Duw’r Creawdwr

Duw’r Creawdwr

Anerchiad a draddodwyd gan Dr. Hefin Jones yn Encil Cristnogaeth 21 yng  Nghlynnog Medi 22ain 

“Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.” (Genesis 1: 1) “Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.” (Salm 139: 14) “Crea galon lân ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof.” (Salm 51: 10) “… ni oedd yn feirw yn ein camweddau, yn fyw yng Nghrist; trwy ras yr ydych wedi eich achub.” (Effesiaid 2: 5).

Fel ‘Creawdwr’ y datgela Duw ei hun gyntaf i ni yn yr Ysgrythur; mae adnod gyntaf, pennod gyntaf y Beibl yn dangos i ni pwy a beth yw ein Duw. Creawdwr yw! Nid unrhyw greawdwr, nid rhywun sy’n creu, ond Y Creawdwr … “Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod” (Ioan 1: 3). Bu i Dduw ddwyn popeth i fywyd, a hynny allan o ddim. Mor fawr ei bŵer! “Elohim” – y Bod Mawr, yr un aruthrol fawr! Dengys popeth a greodd Duw mor syfrdanol yw. Mae’r greadigaeth yn “mynegi gwaith ei ddwylo” (Salm 19: 1); y “dydd yn llefaru wrth ddydd, a’r nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos”. (Salm 19:2) Wnaethoch chi stopio a gwylio’r machlud yn ddiweddar? Y Cread yn ceisio dal ein sylw i’n cyfeirio at Dduw. Mae’r greadigaeth am i ni weld Duw fel y mae: Creawdwr.

Dangoswyd Duw i ni gyntaf fel Creawdwr trwy’r hyn a’n hamgylchyna: planhigion, dŵr, haul a mynyddoedd. Ond nid dyna’r diwedd! O ddarllen y Salmau, sylweddolwn nad wedi creu yn unig y mae Duw ond ei fod yn dal wrthi nawr, y funud hon, o hyd, yn creu. Creawdwr yw Duw. Gwelwn hefyd mai ni, chi a fi, yw creadigaethau mwyaf gwerthfawr Duw:

Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol. Yr wyt yn fy adnabod mor dda; ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel, ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear. Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun; y mae’r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr; cafodd fy nyddiau eu ffurfio pan nad oedd yr un ohonynt. (Salm 139: 14–16)

Cymerodd Duw ofal mawr wrth ein creu. Datganiad oedd creu’r bydysawd: “Bydded goleuni” (Genesis 1: 3), “Bydded ffurfafen” (Genesis 1: 6), ond rhaid oedd bod yn fwy manwl, yn fwy trylwyr wrth greu ei blant, “Gwnawn ddyn …” (Genesis 1:26). Bu iddo ein gwau cyn i ni wybod am ein bodolaeth … mae ein gwneuthuriad yn rhyfeddol.

 Synnwn i fawr nad oes o leiaf rhai agweddau o’r traethiad yna’n ‘canu cloch’, fel dywed y Sais, ym meddyliau nifer ohonom. Dyma, wedi’r cwbl, yr hyn cawsom ein magu arno. Ond nid pawb sy’n gweld pethau fel hyn! A gyda llaw, nid pobl fel yr Athro Richard Dawkins o Brifysgol Rhydychen sydd gennyf mewn golwg! Yn ôl yr Athro Ellen van Wolde, ysgolhaig ym Mhrifysgol Radboud yn Nijmegen, yr Iseldiroedd, ac un sy’n arbenigo ar lyfrau’r Hen Destament, camgymeriad dybryd yw cyfieithu’r Hebraeg ym mrawddeg gyntaf Genesis i’r geiriau cyfarwydd hynny, “Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.” (Genesis 1: 1) A hithau wedi astudio yn y Sefydliad Beiblaidd Archesgobol yn Rhufain a Phrifysgol Bologna yn yr Eidal, a’i hethol yn Gymrawd o Academi Frenhinol Celfyddydau a Gwyddorau’r Iseldiroedd, mae gan y chwaer hon gymwysterau academaidd sylweddol. Ei gosodiad yw bod y dadansoddiad mwyaf cyfredol o destun Hebraeg pennod gyntaf Genesis yn dangos nad cyfleu mai Duw a greodd y byd oedd bwriad yr awdur gwreiddiol; mewn gwirionedd, mae’n dadlau, roedd y Ddaear eisoes yn bodoli pan greodd Duw anifeiliaid a dynoliaeth.

Mewn erthygl a gyhoeddodd y llynedd yn y cyfnodolyn Vetus Testamentum (2017; 67: 611–47) yn dwyn y teitl: ‘Separation and Creation in Genesis 1 and Psalm 104: a Continuation of the Discussion of the Verb ארב (bara)’, mae’r Athro van Wolde yn ailddadansoddi’r testun Hebraeg gwreiddiol ac yn ei roi, nid yn unig yng nghyd-destun y Beibl cyfan, ond hefyd yng nghyd-destun storïau creu amgen Mesopotamia hynafol. Nawr, rwy’n troedio dyfroedd dyfnion fan hyn oherwydd nid arbenigwr mewn Hebraeg mohonof, ond o ddarllen ei herthygl, ac o’r hyn a ddeallaf, ei dadl yw nad ‘creu’ yw ystyr y ferf ‘ארב (bara)’ sy’n ymddangos ym mrawddeg gyntaf Llyfr Genesis, ond yn hytrach, ‘gwahanu’n ofodol’. Felly, yn ôl yr Athro van Wolde, ac mae wedi bod yn dadlau hyn ers rhyw 15 mlynedd, y cyfieithiad cywir yw: “Yn y dechreuad gwahanodd Duw y nefoedd a’r ddaear.”

