Iesu v Cesar

 

Iesu v. Cesar
gan Guto Prys ap Gwynfor

Pan aned Iesu, Gaius Octavius, neu Octavian (63cc–14oc) oedd ymherodr Rhufain. Llwyddodd Octavian i gael ei gydnabod fel unben yn dilyn cyfres o ryfeloedd cartref gwaedlyd, a ddilynodd llofruddiaeth ei ewythr, a’i lys-dad, Iwl Cesar, yn 44cc. Parhaodd y rhyfeloedd hyd 31cc pan drechwyd Marc Antoni a Cleopatra ym mrwydr Actium. Mabwysiadodd Octavius yr enw Cesar Awgwstus, ac yn ôl yr enw hwnnw yr adnabyddir ef hyd heddiw, dyna’r enw a ddefnyddia Luc wrth iddo sôn am eni Iesu.

PAX ROMANA

Yn dilyn y rhyfeloedd cartref hynny cafwyd cyfnod o ddwy ganrif o’r hyn a elwir yn Pax Romana, neu Heddwch Rhufeinig. Cysylltwyd yr heddwch hwn â buddugoliaeth Octavius yn y rhyfel cartref. Honnwyd taw buddugoliaeth milwrol oedd sylfaen yr heddwch. Honiad poblogaidd hyd heddiw. Wrth gwrs nid oedd yr ‘heddwch’ hwnnw’n heddwch mewn gwirionedd, llonyddwch i bendefigion Rhufain a’i thaleithiau allu cario ymlaen i gynnal eu cyfundrefn anghyfiawn a gormesol ydoedd a chyfle i’w masnachwyr a’i thir-feddianwyr wneud eu ffortiwn ar gefn y werin a’r caethweision. Ymladdwyd llu o ryfeloedd ar ffiniau’r ymerodraeth, goresgynwyd nifer o wledydd (yn cynnwys Cymru), chwalwyd mewn modd creulon iawn obeithion nifer o genhedloedd, fel yr Iddewon yn 60oc a 132oc pan ddinistriwyd Jerwsalem a’i theml a gwasgarwyd yr Iddewon (y Diaspora) ar draws y byd. Defnyddiwyd y groes er mwyn cadw’r heddwch.

Dyna’r fath o heddwch oedd y Pax Romana a ddyrchafwyd yn ei chyfnod ac a ddyrchefir hyd heddiw fel esiampl dda o fendithion yr ymerodraeth Rufeinig. Dyma’r math o heddwch y mae Jeremeia’n cyfeirio ato pan ddywed “Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl, gan ddweud, ‘Heddwch! Heddwch!’ – ac nid oes heddwch.” (Jeremeia 6:14 a 8:11). A dyma’r math o heddwch yr ydym ninnau’n ei fwynhau heddiw. Llonyddwch pan mae’r drefn economaidd hynod anghyfiawn  yn cael ei hybu a’i chanmol gan y cyfoethog grymus!

CWLT YR YMHERODR

Yr oedd yr ymerodraeth Rufeinig yn un hynod iawn o grefyddol. Yr oedd duwiau o bob math ar bob llaw. Yr oedd Rhufain yn barod i oddef yr amrywiaeth yma cyhyd ag y bo’r arddelwyr  yn barod i gydnabod y prif gyltiau sef cwlt duwies Rhufain a chwlt yr ymherodr, Cesar. Yr oedd y crefyddau i gyd yn barod i wneud hynny, heblaw am yr Iddewon, er hynny  fe oddefwyd Iddewaeth oherwydd i’r arweinwyr gefnogi Iwl Cesar yn ystod y rhyfel cartref rhyngddo a Pompei. Eto i gyd nid oedd Iddewaeth yn boblogaidd o bell ffordd, a bu tensiwn rhyngddynt hyd y gwrthryfeloedd a sicrhaodd difodiant y wladwriaeth Iddewig yn 60oc a 132oc. I ganol y tensiynau hyn y ganwyd Iesu ac o ganlyniad iddynt y lladdwyd ef. Trwy ei weinidogaeth bu’n annog pobol i ddilyn ffordd tangnefedd wrth fynd i’r afael a’r tensiynau.

