Tranc Democratiaeth

Cenedl dda a chenedl ddrwg:
Dysgent hwy mai rhith yw hyn…
meddai Waldo Williams am ei rieni. Ond rhannu’r gwledydd yn dda a drwg wnawn ni aml. Ar y naill law y gwladwriaethau democrataidd ac, ar y llaw arall, yr unbenaethau llwgr a’r totalitariaethau haearnaidd. Bellach mae’r byd i gyd fel petai’n dadfeilio. Mae’r cyfan yn y pair. Yn sicr mae gwir ddemocratiaeth yn wynebu argyfwng, a hen egwyddorion gloyw diwygwyr ac ymgyrchwyr rhyddid, fel eu baneri a’u placardiau, dan draed yn y baw. Yn ddiweddar mae tri pheth wedi fy argyhoeddi fod y ddelfryd ddemocrataidd yn gwywo.

Mae’r cyntaf yn chwerthinllyd o blwyfol. A thrist hefyd o ran hynny. Bu’r Blaid Lafur wrthi’n trefnu ethol arweinydd, a hynny yn ôl eu “dulliau teg a democrataidd”. Ond och a gwae! Pan ddechreuodd y polau piniwn ddangos mai dewis cynta’r etholwyr Llafur yw Jeremy Corbyn dyma’r ymgeiswyr eraill a’u cefnogwyr yn honni fod rhywbeth mawr o’i le. Aeth rhai ati i geisio atal yr holl broses. Mewn geiriau eraill, mae democratiaeth yn dderbyniol pan fydd yn fy ffafrio i a’m tebyg.

Mae’r ail yn fwy difrifol gan ei fod yn dwyll. Fe honnir gan rai mai Israel yw’r unig wladwriaeth ddemocrataidd yn y Dwyrain Canol. Yn y diriogaeth y mae hi’n hawlio sy’n eiddo iddi mae traean y boblogaeth heb bleidlais. A phan ystyrir y ddwy brif elfen mewn democratiaeth, sef rhyddid a chydraddoldeb, cyfyngir bywydau a hawliau cyffredin Arabiaid Israel yn ddi-baid. Y mae miloedd ohonynt wedi eu halltudio o’u bröydd. Rhwystrir eu rhyddid i deithio o fewn i’w gwlad, ac ymosodir arnynt yn ddidrugaredd o dreisgar ar unrhyw esgus. Mae galw gwladwriaeth felly yn ddemocratiaeth yn gamenwi dybryd.

Mae’r trydydd yn dod yn amlycach bob dydd. Mae’r adroddiadau am yr ymgyrchu ar gyfer ethol Arlywydd yr Unol Daleithiau yn mynd yn fwy a mwy gorffwyll. Ni chlywais fawr sôn am egwyddorion. Nid pwy sydd â’r weledigaeth sy’n cyfri bellach. Nid pwy sydd â’r polisïau. Nid ychwaith pwy sydd â’r cryfder cymeriad na’r bersonoliaeth i fod yn Arlywydd. Yr hyn sy’n bwysig bellach yw pwy sydd â’r cyfoeth mwyaf i redeg ei ymgyrch. Mae ymgyrchu mewn etholiad wedi cyrraedd y gwaelod pan mai’r honiad mwyaf trawiadol a wnaed gan un ymgeisydd yw ei fod yn wirioneddol ariannog. Pa fath o ddemocratiaeth yw hon lle na all neb fod yn ymgeisydd ond drwy honni ei fod mor oludog nes bod ymhell uwchlaw gwerin ei wlad?

Pa ryfedd fod hyd yn oed theocratiaeth wyrdroëdig Islam yn cael tir ffrwythlon i dyfu a lledu?