Mae’n mynd ymhellach, trwy ddatgan, yn gwbl groes i’r traddodiad Iddewig-Gristnogol sy’n cyffesu bod Duw wedi creu’r Ddaear o ddim, nad dechrau amser yw dechrau’r Beibl ond dechrau adroddiant (narration), dechrau adrodd hanes! Duw greodd anifeilaiid a dynoliaeth, meddai, ond nid y Ddaear ei hun. Mewn cyfweliad ryw ddegawd yn ôl, dywedodd, ac rwy’n lled-gyfieithu, “Do, fe greodd Duw rai pethau, ond nid Nefoedd a Daear. Mae’r cysyniad o greu allan o ddim, creatio ex nihilo, yn gamddehongliad.” Â ymlaen ymhellach i ddweud, “Nid yw’r syniad traddodiadol o Dduw y Creawdwr bellach yn un credadwy (tenable).” (‘God is not the Creator, claims academic’ gan Richard Alleyne, The Telegraph, 8 Hydref 2009)

 Ymdriniaeth ddigon arwynebol rwyf wedi ei chynnwys yma â gwaith manwl ac ysgolheigaidd yr Athro van Wolde, ond gwnaf hynny er mwyn dangos nad oes angen troi at y byd gwyddonol i chwilio am rai sy’n herio’r cysyniad o Dduw yn creu o ddim; mae gennym, yn gwbl iach a chywir, rai o fewn ein corlannau crefyddol a diwinyddol sy’n codi cwestiynau pwysig am ein dealltwriaeth o beth a olygwn wrth sôn am Dduw fel Duw’r Creawdwr.

Wrth gwrs, bu tarddiad y bydysawd yn bwnc llosg mewn diwinyddiaeth Gristnogol ers canrifoedd. Yn ystod y ganrif ddiwethaf, yn fwyaf arbennig, cafwyd cryn ddadlau rhwng y sawl oedd am weld y naratifau am y creu yn nwy bennod gyntaf Llyfr Genesis fel yr awdurdod terfynol yn y materion hyn ac eraill oedd am dderbyn y damcaniaethau gwyddonol diweddaraf gan esbonio a dehongli’r naratifau Beiblaidd yng ngoleuni’r damcaniaethau hyn. Yr hyn rwyf am geisio’i wneud gyda chi heddiw yw trin yn weddol fyr – heb fynd i lawer o fanylder, ond, eto, rwy’n gobeithio, yn ddealladwy – rai o’m syniadau cyfredol ar faterion yn ymwneud â’r Cread a rôl Duw yn hyn i gyd.    

Cynigiwyd y Glec Fawr fel esboniad o darddiad y bydysawd ar sail y ffaith y gwyddom fod y bydysawd mewn cyflwr cyson o ehangu; ac os yw’n ehangu, mae’n rhaid ei fod yn ehangu o fan cychwyn, ‘pwynt unigoliaeth’. Credwn i hynny ddigwydd ryw 13.8 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Ond a ddigwyddodd y Glec Fawr o ‘bwynt unigoliaeth’, pwynt lle mae’r cyfaint yn sero a’r dwysedd yn anfeidraidd, neu a ddigwyddodd o bwynt lle nad oedd, yn llythrennol, ddim o gwbl yn bodoli (damcaniaeth sydd, wrth gwrs, yn adleisio’r athrawiaeth Gristnogol am creatio ex nihilo, y creu o ddim)? Mewn erthygl gymharol ddiweddar yn y cyfnodolyn Physics of the Dark Universe (2013; 2(4): 184–7), er enghraifft, mae’r ffisegydd Christof Wetterich, cosmolegydd o Brifysgol Heidelberg, yn dadlau y gellid cael darlun gwahanol o darddiad y bydysawd, sef fod y bydysawd wedi cychwyn o dan amodau oer iawn, iawn yn hytrach nag mewn cyflwr anhygoel o boeth, fel y ceir yn namcaniaeth y Glec Fawr. Yn y darlun newydd hwn o’r dechreuad nid oes pwynt unigoliaeth … a yw hyn yn dadlau drosg greu o ddim, creatio ex nihilo?

 Y cwestiwn rwyf i wedi gorfod ei ofyn yw: a yw damcaniaethau cosmolegol fel y Glec Fawr yn fygythiad mewn unrhyw fodd i’r ffydd Gristnogol? Mae gennyf ateb cwbl bendant i hynny. Nac ydyw! A hynny oherwydd nad ymgais i gynnig esboniad gwyddonol o darddiad y bydysawd yw naratifau Llyfr Genesis. Gallwn ddweud fod Duw wedi creu’r byd a bod y Glec Fawr yn cynnig esboniad gwyddonol derbyniol a dilys o ddechreuad y bydysawd, heb fod y naill ddatganiad yn amharu mewn unrhyw ffordd ar hygrededd y llall. Yn wir, byddwn i’n dadlau fod y ddealltwriaeth wyddonol am darddiad y bydysawd yn cyfoethogi ac yn dyfnhau’r athrawiaeth Gristnogol, ac yn wir, fod yr athrawiaeth Gristnogol yn medru rhoi dimensiwn newydd i’r esboniadau gwyddonol.