Augustus ( – Llun Wikipedia)

Ystyriwyd Awgwstus fel ymherodr tra effeithiol, fe, yn ôl y gred gyffredin, oedd yn gyfrifol am sicrhau’r heddwch a deyrnasai. Er hynny gŵr hynod o greulon ydoedd ac un oedd yn barod i ddyrchafu ei hunan i fod yn dduw. Dywed Mary Beard amdano yn ei chyfrol SPQR: A History of Ancient Rome, ei fod yn feistr ar y defnydd o bropaganda gan greu’r argraff ei fod yn deyrn rhadlon a chymwynasgar yn ogystal a bod yn ryfelwr effeithiol a chadarn, ond mewn gwirionedd dyn creulon a hynod o hunan–geisiol ydoedd a gipiodd rym drwy drais ac a gynhaliodd ei hun drwy drais a’r bygythiad o drais.

 

YR UN DWYFOL

Perthyn ei bropaganda i’r arfer oesol o glodfori rhyfela a’r rhyfelwyr a’u rhamanteiddio. Rhan o’r propaganda oedd y newid enw, ystyr y Lladin Awgwstus yw ‘yr un dwyfol’, yn y Roeg fe alwyd ef yn Sebastos, sef ‘yr un i’w addoli’. Gan ei fod yn fab mabwysiedig i Iwl Cesar oedd wedi ei ddyrchafu’n dduw, fe’i ystyriwyd yn ‘fab duw’ ac yn ‘dduw’ ei hun. Arysgrif mewn tref ger Sparta, Groeg, o 15 o.c. yn cyfeirio at ŵyl a gynhaliwyd  “i’r duw Cesar Awgwstus, mab duw, ein gwaredwr a’n hachubwr”. Oherwydd ei lwyddiannau milwrol galwyd ef yn Waredwr y Byd. Yn wir, ystyriwyd ef yn ymgnawdoliad o’r dwyfol, a talwyd gwrogaeth i’w genius fel i dduw.

Yn y flwyddyn 9cc lluniodd Cynghrair Dinasoedd Asia ddatganiad i ddyrchafu’r Awgwstus dwyfol – y bwriad oedd mesur amser o ddydd ei enedigaeth a dathlu nadolig ymerodrol:

Gan fod rhagluniaeth, sydd wedi trefnu’n ddwyfol ein bodolaeth, wedi cyfeirio’i hegni a’i sêl drwy ddwyn i fodolaeth y daioni perffaith yn Awgwstus, a lanwyd o fendithion ganddi er lles y ddynoliaeth, a’i osod drosom ni a’n disgynyddion fel gwaredwr – yr un a roes ddiwedd ar ryfel, ac a fydd yn trefnu heddwch, Cesar, drwy ei ymddangosiad gwellwyd ar obeithion y rhai fu’n proffwydo’r newyddion da [euaggelia – efengyl]… gan taw genedigaeth y duw hwn oedd cyfrwng dyfodiad y newyddion da a drigai ynddo… [datganwn] y bydd Medi 23ain yn ddydd calan y flwyddyn newydd”.

Sylwer ar yr eirfa a ddefnyddiwyd gan gwlt yr ymherodr i’w ddisgrifio ac i ddisgrifio’r hyn a gyflawnodd – rhagluniaeth, gwaredwr, newyddion da; sonir amdano fel gwaredwr y byd, duw a mab duw a’i fod wedi cael ei eni i roi diwedd ar ryfel a chreu heddwch. Dyma’r eirfa a ddefnyddia awduron yr Efengylau i sôn am Iesu.

Y  gwerthoedd a’r meddylfryd Rhufeinig hyn oedd yn sylfaen i’r addysg yn yr ysgolion bonedd yn Lloegr (ac ambell un yng Nghymru) a helpodd i greu’r ysfa imperialaidd a’u nodweddai; fe’i hefelychwyd gan yr ysgolion gramadeg (ac yna’r ysgolion cyfun yn yr ymdrech i efelychu’r crach). Mae hyn yn esbonio llawer am y Prif Weinidog Prydeinig sydd yn mawrygu’r hyn a elwir yn ‘Glasuron’ o hyd!

