
Agora rhif 25 mis Mehefin 2018
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Darlith Flynyddol Ystafell Fyw Caerdydd
- Darlith Flynyddol Ystafell Fyw CaerdyddRhagor- Darlith Flynyddol Ystafell Fyw Caerdydd  - Cynhelir 10ed Darlith Flynyddol Stafell Fyw Caerdydd ar 19 Mehefin yn yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd, rhwng 7 a 9 y.h. - Traddodir y ddarlith ar y testun ‘Diogelu’r genhedlaeth nesaf rhag niwed’ gan yr Athro Samantha Thomas. Prifysgol Deakin, Melbourne, Awstralia. - Croeso mawr i bawb. - Gellir cofrestru ar livingroom-cardiff.com neu drwy eu ffonio ar 029 2049 3895 
- Cynhadledd 2018Rhagor- Cynhadledd Flynyddol C21 - ‘Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythur’ - yng nghwmni’r Tra Pharchedig Jeffrey John, Deon St Albans - dydd Sadwrn 30 Mehefin yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd  - Lawrlwythwch y poster yma 
- Yn Deg OedRhagor- Yn ddeg oed - Mae Cristnogaeth 21 yn ddeg oed eleni. Mae dweud hynny braidd yn ymhonnus, wrth gwrs, fel petaem yn hawlio ‘Cristnogaeth’! Mae awgrymu mai dyma Gristnogaeth yr unfed ganrif ar hugain yr un mor ymhonnus, wrth gwrs. Parhad, atodiad, trafodaeth, amrywiaeth, darganfod, dysgu, ysgogi yw Cristnogaeth 21, a hynny’n barhad o hen, hen draddodiad. Mae’r ffydd Gristnogol wedi parhau’n ffydd fyw oherwydd bod yr eglwys a Christnogion wedi rhannu a thystio mai mudiad ydyw – neu, yng ngeirfa’r Pentecost, yr Ysbryd ar waith – a bod y gwaith a’r dystiolaeth mor fyw ac amrywiol ag erioed. Mae Cristnogaeth 21 mor hen â hynny! Mae hynny’n ... 
