Arweiniad ac arweinyddiaeth

Arweiniad ac arweinyddiaeth

Yn Agora Awst 2018 fe fûm yn sôn am oblygiadau canlyniad etholiad arweinyddol UKIP yng Nghymru. Bellach fe ddaeth dau ganlyniad arall yn etholiadau arweinyddol pleidiau gwleidyddol Cymru. Credaf fod ganddynt rywbeth i’w ddysgu i ni, nid yn unig am wleidyddiaeth Cymru, ond hefyd am syniadau cyfoes am arweiniad ac arweinyddiaeth.

Yn y Saesneg, un gair sydd am y ddau gysyniad yma (sef leadership). Ond yn Gymraeg rydym yn gwahaniaethu rhwng priodoleddau personol a chrefft yr arweinydd (arweinyddiaeth) a’r llwybr y mae pobl yn dewis ei ddilyn ai peidio (sef yr arweiniad). Efallai fod hyn yn help i ni ddeall yn well na’r Sais ambell agwedd ar y gornestau hyn.

Yr ornest gyntaf i ddod i’w therfyn ym mis Medi oedd eiddo’r Blaid Geidwadol yng Nghymru. Dyma’r gystadleuaeth a weinyddwyd orau ac yn fwyaf didrafferth o’r pedair – sy’n ddiddorol o gofio sefyllfa ranedig y blaid yn San Steffan ar hyn o bryd.

Gydag ymddiswyddiad cefnogwr selog Prymadael, Andrew R. T. Davies, a hynny ar gais aelodau’r Cynulliad, fe gafwyd cystadleuaeth rhwng dau Davies arall – Paul a Suzy. Mae’r ddau yn berfformwyr da yn y Cynulliad, ac ar adegau yn gallu mynd dan groen Carwyn Jones a’i Lywodraeth. Mae’r ddau o asgell ‘gymedrol’ y blaid, wedi cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond bellach am weld gweithredu canlyniad y refferendwm heb bleidlais bellach. Mae’r ddau yn gefnogol i ddatganoli ond hefyd yn deyrngar i’r Blaid Geidwadol yn ganolog ac yn anfodlon beirniadu llywodraeth Theresa May. Mae’r ddau hefyd yn Gymry Cymraeg – pwy fyddai’n meddwl mai’r Ceidwadwyr fyddai’r unig blaid yng Nghymru i allu cynnig gornest rhwng Cymry Cymraeg yn unig eleni? Roedd y ddau ymgeisydd felly yn debyg i’w gilydd – ac yn annhebyg i lawer o aelodaeth y blaid ar lawr gwlad. Efallai dyna pam mai dim ond 52% o’r aelodau a bleidleisiodd.

Gyda’r ddau mor debyg, gornest am arweinyddiaeth oedd hon, nid gornest am arweiniad. O farnu o’r hystings teledu, roedd y ddau cystal â’i gilydd yn gyhoeddus yn y maes hwn, yn cynnig arweinyddiaeth bwyllog a gwedd gyhoeddus hyderus i’r blaid. O ystyried demograffeg y Ceidwadwyr yng Nghymru efallai nad oedd yn syndod mai’r dyn mewn siwt enillodd o fwyafrif helaeth – dyma ddelwedd arweinydd Ceidwadol. Dyma’r arweinyddiaeth mae’r blaid yn gallu ymddiried ynddi.

Dyn a etholwyd gan Blaid Cymru hefyd. Ef fydd arweinydd cyntaf unrhyw blaid wleidyddol yng ngwledydd Prydain i fod yn agored hoyw, ac mewn ffyrdd eraill hefyd nid yw’n cyfateb i stereoteip arweinydd Plaid Cymru – daw o deulu Saesneg ei iaith er ei fod bellach yn rhugl yn yr iaith, ac fe dreuliodd gyfnodau ym Mhrifysgol Havard yn yr Unol Daleithiau. Roedd y tri ymgeisydd yn eglur mai gornest am arweiniad oedd hon. Bu’r ddau ddyn yn hynod foneddigaidd a cheisio peidio ag ymosod ar arweinyddiaeth Leanne Wood, gan ddweud mai “gornest o syniadau” oedd ganddynt mewn golwg. Gan Adam Price y daeth rhan y fwyaf o’r syniadau newydd, ac mae’n amlwg i hynny blesio’r aelodau, gan iddo ennill yn gyfforddus yn y diwedd. Mae’n cynnig ystod o syniadau radicalaidd, megis gostwng trethi ar unigolion a busnesau a chynyddu trethi ar dir ac eiddo. Anodd gwybod faint o aelodau’r Blaid ddarllenodd yr holl bapurau polisi a gynhyrchodd, ond efallai iddynt gael eu bodloni gan wybod eu bod yn bodoli ac felly bod rhaglen yn barod ar gyfer arwain Llywodraeth Cymru.