Os caf, rwyf am fynd ar drywydd ymylol fan hyn, a dim ond nodi sut ymateb sydd wedi bod i’r syniad hwn fod gwyddoniaeth a chrefydd – Cristnogaeth yn ein cyd-destun ni – wedi cyd-gerdded, ac yn dal i wneud hynny. Bydd nifer ohonoch yn gyfarwydd â’r enw Michael Faraday, y ffisegydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a fu’n gyfrifol am ddarganfod adwythiad electromagnetaidd. Roedd hefyd yn bregethwr lleyg, ond bu iddo nodi ei fod ef yn cyfyngu ei wyddoniaeth i’r labordy, a’i ffydd i’r eglwys. Hynny yw, yn ei dyb ef, roedd gwyddoniaeth a chrefydd yn nacáu ei gilydd, ac er ei fod yn credu ei bod yn bosibl bod yn wyddonydd ac arddel ffydd, rhaid oedd eu cadw ar wahân. Mae hon, gyda llaw, yn agwedd hynod gyffredin ymysg y cyhoedd, ac yn sicr ymysg gwyddonwyr. Gallwn restru nifer o’m cyd-weithwyr yn y brifysgol y gwn eu bod yn addoli ar y Sul ond nad ydynt am drafod ffydd yn y gweithle, yn y labordy.

Gwahanol iawn oedd canfyddiad Albert Einstein o’r berthynas. Fe gofiwch ei eiriau, a ddyfynnir yn aml: “Science without religion is lame, religion without science is blind.” Mae’r agwedd hon yn un hynod gadarnhaol, ac yn y garfan hon rwy’n gweld fy hun – carfan sy’n gweld rhyngweithio rhwng crefydd a’r gwyddorau, rhwng credu mewn Duw fel Creawdwr a chredu yng ngrym a gallu’r broses wyddonol yn rhoi mewnwelediad pellgyrhaeddol a threiddgar i fywyd, ei ystyr a’i fodolaeth. O berthyn i’r garfan hon gwelir bod ffydd a gwyddoniaeth, a’r prosesau sy’n ynghlwm wrthynt, yn gorgyffwrdd; hynny yw, gellir holi a darganfod trwy ddefnyddio ymchwiliadau gwyddonol yn ogystal ag ymarfer ffydd. Diddorol sylwi cynifer o wyddonwyr cynnar a wnaeth hyn: Robert Boyle – tad Cemeg – o’r ail ganrif ar bymtheg, a John Ray – tad Astudiaethau Natur – a oedd yn defnyddio’i wyddor wyddonol a’i ddarganfyddiadau i arddangos gallu anfesuradwy Duw – dwy enghraifft yn unig o’r llu gwyddonwyr hanesyddol a chyfredol y gellir eu rhestru.

A dychwelyd at y cwestiwn roeddem yn ei drafod cyn i mi eich arwain ar drywydd ychydig yn wahanol, a’r cwestiwn y bydd myfyrwyr yn ei ofyn yn amlach na’r un cwestiwn arall pan fyddant yn sylweddoli mod i’n fiolegydd sy’n arddel ffydd – beth felly ddigwyddodd? Beth ddigwyddodd adeg creu’r bydysawd, beth oedd digwyddiad cyntaf y cosmos? Rydym eisoes wedi ystyried y Glec Fawr ond cymharol ddiweddar, wrth gwrs, yw’r drafodaeth honno. Fel rwyf eisoes wedi crybwyll, dyma’r cwestiwn sydd wedi bod yn trethu rhai o feddylwyr mawr y ddynoliaeth ar hyd y canrifoedd. Bu i’r athronydd enwog Platon ddatgan bod symudiadau wedi tarddu o “enaid” unigryw a bod yr enaid hwn yn “bopeth sydd, sydd wedi bod, ac a ddaw”. Bu Thomas Aquinas yn dadlau ein bod yn byw mewn byd o “ddigwyddiad ac achos”, hynny yw, rhaid bod achos i bopeth a ddigwydd. Os ydy hynny’n wir, yna rhaid sylweddoli bod rhywbeth wedi achosi creu’r bydysawd; ni all fod wedi digwydd heb achos.

