymeron ni, ac fe’u hawgrymwn fel cynllun adferiad.’ Yr un math o ‘awgrym’ ydy o, gyda llaw, â’r ‘awgrym’ y dylech agor eich parasiwt ar ôl neidio allan o awyren!

Mae ‘dod yn hollol barod i Dduw ddileu holl wendidau ein cymeriad’ yn broses hir; weithiau fe gymer oes. Yn dilyn Cam 5, fel rheol, byddwn yn teimlo’n barod iawn i gael gwared o’n holl wendidau cymeriad. Ond fe gymer fwy na pharodrwydd i wneud hynny. Er mwyn dod yn hollol barod, mae’n ofynnol inni gael gwared ag unrhyw syniad y gallwn ni ewyllysio ein hunain i fod yn bobl dda a gwell. Gwir, gallwn wisgo ein dillad dydd Sul gorau a cherdded fel blaenoriaid yn ffug-dduwiol. Ond ni allwn wneud dim i ddileu’r teimladau a’r meddyliau gwyrdroëdig ac aflednais hynny sy’n madru ar y tu fewn, sef ochr ddu ein heneidiau.

Ond mae’r broses hyd yma, a’r cyfan rydym wedi gorfod ei wynebu a’r gobaith mae hynny wedi’i danio ynom, wedi datblygu rhinwedd arall sy’n hanfodol i barhad ac esblygiad ein hadferiad, sef gwyleidd-dra (humility). Yng Ngham 6 mae ‘gwyleidd-dra’ yn golygu ein parodrwydd i ddechrau amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr. Mae’n golygu ein parodrwydd i ddechrau cofleidio ochr ddu’r enaid a derbyn ein hunain, y da a’r gwachul. Rydym yn barod, mewn geiriau eraill, i herio sialens anoddaf dynoliaeth yn fy marn i: sef yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynol.

Anonestrwydd yr adict yw ei ffaeledd mwyaf – ei anallu i dderbyn yr hyn mae’n ei deimlo, i dderbyn yr hyn mae’n feddwl, ac i’w dderbyn ei hun fel ag y mae. Mae o eisiau teimlo’n wahanol, meddwl yn wahanol, a bod yn rhywbeth nad ydy o ddim. Mewn geiriau eraill, mae’n byw celwydd – yn rhoi perfformiad ymlaen i’r byd: yr hyn mae o’n ei dybio rydych chi eisiau’i weld ynddo, yr hyn mae’n tybio rydych chi eisiau’i glywed ganddo. Dros ddegawdau lawer, yn aml iawn, mae’r adict wedi arfer bod yn rhywbeth nad ydy o ddim. I guddio’r gwirionedd poenus hwn, mae wedi mabwysiadu a datblygu dulliau dyfeisgar a chyfrwys, dulliau sy’n esblygu dros amser i fod yn wendidau cymeriad; gwendidau sy’n sicrhau, yn eironig, barhad a dwysáu ei gyflwr truenus.

Daethom yn ymwybodol o’r gwendidau cymeriad hyn wrth weithio Camau 4 a 5. Ie, yn sail i’r cyfan mae’r saith pechod marwol. Ond mae lliaws o wendidau cymeriad eraill hefyd. Yn wir, mae’n hawdd anobeithio wrth sylweddoli nifer y gwendidau cymeriad sydd wedi ein cadw’n wael cyhyd: hunanoldeb, anonestrwydd, perffeithrwydd, diffyg amynedd a goddefgarwch, barnu eraill, siarad y tu cefn i rywun, rhagrithio, gwenieithu, a.y.b.

Ond erbyn hyn, rydym wedi dod i ddechrau profi Pŵer Duw o’n mewn – yn wyrthiol, rydym wedi dechrau dod i ‘adnabod rhyddid newydd a hapusrwydd newydd’ wrth inni ddod i ddeall ystyr y gair tangnefedd, ac i heddwch ddod i’n rhan. A dyma’r union ysgogiad sydd ei angen arnom i barhau ar ein taith i adferiad llawn.

Ond mae rhinwedd arall eto fyth yn dechrau amlygu’i hun drwy holl graciau ac amherffeithrwydd ein bywydau: wrth inni herio ein gwendidau a datblygu ymwybyddiaeth ddofn o’n pechadurusrwydd ni ein hunain, mae tosturi tuag at wendidau pobl eraill yn dechrau datblygu. Rydym yn gallu cydymdeimlo ag eraill a gweld pethau drwy’u llygaid nhw; meddwl pethau drwy’u meddyliau nhw, a theimlo pethau drwy’u calonnau nhw. Rydym yn trin pobl eraill fel y byddem ni ein hunain yn dymuno cael ein trin. Tosturi Duw yw hyn – Duw’n gweithredu drwom. A dyma un o roddion mwyaf y daith ysbrydol, os nad y fwyaf.

Mae’r hyn rydym wedi ei wneud yng Ngham 6, felly, yn debyg i’r hyn wnaethon ni yng Nghamau 1 a 2. Rydym yn gorfod cyfaddef ein bod wedi ein trechu gan bŵer mewnol sydd wedi dod â dim ond poen a gwarth i’n bywydau; yna, mae’n rhaid inni gyfaddef bod angen help arnom i ddelio â’r pŵer hwnnw. Mae’n rhaid inni gyfaddef yn llawn na allwn ddileu ein gwendidau ein hunain, a rhaid inni baratoi ein hunain i ofyn yn ostyngedig, yng Ngham 7, i Dduw ddileu ein gwendidau cymeriad.

Ar ôl ystyried yr hyn sydd ymhlyg yng Ngham 6, os gallwn ddweud yn onest, ‘Ydw, rwy’n berffaith barod i Dduw ddileu holl wendidau fy nghymeriad’, yna rydym yn barod i gymryd Cam 7.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.