Y peth rhyfedd yw bod y tri ymgeisydd yn ymlynu wrth y “weledigaeth gwbl ffantasïol”, yng ngeiriau’r Athro Richard Wyn Jones, y gall Plaid Cymru fod yn brif blaid yn y Cynulliad erbyn 2021. Mae’n anodd meddwl nad yw aelodau Plaid Cymru ar lawr gwlad yn sylweddoli mai breuddwyd gwrach sydd wrth wraidd yr arweiniad y maent wedi dewis ei dderbyn. Yn ystod yr hystings, fe fu Adam Price yn ddilornus braidd o sylwadau Leanne Wood mai “ymdaith hir” yw’r daith at annibyniaeth i Gymru a bod yn rhaid symud yn ofalus ac yn bwyllog. Roedd ef, meddai, am symud yn llawer cyflymach at y nod ac ennill refferendwm ar annibyniaeth cyn 2031. Wedi ennill yr ornest, fe fydd yn dalcen caled iddo wireddu ei addewid.

A dyna felly ystyried – ai gornest am arweinyddiaeth yn hytrach nag am arweiniad oedd hon hefyd? Fe fu buddugoliaeth Leanne Wood yn y bleidlais ddiwethaf yn 2012 yn annisgwyl. Enillodd bron iawn hanner y bleidlais ar y cyfri cyntaf (fel y gwnaeth Adam Price y tro hwn) ac felly ennill yr ail gyfri drwy fwyafrif llethol. Fe blesiodd drwch aelodaeth y Blaid yn y gogledd-orllewin trwy fireinio’i Chymraeg a’i defnyddio yn ystod yr ymgyrch, a’r un pryd yn addo’r gallu i wneud yr hyn y methodd Plaid Cymru ei wneud sawl tro, sef torri trwodd yng nghymoedd y de-ddwyrain. Ar y pryd, dywedwyd i gannoedd ymuno â’r Blaid er mwyn pleidleisio drosti – rhagflas o’r hyn a ddigwyddodd yn y Blaid Lafur adeg ymgyrch arweinyddol Jeremy Corbyn yn 2015. Yn ddigon tebyg i Corbyn, fe fu Leanne yn awyddus i lunio clymblaid o leiafrifoedd sy’n anhapus â llywodraeth ofalus, ganol y ffordd, Llafur Cymru – Cymry Cymraeg, Mwslimiaid, ffeministiaid, gwyrddion, ac yn y blaen. Fe fachodd ar y cyfle i ddefnyddio’r cyfryngau Prydeinig yn ystod cyfnodau etholiad a thrwy fod yn banelwraig gyson ar Question Time. Llwyddodd i greu proffil i’r fath raddau fel bod Katie Hopkins, yn ei chyfweliad erchyll diweddar ar Y Byd yn ei Le, dan yr argraff mai Leanne oedd arweinydd Llywodraeth Cymru!

Bu Leanne, felly, yn driw i’w gweledigaeth yn 2012 gan ddilyn y strategaeth yr oedd wedi ei haddo. Nid oedd y llwyddiant cymaint ag y gobeithiai, ond fe ddywedodd o’r dechrau mai taith hir fyddai hon. Eto i gyd, o gael y cyfle i dafoli ei hymdrechion, ei gosod yn drydydd wnaeth aelodau Plaid Cymru. Fe ddichon fod rhai, yn enwedig yn y gogledd-orllewin, yn difaru iddynt gefnogi ei harweiniad yn y lle cyntaf. Efallai eu bod am ddychwelyd i’r Blaid Gymraeg, wledig yr ymunon nhw â hi yn y lle cyntaf. Ond rwy’n amau mai ei harweinyddiaeth, ac nid ei harweiniad, achosodd ei chwymp.