ICHTHUS

Heddwch a orfodwyd gan fygythion a thrais eithafol oedd y Pax Romana, ‘tangnefedd’ y byd syrthiedig hwn. Perffeithiwyd y dull mwyaf creulon o gael gwared ar rai a beryglai’r Pax Romana, benthyciad o Persia, sef y groes. Croeshoelio oedd y dull creulonaf, ond nid yr unig ddull o bell ffordd o ddienyddio ‘terfysgwyr’ (‘terroristiaid’ yn yr ieithoedd cyfoes). Ystyriwyd unrhyw un a fygythiai’r heddwch Rhufeinig fel terrorist a haeddai ei arteithio a’i ladd yn y modd hwn. Yr oedd yr heddwch hwn yn dra dderbyniol i’r breintiedig cyfoethog oedd yn byw bywydau o safon byw hynod o uchel. Nid oedd felly i’r werin dlawd a’r caethweision. Dibynai’r heddwch ar y lluoedd arfog a’r parodrwydd i ddefnyddio trais eithafol a mynd i ryfel: “Os am heddwch, paratowch ar gyfer rhyfel”! Meddylfryd sy’n dal yn dra phoblogaidd, ac sy’n rheoli byd-olwg y mwyafrif o’r boblogaeth o hyd. Digon teg yw datgan taw dyma ffordd y byd. “Nid fel y mae’r byd yn rhoi yr wyf i’n rhoi i chwi,” meddai Iesu pan sonia am adael i’w ddisgyblion ‘dangnefedd’.

Llun- WordPress

Dioddefodd Iesu ar Golgotha neu Galfaria o ganlyniad i ymdrech yr awdurdodau Rhufeinig i gadw’r heddwch hwn. Sylwch fel y gwnaeth yr Eglwys Fore herio’r meddylfryd imperialaidd hwn drwy ddefnyddio fel symbol yr ἸΧΘYΣIchthus (Ἰησοῦς Χριστός Θεοῦ Yἱός Σωτήρ, Iesous Christos Theou Huios Soter – Iesu Grist Mab Duw Gwaredwr) y ‘pysgodyn’ sy’n datgan mai Iesu yw Mab Duw, ac efe yw’r Gwaredwr. Na, nid symbol bach sentimental neis oedd hwnnw ond datganiad heriol oedd yn deyrn-fradwraeth yng ngolwg yr awdurdodau. Heriai eu holl ffordd o feddwl a’u holl werthoedd.

Y MESEIA

Mae Mathew yn dweud yr un peth a Luc sef bod dyfodiad Iesu i’r byd yn herio’r grymus cyfoethog ac yn cyflwyno gwerthoedd hollol wahanol.

Lluniwyd storïau’r geni gan Mathew a Luc gyda’r bwriad i herio’r meddylfryd imperialaidd sy’n cael mynegiant yn y datganiadau uchod, y mawrygu a gogoneddu trais a’r cwlt imperialaidd sy’n dyrchafu pobol breintiedig uwchlaw pawb arall. Yng nghân yr angylion defnyddir teitlau ar gyfer y baban Iesu oedd yn cael eu hystyried fel ‘eiddo’ Cesar – “ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd;” (Luc 2:11). Fel y gwelwyd uchod ‘gwaredwr’ yw un o’r teitlau mwyaf cyffredin i’w roi i Cesar, ac ‘Arglwydd’ (ym mhob diwylliant) yw’r gair a ddefnyddir i ddynodi awdurdod, statws a grym. Mae’r angylion yn datgan taw Iesu, nid Cesar, yw’r Gwaredwr a’r Arglwydd.

