Diwrnod bant yn y gogledd

Diwrnod bant yn y gogledd

Margaret Le Grice

Ar ôl taith hir o Gaerdydd, cefais fwyd da a llety cyffyrddus yn Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg. Drannoeth, 1 Tachwedd 2017, Gŵyl yr Holl Saint, cyrhaeddodd pobl o bob cwr o Gymru, dau o Loegr ac un o Madrid, sef ein siaradwr, y diwinydd disglair a’r offeiriad Catholig James Alison. Trefnwyd y diwrnod gyda James gan y Parchedig Ganon Enid Morgan, sy’n arwain y grŵp trafod Cristnogaeth21 yn Aberystwyth. Ychydig amser yn ôl, cyflwynodd Enid waith James i’r grŵp, cyn iddi gyhoeddi’r ddwy gyfrol sy’n addasiad a chyfieithiad o gwrs James o’r enw Y Ddioddefus sy’n Maddau.

Ar ôl paned, croeso a gweddïau, dechreuodd James ei ddarlith ar y pwnc, “What does it mean to be taught by Jesus in the midst of a world in meltdown?” Ond nid darlith ffurfiol oedd hon. Siaradodd James mewn dull anffurfiol, eithaf araf a meddylgar, er mwyn i ni gael amser i feddwl ac, weithiau, i ymateb neu ofyn cwestiynau. Dywedodd ei fod eisiau rhannu, nid darlithio. Nid oedd yn bwriadu diffinio “world in meltdown”. Mae pawb yn deall beth mae hynny’n ei feddwl. Ond beth yw ystyr – cael ein dysgu gan Iesu? Yn draddodiadol, bu dwy ffordd o wneud hynny – trwy ddarllen y Beibl, neu drwy athrawiaeth yr Eglwys. Mae’r ddwy ffordd yn dod o’r tu allan i ni drwy awdurdod sy’n “gwybod”.

Roedd James eisiau gofyn – sut ydyn ni yn gallu cael ein dwyn i fodolaeth er mwyn gallu derbyn dysgeidiaeth Iesu? Cyfeiriodd at Jeremeia 15:16 – “Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi; daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon; canys galwyd dy enw arnaf, O Arglwydd Dduw y Lluoedd.” Yr ydyn ni yn cael ein galw ar enw Duw, nid ar ein henw ni ein hunain. Enw’r Arglwydd sydd yn ein dwyn ni i fodolaeth. Mae’r awdurdodau allanol yn diflannu, am fod enw Duw yn creu hanfodau gyda’i gilydd, mewn cymuned. Iesu sy’n rhoi eglurhad i ni. Mae bywyd Duw yn peri bod yr hen ddewis ysgrythur/eglwys yn dymchwel, ac yn ei le crëir cymuned newydd, heb hierarchiaeth, a heb ffiniau cryf rhwng “ni” a “nhw”.

Trwy astudio Mathew 21 a 22:41–6, dangosodd James sut yr aeth Iesu ati i ddysgu’r swyddogion Iddewig, nid fel gwrthwynebwyr (mae eu cwestiynau’n berffaith resymol) ond fel y rhai sy’n dymuno gwybod pwy yw Ef, yr un sy’n cyflawni’r addewid am olynydd i’r Brenin Dafydd. Esboniodd James yr adnodau mewn cyd-destun Iddewig, a dangosodd sut mae Iesu yn arwain y prif offeiriaid a’r henuriaid, drwy eu diwylliant cyffredin, at y gwirionedd amdano fe ei hun. Roedd dehongliad James yn dra gwahanol i’r dull hanesyddol-beirniadol y cafodd rhai ohonom ni yn y grŵp ein hyfforddiant ynddo, ddeugain mlynedd yn ôl. Roedd yn ddyfnach ac yn gyfoethocaf, ac yn llawn cywirdeb deallus.

Roedden ni’n dipyn bach yn hwyr am ginio, mor felys oedd y sgwrs!

Yn ystod y prynhawn, siaradodd James am “The sceptical mind and Church tradition – a personal approach”. Soniodd am y gwahaniaeth rhwng gwaith Duw a thraddodiad dynol mewn ‘diwylliant’. Ym Marc 7:13, mae Iesu yn dweud wrth y Phariseaid, “Yr ydych yn dirymu gair Duw trwy’r traddodiad a drosglwyddir gennych.” Mae Duw yn ein tynnu ni i mewn i’w gariad, ac felly rydyn ni’n gallu ymlacio. Ffrwyth ffydd yw amheuaeth. Ffydd, nid gosodiadau, sy’n rhoi gofod i amheuaeth. Presenoldeb Crist, wedi ei groeshoelio a’i atgyfodi, yw presenoldeb Duw sy’n difetha’r drefn ddynol ac awdurdodau allanol. Pan ydym yn cydymffurfio â’r rhain, yr ydym yn lladd Duw. Dylen ni ollwng gafael ar ein hymdeimlad o ffug ddaioni, ac yn ei le, ymlacio yn Nuw, a darganfod drosom ein hunain sut i fod yn dda.

Ar ddiwedd diwrnod heriol ac ysbrydoledig, aethon ni i Gapel y Llyfrgell i addoli. Clywon ni eiriau Dietrich Bonhoeffer – “Pwy bynnag ydw i, fe wyddost ti, O Dduw. Dy eiddot ti ydw i.” A chyda hwy eiriau Waldo yn holi yr un cwestiwn: “gwaelod pob gofyn”.

Ar ôl paned, aeth pawb arall adref. Ces i gyfle i ymlacio, i fyfyrio ac i gysgu’n dawel, cyn mynd adref drannoeth.

Diolch, Enid, am drefnu diwrnod mor ardderchog!

(Bu Margaret Le Grice am chwe blynedd yn offeiriad â gofal Llanafan, y Trawsgoed, Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysbyty Ystwyth, Hafod a Llantrisant yng Ngheredigion, a chyn hynny yn gaplan i’r byddar yn Esgobaethau Mynwy a Llandaf. Mae hi bellach wedi ymddeol ac yn byw yng Nghaerdydd.)