E-fwletin 19 Ebrill, 2020

Mwy o Eiriau

Rwyf wedi sôn mewn lle arall am sut mae geiriau’n newid eu hystyron neu’n magu bloneg yn y dyddiau rhyfedd hyn. Ystyriwch: ‘smai?/shwmae?’ ‘ti’n ok?’ ‘iechyd da!’ ‘cadw’n iawn?’, ‘cadw hyd braich’ (neu ddwy neu dair), ‘gweld o bell’ (a dim nes na hynny), ‘wela’i di’ (gobeithio).

Pethau oedd bedair wythnos yn ôl yn ddim mwy na geiriau llanw’n byw bob dydd, sy bellach yn drwm o ystyr.

Mae rheidrwydd wedi gorfodi llawer ohonon ni i droi at y byd rhithiol am y tro cyntaf i weithio, i weld ein ffrindiau a’n teuluoedd neu i addoli. Ond mae nifer ohonon ni oedd eisoes yn byw cryn dipyn o’n hamser yn y byd hwn wedi dod o hyd i gilfachau newydd hefyd. Yn fy achos i cynadleddau fideo ydy’r dechnoleg honno. Doeddwn i ddim ofn y dechnoleg, roeddwn wedi ei defnyddio, ond doeddwn i ddim yn dewis ei defnyddio. Bellach mae’n rhaid i mi ac fe fydd yn newid rhan o mywyd i am byth.

Rwyf wedi cyfweld pobl am swydd, wedi ‘mynd allan’ i ffarwelio â chydweithiwr, wedi cynnal myrdd o gyfarfodydd, cyfarfod ffrindiau coleg am baned, wedi ‘faceteimio’ fy mam a’m modrybedd ac wedi ymuno â gwasanaethau na fyddwn i byth wedi ymuno â nhw fel arall.

Ac yn sgil hyn oll mae geiriau wedi magu ystyron newydd yn y byd rhithiol yn ogystal.

Tra’n hiraethu am gyfarfod, ysgwyd llaw a chofleidio, onid ydan ni bellach yn gwerthfawrogi ‘cadw mewn cysylltiad’ (efallai bod eironi’r Saesneg ‘keep in touch’ yn gryfach) mewn ffordd arall?  A chyfarfod ‘wyneb yn wyneb’ wedi mynd i olygu rhywbeth gwahanol. Efallai ein bod ni’n gweld emosiwn ar sgrin nad ydan ni’n ei glywed dros y ffôn?

Rhai o’r ymadroddion sy’n britho’n sgyrsiau ni mewn ffordd na wnaethon nhw erioed o’r blaen ydy ‘wyt ti’n fy nghlywed i?’ ac ‘wyt ti’n fy ngweld i?’

Fy mantra i ar hyn o bryd ydy meddwl allan o’r bocs a pheidio meddwl y bydd popeth yn mynd yn ôl i mewn iddo fo. Pan ddown ni allan o hyn fyddwn ni ddim yn adeiladu ar yr un seiliau. Yn wleidyddol allwch chi fentro y bydd ein gelynion ni’n manteisio ar bob cyfle, yn gymdeithasol gobeithio y byddwn ni, o hiraethu am yr agosatrwydd oedden ni’n arfer ag o, yn ei werthfawrogi fwyfwy. O ran addoliad, mae pob adnodd a grëir yn lleol ar gael i’r byd i gyd ac yn cynnig cyfle i brofi amrywiaeth o leisiau a phatrymau addoliad.

Mae fy mam yn siarad ar y fideo â’m modryb. Maen nhw’n gymdogion ac wedi gweld ei gilydd bob dydd ers degawdau. Gobeithio y byddwn ni fel eglwysi yn gwrando’n fwy astud byth am y lleisiau hynny sy’n holi ‘wyt ti’n fy nghlywed i?’ ac ‘wyt ti’n fy ngweld i?’ ac yn estyn allan fwy nac erioed i gyffwrdd â nhw. Yn eironig efallai fe fydd y dechnoleg oedd yn hwyluso cyswllt o bellafoedd byd yn rhan annatod o’r estyn allan a’r cyfwrdd hwnnw yn bell ac yn agos.