Perthyn ‘Meseia’ i’r disgwyliadau Iddewig. Mae Mathew yn dweud yr un peth a Luc sef bod dyfodiad Iesu i’r byd yn herio’r grymus cyfoethog ac yn cyflwyno gwerthoedd hollol wahanol. Mae Herod yn ymdrechu i gael gwared a’r hyn a ystyria fel bygythiad i’w rym a’i gyfoeth ef a’i awdurdod ef dros y genedl Iddewig. Cyfaill i Awgwstus ac un oedd yn barod iawn i ddefnyddio dulliau Rhufain o lywodraethu oedd Herod. Pwysleisia Mathew bod Herod a’i werthoedd yn elyniaethus i Iesu a’i werthoedd ef.

Yr oedd Palesteina yn rhan hynod drafferthus o’r ymerodraeth Rufeinig. Yn ystod bywyd Iesu, heblaw am gyfnod ei alltudiaeth yn yr Aifft, bu Iesu’n byw yn nhiriogaeth Herod Antipas, mab Herod Fawr sef Galilea a thiroedd eraill y tu hwnt i’r Iorddonen. Nid oedd gan Iesu unrhyw barch at hwn, galwodd ef yn gadno. Fe fu’n gyfrifol am ladd Ioan Fedyddiwr. Gyda chaniatad Rhufain ac o dan ei hawdurdod y teyrnasai ef. Yr oedd Jwdea a Samaria’n cael eu llywodraethu gan Raglaw Rhufeinig ers marwolaeth Herod Fawr, un ohonynt oedd Pontius Pilates. Yr oedd haenau uchaf y gymdeithas Iddewig, yr archoffeiriad a’r offeiriadon, yr ysgrifenyddion, y Sadwceaid a llawer o’r Phariseaid yn cydweithredu â’r Rhufeiniaid, ac yn ymelwa o’r Pax Romana. Yr oeddent yn rhan o’r gyfundrefn ormesol. Nhw oedd perchnogion y tiroedd yn Galilea, ond yr oeddent yn byw yn y ddinas, yn bennaf yn Jerwsalem, ac o’u plith hwy y daeth yr arweinwyr crefyddol a reolai’r deml. Rhain oedd gelynion Iesu.

Nodweddwyd y cyfnod gan ymlediad y bwlch rhwng y tlawd a’r tra chyfoethog. Trigai’r cyfoethog yn y dinasoedd mawr, Tiberias yn Galilea a Jerwsalem yn Jwdea. Eu breintiau hwy a amddiffynwyd gan y lluoedd arfog, weithiau rhag bygythiadau o’r tu fas, ond gan amlaf rhag y bobol yn y wlad fel y gwelwyd yn ystod y gwrthryfeloedd niferus a fu ym Mhalesteina. Ganwyd Iesu i blith y tlodion gwledig, dyna ergyd pwyslais Luc pan ddywed iddo gael ei osod i orwedd ym mhreseb yr anifail; a bod ei rieni wedi rhoi aberth y tlodion, dwy golomen, pan gyflwynwyd Iesu yn y deml. Bwriad Luc yw pwysleisio bod Duw yn uniaethu â’r tlodion!

GWERTHOEDD HEDDIW

Wrth ystyried cyflwr ein byd sylweddolwn bod gwerthoedd Awgwstus yn dal i arglwyddiaethu, a gwerthoedd y baban a aned o Fair yn cael eu gwawdio a’u dirmygu.
Roedd cwlt Cesar yn dal mewn bri pan ysgrifenwyd yr Efengylau, a bu mewn bri am ganrifoedd wedyn – mae e’n dal mewn bri. Wrth ystyried cyflwr ein byd sylweddolwn bod gwerthoedd Awgwstus yn dal i arglwyddiaethu, a gwerthoedd y baban a aned o Fair yn cael eu gwawdio a’u dirmygu. Trychineb y sefyllfa yw bod mwyafrif llethol y rhai sy’n galw Iesu’n Arglwydd yn dilyn ac yn ymddiried yn ffordd Awgwstus. Credir o hyd taw’r  cyfoethogion rhyfelgar yw’r rhai sy’n gwaredu.

Cyhoeddwn ninnau mai Iesu, nid Cesar, yw’r Gwaredwr ac mai ffordd Iesu, nid ffordd Cesar, yw ffordd gwaredigaeth sy’n dwyn gobaith a chyfeiriad i’n byd.