E-fwletin Mehefin 30, 2014

Yn anterth yr haf rydym yng nghanol tymor y gwyliau – ar sawl ystyr. Pa mor sanctaidd yw’r ‘holy days’ i ni bellach?

Wythnos yn ôl roedd hi’n hirddydd haf. Yng Nghôr y Cewri daeth y derwyddon cyfoes ar bererindod unwaith yn rhagor i ddathlu grym yr haul yn ei anterth. Wrth aros i belydrau’r wawr daro’r cerrig gleision ar Wastadedd Caersallog roedd nifer mae’n siŵr hefyd yn cymuno â’r Fam Ddaear greadigol, gynhaliol yn ei nerth.

Y penwythnos yma, yn yr un cornel o Loegr, mae ‘Glasto’ yn cael ei chynnal – gŵyl gerddorol anferthol ar dir fferm odro ger Ynys Wydrin, gyda chreadigrwydd y bandiau a’r artistiaid yn bwhwman dros y dolydd a’r meysydd amaethyddol. Yn gefnlen i’r ŵyl mae’r tirlun hynod yna sy’n gysegredig gan Gristnogion a Phaganiaid fel ei gilydd drwy’r oesau. Lle sy’n frith o chwedlau: chwedlau sydd hefyd, mewn modd dychmygus, yn ceisio taflu pelydrau o oleuni ar wirioneddauudd byw a bod.

Cyn bo hir yng Nghymru Fach daw’r Sioe Fawr, Gŵyl Llangollen, y ‘Steddfod Genedlaethol a sawl gŵyl a sioe arall bach a mawr. Dathlu creadigrwydd a chynnyrch y grym creadigol mae’r gwyliau yma i gyd; boed yn gerddoriaeth, llenyddiaeth, barddoniaeth, celf neu’n ffarmwriaeth. Cyfle ydyn nhw i ymhyfrydu, dathlu a mwynhau doniau creadigol ein cyd-ddyn yn ei holl amrywiaeth. Rhoddion y Creawdwr byw.

Bydd ambell i ŵyl Gristnogol yn eu plith mae’n siŵr. Mae Greenbelt ar ddiwedd Awst yn Kettering ymysg y mwyaf adnabyddus mae’n siŵr. Ond ar y cyfan rhai sâl iawn ydyn ni Gristnogion Cymru am ddathlu ein ffydd a chynnal gwyliau llawen. Mewn ambell i ardal bu’r Sulgwyn yn gyfle i gynnal Cymanfa Bwnc neu Gymanfa Ganu. Mae atgofion plentyn yn y Sir Gâr wledig yn dwyn i gof elfen gref o foli a chymdeithasu llon dan lygad haul yr haf. Ond go ddefodol yw’r cymanfaoedd hynny bellach ar y cyfan. Fe ddaw cyfnod y Diolchgarwch, wrth gwrs, a chyfle i ni dalu gwrogaeth i’r Creawdwr. Ond eto, naws o ddiolch a gwerthfawrogiad (teilwng) sydd i’r ŵyl honno – nid dathliad egnïol o orfoledd a chreadigrwydd mohoni.

Mae Eglwys Gadeiriol Guildford yn eglwys ac esgobaeth newydd a grëwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd i ymateb i newid poblogaeth yn y rhan honno o’r wlad. Mae’n dref sy’n rhoi cryn bwyslais ar y celfyddydau perfformio, yn gartref i’r ysgol actio enwog ac yn cynnal gwyliau celfyddydol o bob math. Yn ganolbwynt i’r Gadeirlan goncrid mae cerflun cyfoes o golomen yn disgyn o’r nef gyda’r geiriau Lladin Veni Creator Spiritus, sef dyfyniad o emyn hynafol o’r 9fed ganrif: Tyred Ysbryd Creadigol. Onid oes lle i ni dalu mwy o sylw i Dduw’r Creawdwr, Duw y grym creadigol, Duw’r creadigrwydd parhaus yn ein bywyd eglwysig cyfoes – mewn sawl modd? Mae angen arweiniad yr Ysbryd Creadigol yn ddybryd ar ein crefydda a’n diwinyddiaeth y dyddiau hyn, mae hynny’n sicr.

Yng nghanol tymor y gwyliau, felly, beth am i ni o leiaf geisio canu’n llawen i’r Arglwydd gyda W. Rhys Nicholas:

Mawrygwn di, O Dduw,

am bob celfyddyd gain

am harddwch ffurf a llun

am bob melyster sain;

ti’r hwn sy’n puro ein dyheu,

bendithia di y rhai sy’n creu.

Gyda llaw, tybed a ydych chi wedi anghofio cofrestru ar gyfer y Gynhadledd? Y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud yw ateb y neges hon gyda’ch enw, a dweud a oes gennych anghenion o ran deiet. Mae manylion y Gynhadledd ar y wefan.

www.cristnogaeth21.org