Ac efallai nad “beth ddigwyddodd” y dylem fod yn ei ofyn ond yn hytrach “pam y digwyddodd”? Dechrau’r 1990au fe gynhaliwyd dadl hynod o ddiddorol ar fodolaeth Duw fel rhan o gyfres o drafodaethau o Brifysgol Rhydychen ar Sianel 4. Yng Ngholeg Imperial roeddwn i’n gweithio ar y pryd a buom fel grŵp o Gristnogion o wyddonwyr ôl-ddoethuriaethol yn defnyddio’r gyfres yn sail i drafodaethau’r dosbarth Beiblaidd roeddem yn ei gynnal. Rwy’n cofio Richard Swinburne, athronydd ym Mhrifysgol Rhydychen sydd wedi bod ar flaen y gad mewn llawer ystyr am hanner canrif, bron, yn cynnig dadleuon athronyddol dros fodolaeth Duw, yn dweud rhywbeth tebyg i hyn: “Gall gwyddoniaeth ddweud wrthym beth yw Deddfau Natur ond ni all gwyddoniaeth ddweud wrthym pam y maent yr hyn ydynt.” Ac yntau wedi cyhoeddi nifer o lyfrau dros y blynyddoedd, gan gynnwys The Existence of God (1991), mae ei ddadleuon yn hynod ddiddorol a gafaelgar; maent wedi eu crynhoi, gyda llaw, mewn modd hynod ddarllenadwy a hylaw i leygwyr yn ei lyfr Is There a God?, cyfrol a gyhoeddwyd ’nôl yn 1996 ac sydd erbyn hyn wedi ei chyfieithu i 22 o wahanol ieithoedd. Wrth gwrs, mae eraill – Richard Dawkins, Christopher Hitchins, Steven Pinker a Steven Weinberg – sy’n dadlau mai digwyddiadau ar hap sydd wedi arwain at ein bodolaeth fel dynoliaeth ar y Ddaear. Yn annheg o syml, gellir crynhoi barn y garfan hon o bobl fel rhai sy’n dadlau mai camgymeriad yw gofyn pam yr ydym yma. Nid oes angen gofyn hyn. Mae’r bydysawd yma am ei fod yma!

Ar y llaw arall, wrth gwrs, fe gawn bobl mewn hanes fel y bardd a’r dychanwr Eingl-Wyddelig a Deon Eglwys Gadeiriol Padrig Sant yn Nulyn, Jonathan Swift, sy’n dweud yn ei draethawd A Tritical Essay upon the Faculties of the Mind yn 1707: “That the universe was formed by a fortuitous concourse of atoms, I will no more believe that the accidental jumbling of the alphabet would fall into a most ingenious treatise of philosophy.” Yn fwy cyfredol, gwyddonydd y mae gennyf barch mawr tuag ato yw Paul Davies, Athro Ffiseg Fathemategol ym Mhrifysgol Arizona yn yr Unol Daleithiau, a ddywedodd yn 1995 yn ei anerchiad ‘Physics and the Mind of God’ wrth dderbyn Gwobr Templeton: “I have no idea what the universe is about, but that it is about something I have no doubt.” Yn fwy diweddar, datblygodd y syniadaeth hon mewn erthygl, yn 2007, o dan y pennawd “Taking Science on Faith” yn y New York Times, erthygl oedd yn ymchwilio i ddylanwad ffydd mewn gwyddoniaeth. Ei ddadl oedd fod ffydd gwyddonwyr yn natur ddigyfnewid rheolau ffiseg wedi ei gwreiddio mewn diwinyddiaeth Gristnogol. Aeth ymhellach drwy ysgrifennu bod unrhyw hawlio bod gwyddoniaeth yn ‘rhydd o ffydd’ yn ‘gwbl amlwg ffug’ (‘mainfestly bogus’ oedd yr union eiriau a ddefnyddiodd).

Er gwaethaf holl ymdrechion Richard Dawkins yn ei lyfrau cwbl unigryw a hynod ddarllenadwy, fel y The Blind Watchmaker (1986) a’r Selfish Gene (1976), yr hyn sydd efallai’n rhyfedd yw fod canran uchel o wyddonwyr blaengar yn ei chael yn gwbl amhosibl derbyn bod bywyd wedi digwydd trwy hap a damwain. Meddyliwch, er enghraifft, am John Haughton, Cymro a anwyd yn Nyserth ac a ddychwelodd i fyw, ar ôl ymddeol, i Aberdyfi; mae’n un o arbenigwyr mwya’r byd ar wyddorau’r hinsawdd, a hefyd yn bregethwr lleyg nodedig gyda’r Methodistiaid ac yn Gristion o argyhoeddiad. Enillodd Wobr Siapan – y wobr wyddonol uchaf ei bri a roddir i fiolegwyr – yn 2006, ac roedd yn aelod o’r tîm a enillodd Wobr Heddwch Nobel, yr un pryd ag Al Gore, am ei waith gyda’r Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd. Dyma rywun sy’n credu’n gwbl argyhoeddedig yn rôl Duw fel Creawdwr ac yn wir, fel Llywydd Sefydliad John Ray, fe fu iddo gymharu ein rôl fel stiwardiaid ar y Ddaear i’r hyn a ddisgwyliai Duw oddi wrth Adda ac Efa yng ngardd Eden. A’r Athro J. N. Hawthorne wedyn, Athro Biocemeg o Goleg Meddygol Prifysgol Nottingham, yn ei lyfr Windows on Science and Faith (1986) yn trafod creu “bywyd gwreiddiol”. Hanfodion bywyd yw proteinau; brics adeiladu proteinau yw asidiau amino. I greu bywyd, meddai J. N. Hawthorne, byddai angen trefnu’n gywir ryw ddeg mil o flociau asid amino i greu cyfres o broteinau. Mae yna dros 10 i’r pŵer 8,000, hynny yw 1 gydag wyth mil 0 yn dilyn, o ffyrdd o wneud hyn. Ydy hynny’n debyg o ddigwydd trwy hap a damwain? gofynna.

