E-fwletin Gorffennaf 6ed, 2015

Llwybrau Gwyllt Ceibwr

Ni fyddwn yn disgrifio Wynmor fel dyn crefyddol. Ni welais ef mewn dillad parch. Ni chredaf ei fod yn selog mewn oedfaon. Ni fyddwn yn sgwrsio am bethau’r capel. Ond cafodd fagwraeth grefyddol. A gwn ei fod yn mynychu oedfaon cyson ar ei ben ei hun ar hyd yr arfordir. Gall yr arch fore-godwr gael ei weld yn fynych ar hyd y creigiau uwchben traethellau yng nghyffiniau Ceibwr. Ymddengys yn unig.
Ceidw ei olygon ar adar y môr yn troelli uwchben; eu hadenydd ar led yn plymio’n osgeiddig i’r gwaelodion. Clyw eraill yn sgegan ar wyneb y dŵr wrth i’r llanw olchi ar y creigiau. Gŵyr ei fod yn gwylio’r tragwyddol. Gwêl batrwm yr oesoedd ar hyd y darn hwnnw o arfordir. Ond beth sydd yn ei ddenu yno? Mae yna wyntoedd nerthol ac awelon main i’w teimlo yno.
Gallai ein cyfeirio at Traeth Coch a Chell Hywel gerllaw ac adrodd helynt cyrch Operation Seal Bay pan arestiwyd crugyn o bobl am fewnforio cyffuriau yn 1983. Cloddiwyd ogof danddaearol o dan gregyn y traeth ar gyfer storio digon o ganabis o’r math gorau, Lebanese Gold, i gyflenwi anghenion Llundain gyfan ar achlysur y Mardi Gras blynyddol. Gwerth £100,000 yn y cyfnod hwnnw.
Ond byddai Wynmor yn fwy tebygol o fynegi afiaith pe gofynnid iddo esbonio’r enw Cell Hywel. Dychmygai fod un o’r seintiau Celtaidd wedi mordwyo i’r fan mewn cwch bregus a sefydlu myfyrgell yn y creigiau. Byddai hynny’n ddigwyddiad llawer mwy cyffrous yn ei dyb na dilyn hynt y troseddwyr cyffuriau yn Llys y Goron Abertawe pa ddiwrnod.
Wrth ddychwelyd adref i frecwasta wedyn byddai canfod hen bostyn iet wedi’i daflu o’r neilltu yn sicr o’i gyffroi. Byddai’n siŵr o gydio ynddo a’i ercyd adref i’w weithdy. I chi’n gweld mae Wynmor yn artist. Rhan o’r paratoi i fod yn greadigol yw mynd mewn i awyrgylch y môr ben bore.
Tebyg y gorwedda’r postyn pren ar lawr am getyn nes bod y mynych sylwi arno yn y diwedd yn cynnig defnydd. Hwyrach y caiff ei naddu’n llyfn i fod yn fulfran neu aderyn drycin Manaw ar adain. Trwy ddefnyddio cynion llwydda i berswadio’r pren i gyfleu’r egni yna sydd yn yr adenydd yn dal yr aderyn yn yr awyr.
Bryd arall gwêl y pren yn ymffurfio’n Grist ar y Groes a phrin fod angen fawr o gwyro i gyfleu’r rhyfeddod a’r mawredd ar Galfaria. Dro arall try’r pren yn wyneb o arswyd dioddefwyr yr holocost. Braint artist yw caniatáu amrywiol ddehongliadau i lygad yr edmygydd. Sefyll ar glawdd yn atal creaduriaid rhag crwydro bu’r pystion am ddegawdau. Ond yng ngrym yr elfennau ac yn llaw’r artist troesant yn bethau amgenach.
Try at gynfas yr un mor ddeheuig i gyfleu presenoldeb llurs yn nofio ar y lli. O syllu’n ddigon hir fe glywch swish y tonnau tawel ynghyd â sawr y gwymon a’r cregyn. Gwelir eu cysgodion yn y dŵr. Maen nhw’n un â’r greadigaeth.
Mae’r hwylbren ar y curragh wedyn yn cyfleu anturiaeth wrth i’r hwyliwr gyrraedd pen ei siwrnai i benlinio’n ddiolchgar am ei ddiogelwch. Daw crefft a chelfyddyd y canrifoedd cynnar yn fyw. I chi’n gweld mae’r ysbrydol i’w weld yng ngwaith Wynmor. Perl o arddangosfa yw Llwybrau Gwyllt yn Oriel y Parc Cenedlaethol yn Nhudr’ath.
————————————————-
Dyma’r E-fwletin olaf am ychydig wythnosau. Byddwn yn dechrau anfon eto ganol mis Medi, ond daeth yn amser i gael seibiant am ychydig wythnosau. Llawer iawn o ddiolch i’r criw niferus o unigolion a gytunodd i lunio neges dros yr wythnosau ers mis Medi’r llynedd, ac edrychwn ymlaen at gael dosbarthu’r E-fwletinau eto yn yr hydref.
Yn y cyfamser, gobeithio y byddwch yn parhau i ddefnyddio’r Bwrdd Clebran, a chofiwch ein bod ar gael ar Facebook a Twitter hefyd. Bydd y negeseuon hynny’n parhau drwy’r haf.