E-fwletin 11 Hydref 2020

Coron ar y coronafeirws

Mae’n rhaid eu bod yma i aros. Mae’n nhw’n rhan o’n byw beunyddiol erbyn hyn. Ie’r cyfryngau cymdeithasol ac yn benodol y gweddlyfr, chwedl Alan Llwyd.

Mae’n rhan o’r ddefod foreol i droi at y cyfrwng i dreulio sylwadau synhwyrol doeth Geraint Rees yn yr ymennydd yr un pryd â threulio brecwast llawn i lawr y llwnc.

Ac mae John Crace wedyn â’i ddadansoddiadau llym o berfformiadau ein harweinydd gwleidyddol. A John Rodge a Jim Perrin hwythau’r un mor fforensig eu llinynnau mesur yn yr un maes.

Dyna gychwyn da i’r dydd wrth dderbyn ffrwyth myfyrdod eraill o’r un anian wrth hanshan ffrwyth y berllan. Mae’n arbed gorlethu gïau’r ymennydd ben bore. Diwallwyd anghenion y meddwl a’r corff cyn codi o’r bwrdd.

Bonws wedyn yw bod yr un peth yn bosib o fewn y byd crefyddol Cymraeg. Pe bawn yn gwrando ar bawb a phopeth byddwn yn jynci crefyddol bid siŵr. Mae yna gapeli a gweinidogion wedi ymateb i’r her i gynnal eglwys ddi-adeilad.

Rhai yn mynd ati i ail-greu yr oedfa draddodiadol, braidd yn dreuliedig, ar y we. Eraill yn hepgor y bregeth ac yn cyflwyno myfyrdodau o amrywiol hyd fel chwa o awyr iach. Cydio yn yr hanfodion. Tybed a yw’r bregeth wedi’i chladdu gyda dyfodiad y we?

Ar ryw olwg bu drysau’r capeli ar gau’n holbidag ond ar olwg arall bu’r drysau led y pen ar agor gan gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach nag arfer. Mae’n bosib gadael ein hunain yn agored i ddylanwadau na wyddom am eu bodolaeth cynt.

Dyna chi’r Rev William J. Barber II, horwth o weinidog croenddu yn dioddef o fath eithafol o wynegon, miliwnydd o bosib, ond wedi sefydlu’r hyn mae’n ei alw yn ‘Moral Monday’ ymhlith y tlodion a’r difreintiedig. Mae’r cenhadwr yn Eglwys Gristnogol Greenleaf, Gogledd Carolina, hefyd yn herio anghyfiawnder y drefn wleidyddol yng ngoleuni dysgeidiaeth yr Iesu.

Os bosib y rhoddir y gorau i’r cyfryngau hyn yng Nghymru fach pan ddaw’r pandemig i ben. Mae’r posibiliadau’n ddi-ri.

Meddylier. Gosod sgrin fawr i gwato’r pulpud. Gwahodd cennad Cyrddau Mawr – os yw’r rheiny’n dal i gael eu cynnal – i ymddangos ar y sgrin er mwyn ei arbed rhag teithio o bell. Wrth reswm byddai angen paned a phancosen wedyn i bawb fedru trafod y myfyrdod o dan arweiniad un o’r aelodau blaenllaw.

Cynnal ambell Gwrdd Gweddi neu Gwrdd Diolchgarwch gyda chymorth Zoom. Hyd yn oed bathu enwau newydd i ddisgrifio’r cyfarfodydd hyn. Bu son eisoes ar y cyfrwng hwn am newidiadau dirgrynol os nad daeargrynfäol.

A glywaf leisiau yn awgrymu cau capeli cyn eu bod yn eu cau eu hunain? Gwerthu’r adeiladau a defnyddio’r cyfalaf i godi canolfannau bro lle byddai pa weinidogion bynnag fyddai yn y gofalaethau cylchynol yn cael eu cyflogi i weinidogaethu ar y cyd.

Buddsoddi mewn adnoddau modern a manteisio ar ddoniau amrywiol i genhadu a chynnig myfyrdodau perthnasol wrth ddehongli’r hen mewn gwedd newydd.

Byddai datblygiadau o’r fath yn goron ar y coronafeirws. Pa Gwrdd Adran, Sasiwn neu Gwrdd Chwarter wnaiff arwain y ffordd?

Cyfarchion caredig

Cristnogaeth 21

 

Cofiwch ein bod yn dal i wahodd cyfraniadau ariannol tuag at yr Apêl i hyrwyddo gwaith Cristnogaeth 21. Hyd yn hyn, rydym wedi codi’n agos at £2,000 ond mae angen rhagor i gynnal y wefan a sicrhau parhad y llwyfan i drafodaeth agored a blaengar ar Gristnogaeth gyfoes. Mae’r manylion ar sut i gyfrannu ar gael ar y wefan. Diolch yn fawr.