Bu i’r Athro Lipson, mathemategydd o Philadelphia yn yr Unol Daleithiau, grynhoi’r cyfan fel hyn mewn erthygl o dan y teitl ‘A Physicist Looks at Evolution’ (1980; Physics Bulletin, 31: 127–43): “Very reluctantly, I now take the view that evolution cannot be a chance process, and I now postulate the notion of a Creator.” Ond efallai mai’r dyfyniad sy’n dod â gwên i’m hwyneb i bob tro y byddaf yn ei ddarllen – yn rhannol oherwydd mod i’n credu mai camarweiniol yw dilyn y math hwn o resymeg – yw geiriau George Wald, y gwyddonydd a enillodd y Wobr Nobel mewn Ffisioleg yn 1967 am ei waith ar retina’r llygad, pan ysgrifennodd mewn erthygl o dan y pennawd ‘Innovation and Biology’, ’nôl yn 1958, yn y cylchgrawn Scientific American:

There are only two possibilities as to how life arose. One is spontaneous generation arising to evolution; the other is a supernatural creative act of God. There is no third possibility. Spontaneous generation, that life arose from non-living matter, was scientifically disproved 120 years ago by Louis Pasteur and others. That leaves us with the only possible conclusion that life arose as a supernatural creative act of God. I will not accept that philosophically because I do not want to believe in God. Therefore, I choose to believe in that which I know is scientifically impossible: spontaneous generation arising to evolution.

O’m rhan i, a sut y gwelaf i bethau, er fy mod yn derbyn y bydd rhai ohonoch chi yma efallai’n anghytuno â mi, a gaf i gynnig bod credu bod Duw wedi bod – mewn rhyw fodd nad ydw i, rwy’n cyfaddef yn gwbl agored, yn deall, a thebyg na ddof byth i ddeall – yn rhan anhepgor o broses y creu, yng ngwneuthuriad sylweddau ac yn nechreuad bywyd ei hun yn llawer mwy deallusol-foddhaol na chredu bod y cyfan wedi digwydd trwy hap a damwain llwyr. Dwn i ddim faint ohonoch chi, barchusion Cristnogaeth21, sy’n bobl ceffylau, ond a gaf i gynnig nad yw’r “ods” fod y cyfan yn digwydd trwy hap a damwain yn ffafriol o gwbl; byddai tipyn, tipyn, tipyn mwy o siawns, dybia i, o ennill y Loteri Genedlaethol dair gwaith!

Felly, o ddod i’r casgliad fod Duw wedi chwarae rôl – ac rwy’n derbyn bod yna sawl ffordd o ystyried a dehongli beth yn union yw’r rôl honno – yn ymddangosiad a bodolaeth y Ddaear, y bydysawd, y Cread, cwyd y cwestiwn: beth, felly yw ein hymateb, a beth ddylai ein hymateb ni, fel dynoliaeth a phobl ffydd, fod. Gwyddom, ers iddi ymddangos, fod y rhywogaeth ddynol wedi dylanwadu ar y Ddaear drwy effeithio ar yr amgylchedd bioffisegol, bioamrywiaeth ac adnoddau naturiol eraill. Daethom hefyd, fel rhywogaeth, yn llawer mwy ymwybodol, nid yn unig o ganlyniadau ein bod, ond hefyd o’r modd y dibynna un rhywogaeth ar rywogaeth arall am fodolaeth, am y gwead deinamig sy’n bodoli rhwng creaduriaid a’i gilydd, a rhwng creaduriaid a phlanhigion. Cydbwysedd deinamig ond sensitif a berthyn i’r Cread; ni chymer llawer i’w danseilio. Yn Only One Earth, llyfr a ddefnyddiwyd fel deunydd ymgynghorol yng Nghynhadledd Gyntaf y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd yn Stockholm yn 1972, mae Barbara Ward a Rene Dubos yn datgan: “Mae’r gwersi a ddysgwn wrth geisio cyfannu at ei gilydd hanes diderfyn ein bydysawd a’r Blaned Ddaear yn ein dysgu am un peth yn fwy na dim arall – yr angen am y gofal eithaf, synhwyro ehangder arswydus a chymhlethdod y grymoedd y gellid eu gollwng yn rhydd, ac eiddilwch plisgyn wy’r trefniadau y gellid eu disodli.”