Yn gyntaf, fe brofodd yn analluog i gadw ei phlaid ynghyd. Ar ôl etholiad 2016 fe gollodd Dafydd Elis-Thomas am nad oedd yn ddigon cefnogol i’r Blaid Lafur, ac fe gollodd Neil McEvoy am ei bod hi’n rhy gefnogol! Fe rygnodd achosion disgyblu yn erbyn McEvoy ac ambell un arall yn y Blaid – heb sôn am gangen gyfan Llanelli – am fisoedd lawer. Yn hyn o beth hefyd, mae yna debygrwydd i fethiant Jeremy Corbyn i gadw cefnogaeth ei gyd-Aelodau Seneddol ac ymateb yn effeithiol i’r cyhuddiadau o wrth-semitiaeth yn ei blaid. Yn y naill achos a’r llall, mae’n anodd gweld bod y bai i gyd ar yr arweinydd; ond yr arweinydd sy’n cael y bai.

Yn ail, clymblaid yw Plaid Cymru. Yn un o’i sylwadau mwyaf treiddgar yn ystod yr ornest, dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai Cymru annibynnol yn cynnwys pleidiau Cymreig ar y chwith, y canol a’r dde, ond am y tro rhaid bodloni ar un blaid Gymreig gyfansawdd. Mae yna le i gredu i aelodau’r gogledd-orllewin deimlo’n fwyfwy nad un ohonyn nhw oedd Leanne wedi’r cyfan, a’i bod yn rhoi gormod o bwyslais ar ennill pleidleisiau o’r chwith yn y cymoedd. Roedd llwyddiant dros dro Llais Gwynedd eisoes wedi dangos y perygl i’r cyfeiriad hwn, ac fe ategwyd hynny pan fu bron i Blaid Cymru golli sedd Arfon yn Etholiad Cyffredinol 2017. Gyda llwyddiant Jeremy Corbyn yn ei ail ornest arweinyddol yntau yn 2016, fe ddaeth yn amlwg na ellid bellach dadlau fod y Blaid Lafur Brydeinig yn rhy ganol y ffordd. Gydag ansicrwydd am yr arweiniad, efallai i elfennau mwy cymdeithasol geidwadol Plaid Cymru – fel aelodau’r Blaid Geidwadol yng Nghymru – ddymuno arweinyddiaeth ddiogel gan ddyn mewn siwt. Yn ystod yr ymgyrch, fe honnodd Adam Price fod aelodaeth y Blaid eisoes yn lleihau’n gyflym. Fe fydd hi’n ddiddorol gweld a all Plaid Cymru ddal ei gafael ar yr aelodau newydd yn y de-ddwyrain a ddaeth i’r Blaid oherwydd eu cefnogaeth i Leanne.

Tro’r Blaid Lafur yw hi nesaf. Fe all y gwelwn ethol arweinydd pleidiol croenddu cyntaf gwledydd Prydain (Vaughan Gething), neu Brif Weinidog fenywaidd gyntaf Cymru (Eluned Morgan). Neu fe all y bydd y dynion mewn siwtiau yn arwain holl bleidiau Cymru. Cawn weld.

Nid yng ngwleidyddiaeth gyfoes Cymru yn unig y ceir dadlau am arweiniad ac arweinyddiaeth. Soniodd Iesu am y peth ym Mathew 11.16–19 gan nodi mai tasg ddiddiolch yw bod yn arweinydd. Mae pob un sydd wedi ceisio arwain eglwys, boed yn ordeiniedig neu’n lleyg, wedi darganfod yr un peth. Rydym eisiau arweiniad – ond rydym ni eisiau dewis i ba gyfeiriad i gael ein harwain. Rydym eisiau arweinyddiaeth fedrus – ond yn blino arni yn gyflym. Yn fwyaf oll, rydym am gael rhywun i’w feio pan aiff pethau o chwith. Bod yn gocyn hitio fydd prif waith Adam Price a Paul Davies o hyn allan. Pob dymuniad da iddynt!

Mae’r Parch. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr erthygl hon, a ysgrifennwyd ar 29 Medi 2018.