E-fwletin Chwefror 17eg.
Rhwng y siom a’r llon!
Mae gen i beth mwdradd o siomedigaethau ar hyd fy nhaith grefyddol – a chrefyddol nodwch, nid ysbrydol. A dyna fi wedi’i ddeud o’n gyhoeddus! Och a gwae! Y fi – sydd wedi bod yn gyfaddawdwr erioed, yn oddefgar, yn cefnogi’r achos – “oherwydd os na wnawn ni, wel, pwy neith”, yn gyndyn o feirniadu’n gyhoeddus a “g’na’n well dy hun ‘ta” fy magwraeth yn adleisio’n y cof. Ond bellach, yn haf hwyr fy nyddiau, dyma gydnabod fy rhwystredigaeth.
Bûm aelod o sawl grŵp trafod crefyddol ac er mynd yno’n llawn diddordeb (a chyffro hyd yn oed!) deuwn oddi yno yn llawn clyma’. Trobyllau fyddai’r cyfarfodydd hyn – yn fy sugno i mewn i drafodaeth di-ddychymyg yn aml, yn tindroi o gwmpas yr un hen destunau, yn llwyfan i ambell un serennu efo’i wybodaeth ddiwinyddol (nodwch mai “efo’i wybodaeth” y dywedaf – gan mai o enau gwrywaidd yn aml y deuai’r cyfryw wybodaeth!) yn eiriog – a fyddai’n fy ngwneud i deimlo fel Moses gynt yn ‘safndrwm a thafotrwm’ ac yn gwbl ddigalon, pawb yn trio’u gorau glas i roi atebion ysgubol. Dyma’r grefydd ymenyddol, eiriog, strwythuredig sydd gynnon ni bellach, yn ein harwain i nunlle. O, mi driwn newid rhyw fymryn ar betha’- digideiddio a moderneiddio, mwy o swing yn y canu ac ambell glap, er mwyn denu. Minlliw ar wyneb gwelw yw hyn i gyd yn y diwedd. ‘Concealer’ ar y craciau. Celu’r gwirionedd a dal yn dynn yn llinyn ffedog mam o hyd rhag ofn i ni suddo’n rhy ddwfn a dadwneud y diogelwch a rydd crefydd ddoe i ni. Chwiliaf yn daer am rywle i fynd, ond fedra’ i ddim meddwl am unman. Chwiliaf yn daer am brofiad merch yng nghanol eglwys batriarchaidd wrywaidd, ond wela’ i yr un. Cyd-ganaf â Nicola Slee pan ddywed:
Dear brother Church,
I am standing here as a woman struggling to be who I am.
I am speaking:
are you listening?
Ond y mae ambell encilfa ar hyd y daith hon hefyd
– a roddodd i mi gipolwg ar y cyfareddol,
– a ddangosodd i mi’r hyfrydwch sydd i’w gael pan ballo geiriau ,
-a agorodd ddrws i ddeialog ddyfnach,
– a ganiataodd i mi ymateb â nghalon.
‘Rhwng y siom a’r llon’ meddwn ar y dechrau, pa le mae’r llon fe’ch clywaf yn holi! Wel, mae ‘na wythnos arall on’d oes ?
Cofion atoch ac fel yr awgryma awdur yr e-fwletin hwn – tan wythnos nesaf. Yn y cyfamser , mae gwahoddiad cynnes i chi ymateb i’r neges ar y Bwrdd Clebran. Diolch am y drafodaeth tros y bythefnos ddiwethaf.
Ymddiheurwn os bu inni gam arwain rhywun wrth gymysgu y diwrnod a’r dyddiad wrth gyfeirio at sesiynau C21 yn Aberystwyth. Y dyddiadau nesaf yw nosweithiau Mercher Chwefror 26 a Mawrth 12,26 ac Ebrill 9ed.
‘Iesu – yr aberth sy’n maddau’ dan arweinid Enid Morgan Morlan, Aberystwyth am 7.30.