Beth, felly, ddylai agwedd y Cristion fod tuag at fyd natur a thuag at y cread yn ei gyfanrwydd? A yw’r ffydd Gristnogol wedi diffinio’i pherthynas â’r cread mewn modd sy’n ateb heriau amgylcheddol yr unfed ganrif ar hugain? Hallt oedd beirniadaeth Lynn White yn ei draethawd, ‘The historical roots of our ecologic crisis’ yn y cyfnodolyn Science yn 1967; ynddo ysgrifennodd: “Both our present science and our present technology are so tinctured with orthodox Christian arrogance towards nature that no solution for our ecologic crisis can be expected from them alone. Since the roots of our trouble are so largely religious, the remedy must also be essentially religious, whether we call it that or not. We must rethink and refeeel our nature and destiny.” Yn sicr, cafwyd tuedd i ddynoliaeth gredu a darbwyllo’i hun fod ganddi statws uwch na phob organeb arall sy’n bodoli ar y blaned. Dadl draddodiadol ymwybyddiaeth Iddewig-Gristnogol yw fod Duw wedi creu dynolryw â chomisiwn arbennig i arglwyddiaethu yn y cread, ac arno, ac i ymelwa ar ei gynnwys a’i adnoddau: “Bendithiodd Duw hwy a dweud, ‘Byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi: llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy’n ymlusgo ar y ddaear.’” (Genesis 1: 28). Eto, yn amser Noa: “Bydd eich ofn a’ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y môr; gosodwyd hwy dan eich awdurdod. Bydd popeth byw sy’n symud yn fwyd i chwi.” (Genesis 9: 2–3). Cred ac agwedd gyfangwbl anthropoganolig! Yn un o’i phapurau trafod, In Relationship with Creation, noda Ruth Page mai un o “beryglon mawr” Cristnogaeth yw’r gred mai yn y rhywogaeth ddynol yr ymddiddora Dduw fwyaf. Mae Lawrence Osborne, yn ei lyfr Guardians of Creation (1993), yn dilyn trywydd tebyg ac yn sôn bod y Beibl, er yn tanlinellu’r gwahaniaeth rhwng y ddynoliaeth a gweddill y greadigaeth, yn gwneud hynny drwy gyflwyno’r ddynoliaeth fel creaduriaid sydd wedi cael galwad arbennig ac wedi derbyn rôl unigryw, fel rhan o economi Duw a’r cread. Â Osborne ymhellach trwy nodi bod yn rhaid derbyn y Cread fel anrheg; o roddi’r anrheg i’r ddynoliaeth mae Duw yn cynnig ei hun i’r rhywogaeth ddynol, yn cynnig ei greadigaeth i ddynoliaeth.

Nid yw syniadaeth Lawrence Osborne yn newydd. Cyfeiria Dietrich Bonhoeffer, yn ei lyfryn Creation and Fall yn 1959, at bwysigrwydd deall pa fath ryddid a ddaw i law’r derbynnydd o dderbyn y fath anrheg. Datgan Bonhoeffer fod y math hwn o ryddid yn cynnwys adnabod a chydnabod y berthynas rhwng unigolyn a gweddill y ddynoliaeth, â Duw a hefyd â byd natur. Datblyga Bonhoeffer y ddadl ymhellach. Ni ellir derbyn yr anrheg heb ddealltwriaeth o ddymuniad y rhoddwr … dyma’r pam, yn hytrach na sut, y soniais amdano ar ddechrau’r sylwadau hyn. Felly, yng nghyd-destun y greadigaeth, rhaid derbyn rhodd Duw o’r ddaear gan ddeall bod dynoliaeth yn rhan unigryw, cwbl annatod ohoni, yn union fel pob creadur, planhigyn neu unrhyw organeb arall sydd hefyd yn byw arni.

“Ni ellir gwerthu tir yn barhaol, oherwydd eiddof fi yw’r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi” (Lefiticus 25: 23). Prydlesol ac nid rhydd-ddaliadol yw perchnogaeth y ddynoliaeth o’r ddaear; mae’n berchnogaeth sy’n ymgorffori’r cysyniad o stiwardiaeth. Duw sydd wedi rhoi’r hawl i ddynoliaeth, drwy roi’r byd yn anrheg iddi, i ‘arglwyddiaethu’. Diffinia John Calvin yn ei Institutes (1536), mewn modd unigryw o gynhwysfawr, beth a olygir gan stiwardiaeth yng nghyd-destun y ffydd:

Rydym yn meddu ar y pethau hyn a draddododd Duw i’n gofal, ar yr amod, gan fodloni ar ddefnydd cynnil a chymedrol ohonynt, ein bod yn gofalu dros yr hyn sy’n weddill. Boed i’r sawl sy’n berchen cae ymgymryd o’i ffrwythau blynyddol, gan sicrhau na niweidir y tir trwy ddiofalwch; bydded iddo wneud pob ymdrech i’w drosglwyddo i’w ddisgynyddion yn y cyflwr y’i derbyniwyd, os nad mewn cyflwr gwell. Boed iddo ymborthi ar ei ffrwythau, ond mewn modd na fydd yn afradloni trwy foethusrwydd, na’i andwyo a’i ddinistrio trwy esgeulustra. Ymhellach, fel bo’r cynildeb a’r dyfalbarhad, yng nghyd-destun y pethau a roddodd Duw i ni eu mwynhau, yn ffynnu yn ein plith, boed i bob un ystyried ei hun yn stiward i Dduw ar bopeth y mae’n ei berchenogi. O wneud hyn, ni fydd yn arddangos ymarweddiad afradlon, nac yn llygru trwy gamddefnydd, y pethau hynny y mynna Duw eu gwarchod.

Ynghlwm wrth y cysyniad o stiwardiaeth ceir hefyd yr awgrym o fod yn un â byd natur. Os ydyw Duw yn un â’r cread, oni ddylai’r ddynoliaeth hefyd fod yn un â gweddill y cread? Yn wir, gellid dadlau, yng nghyd-destun tystiolaeth wyddonol ac esblygiadol, yn arbennig felly ym meysydd geneteg a bioleg foleciwlaidd, nad oes llawer o wahaniaeth rhwng y rhywogaeth ddynol a nifer sylweddol o rywogaethau eraill!

Gellir sôn am stiwardiaeth fel ymddiriedolaeth; rhoddir i stiward, fel ymddiriedolwr, rywbeth i ymddiried ynddo. Yn union fel y derbynia ymddiriedolwyr amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol ymddiriedaeth y cyhoedd i ofalu am gelfyddyd, archifau a phensaernïaeth cenedl, onid felly hefyd yr ymddirieda Duw yn y ddynoliaeth i edrych ar ôl ei greadigaeth? Datblygwyd y syniad o stiwardiaeth y cread ymhellach gan Walter Brueggeman mewn cyfrol a gyhoeddwyd yn 1977, The Land: Place as Gift, Promise, and Challenge in Biblical Faith. Ynghyd â’r awdurdod a roddir gan Dduw i’r ddynoliaeth, mae disgwyl i’r ddynolryw fod yn stiwardiaid ffyddlon a gofalus o’r greadigaeth, gan sicrhau cyflawniad ei bwrpas. Yn benodol, er cael awdurdod i ddefnyddio natur er budd y ddynoliaeth, rhaid gwneud hynny mewn ufudd-dod i ewyllys Duw. Ynghlwm wrth ddealltwriaeth Brueggeman o stiwardiaeth mae’r cysyniad fod stiwardiaeth yn deillio o’r gobaith Cristnogol nad achubir dynoliaeth o’r greadigaeth ond, hytrach, fel rhan o’r greadigaeth. Datblygwyd y cysyniad hwn ymhellach gan A, R. Peacocke yn ei lyfr Creation and the World of Science (1979), mewn ymdriniaeth lawer mwy eschatolegol ei naws lle dadleuir i ddynoliaeth gael ei chreu fel cyd-greawdwyr â Duw; y dwyfol a’r dynol yn cydweithio i greu ac achub y byd. Cyfeirir at hyn fel cysyniad creatio continua.

Yn y Testament Newydd ceir aml gyfeiriad at stiwardiaeth, oikonomia (e.e. Luc 16: 2–4; 1 Corinthiaid 9: 17) ac at stiward y tŷ, oikonomeo. Yn ei lyfr Conservation and Lifestyle (1977), cyfeiria Klaus Bockmuehl at y gwahanol gyd-destunau y defnyddir y cysyniad o stiwardiaeth ynddynt yn y Testament Newydd wrth sôn am ymwneud ag eraill: er enghraifft, agweddau – “pan fyddi’n rhoi elusen, paid â chanu utgorn o’th flaen” (Mathew 6: 2–4; 6: 19–33; Marc 14: 11; Actau 8: 18–23; Rhufeiniaid 13: 8); perchnogaeth – ymateb Iesu i gynnig y diafol adeg y temtiad: “y rhain i gyd a roddaf i ti” (Mathew 4: 8–9; Colosiaid 1: 16-18); gwaith – “gweithio … rhag bod yn faich ar neb ohonoch” (2 Thesaloniaid 3: 6–13); a ffordd o fyw – “rhaid i’r sawl sydd ganddo ddau grys eu rhannu ag unrhyw un sydd heb grys” (Luc 3: 1–14; 12: 16–31; 19: 1–8; 1 Timotheus 6: 6–19). Cred Bockmuehl y dylai pob Cristion feddwl amdano’i hun fel ffermwr sydd wedi derbyn tenantiaeth ar fferm y cread. Fel tenant, mae ganddo’r hawl i wneud defnydd o’r hyn sydd ar gael ar y fferm, ond mae hefyd yn atebol i Dduw am y modd y defnyddia’r hawl hwnnw. Pwysleisia’r Testament Newydd hefyd na ddylid bod yn drachwantus; dim ond yr hyn sydd ei angen y dylid ei ddisgwyl: “A chwithau, peidiwch â rhoi eich bryd ar beth i’w fwyta a beth i’w yfed, a pheidiwch â byw mewn pryder” (Luc 12:29); “Os oes gennym fwyd a dillad, gadewch inni fodloni ar hynny” (1 Timotheus 6: 8). Mewn ymdriniaeth ddeongliadol dreiddgar mewn cyfres o ddogfennau rhwng 1995 a 2016, datblygodd Peter Kockelkoren raddfa o ymagweddau amgylcheddol posibl: teyrnaswr a wêl y ddaear yn adnodd i ymelwa ohono; stiward sy’n arfer y ddyletswydd o ofalu am y cread; partner sy’n ymateb i bob ffurf nad yw’n ddynol fel pe bai’n gynghreiriad posibl; neu gyfranogwr sy’n gweithio ar y cyd â’r cread. Penderfynu ym mhle y saif ar y continwwm yw her y Cristion!

Yn gymharol ddiweddar, bu i John Bergstrom, Athro Economeg a Pholisi Amaethyddol Prifysgol Georgia, UDA, grynhoi egwyddorion y safbwynt Cristnogol tuag at amaethyddiaeth, adnoddau naturiol a’r amgylchedd mewn erthygl yn The Areopagus Journal of the Apologetics Research Center (2009; 7: 16–27). Ceisia Bergstrom ein darbwyllo bod stiwardiaeth Gristnogol yn cydnabod bod y greadigaeth wedi ei chreu gan Dduw, yn perthyn i Dduw, ac o werth i Dduw am yr hyn ydyw. O ganlyniad, gwaith y Cristion yw defnyddio’r greadigaeth er budd Duw ac er budd y ddynoliaeth. Mae parchu planhigion, anifeiliaid ac elfennau eraill o’r greadigaeth yn dangos parch tuag at y Duw sy’n dri yn un. Mae’r stiward Cristnogol yn parchu’r greadigaeth am fod iddi hithau le yn adfer ac achub “y nef newydd a’r ddaear newydd” (Datguddiad 21: 1). Gocheler, rhybuddia Bergstrom, rhag gwneud y greadigaeth yn wrthrych addoliad; yr arlunydd, nid y darn o gelf, sydd i’w anrhydeddu!

 Mae gan Gristnogaeth draddodiad hir o ddwys ystyried cyfrifoldeb y ddynolryw tuag at fyd natur. Rhaid cydnabod tuedd ymagweddiad Cristnogaeth i fod yn anthropoganolig, a thanlinellwyd hynny yn nadansoddiadau pobl fel Lynn White a Ruth Page. Ceir nifer o Gristnogion sy’n ymdrin â’r berthynas yn llawer mwy bioganolig, ac er i Eglwys Rufain yn hanesyddol ganolbwyntio ar y ddynoliaeth yn hytrach na’r “syniad haniaethol o natur”, bu i’r Pab Ioan Paul II ddatgan yn 2001 nad cenhadaeth y Cristion oedd bod yn “feistr absoliwt a diamheuol ond yn stiward o deyrnas Duw”. Cadarnhawyd hynny yn anerchiad y Pab Bened XVI ar Ddiwrnod Heddwch 2008, ddeng mlynedd i ddoe, pan alwodd ar Gatholigion, wrth gyfaddef bod “trysorau’r ddaear wedi eu gorfodi i wasanaethu pwerau ymelwa a dinistr”, i fod yn well stiwardiaid o greadigaeth Duw gan beidio “ystyried yn hunanol mai unig swydd natur oedd gwasanaethu ein mympwyon”. A thair blynedd yn ôl, yn 2015, tanlinellwyd hyn oll yng nghylchlythyr pellgyrhaeddol y Pab Ffransis, Laudato Si. On Care for Our Common Home. Pwysleisia Cristnogion amgylcheddol gyfrifoldebau ecolegol Cristnogion fel stiwardiaid o ddaear Duw. Ceir canllawiau gan Dduw ynghylch yr hyn y dymuna i ddynolryw ei wneud â’r greadigaeth (Genesis 1: 28); fe’n hatgoffir mai rôl gyntaf Adda yng ngardd Eden oedd ei “thrin a’i chadw” (Genesis 2: 15). Stiwardiaeth, nid perchnogaeth, yw pwyslais y Beibl – erys y ddaear yn eiddo’r Arglwydd (Salm 24: 1) ac nid ei phreswylwyr (Lefiticus 25: 23).

Cread Duw. Duw’r Creawdwr. Boed yn berson o ffydd neu o anffydd, boed yn arddel Creadaeth neu’n wyddonydd Darwinaidd sy’n arddel ffydd, mae gan E. O. Wilson, anffyddiwr, biolegydd sy’n arbenigo ar forgrug, ac un o feddylwyr mawr y ddisgyblaeth rwy’n arbenigo ynddi, sef entomoleg, eiriau priodol yn ei lyfryn The Creation: An Appeal to Save Life on Earth y gallaf eu defnyddio i gloi:

religion and science are the two most powerful forces yn the world today … If religion and science could be united on the common ground of biological conservation, the problem would soon be solved. If there is any moral precept shared by people of all beliefs, it is that we owe ourselves and future generations a beautiful, rich and healthful environment. Those living today will either win the race against extinction or lose it, the latter for all time. They will earn either everlasting honor or everlasting contempt.

O led gyfieithu i’r Gymraeg:

crefydd a gwyddoniaeth yw’r ddau rym mwyaf pwerus yn y byd heddiw … Pe gellid cyfuno crefydd a gwyddoniaeth ar dir cyffredin cadwraeth fiolegol, byddai’r broblem wedi ei datrys mewn chwinciad. Os oes y fath beth â gwireb foesol a rennir gan bobl o bob cred, er parch i ni ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol, amgylchedd hardd, cyfoethog ac iach yw hynny! Rydym ni sy’n byw heddiw naill ai’n mynd i ennill y ras yn erbyn difodiant neu ei cholli, a bydd goblygiadau i hynny am byth. Gan ddibynnu ar yr hyn a ddigwydd, fe fyddwn un ai’n ennill parch neu ddirmyg tragwyddol.”