E-fwletin Rhagfyr 11eg, 2016

Yn ystod y misoedd diwethaf rydw i wedi teimlo nifer o weithiau “mae hi jyst fel roedd pethau’n ymddangos i Amos” sef, bod creulondeb difrifol ar gerdded, bod cymdeithasau anghyfartal yn ansefydlog, bod cymdeithasau trachwantus yn dreisiol, a dim dyfodol o werth i wlad lle mae’r cyfoethog yn cael eu llethu gan floneg eu byw bras, tra bod y tlodion â dim i frwydro drosto, heb achos i fod yn deyrngar ac wedi suddo i mewn i anobaith.

joseph-e-stiglitz

Joseph E. Stiglitz

A oes yna Amos yn ein dyddiau ni?  Oes, i enwi dim ond un, sef Joseph Stiglitz, enillydd Gwobr Nobel am ei gyfraniad i fyd economeg yn 2001.  Mae’n casglu ei feddyliau yn ei lyfr “The Price of Inequality” (2012).  Mae’r hyn mae e’n ei ddweud yn debyg iawn i’r hyn ddwedodd Amos, sef bod protestio a therfysgoedd ym mhob man achos bod rhywbeth difrifol o’i le. Hawlia bod anghyfartaledd yn achosi cyfandiroedd a gwledydd i fod yn ansefydlog – lle mae 40% o’r boblogaeth ac efallai 60% neu fwy o’r boblogaeth ifanc, yn ddi-waith.  Bathwyd gosodiad sy’n codi o syniadau Stiglitz sef, “o’r 1%, er mwyn yr 1% gan yr 1%” fel slogan i dynnu sylw at broblem bygythiol anghyfartaledd lle mae popeth yn troi o amgylch yr 1%.  Yn ei lyfr mae Stiglitz yn mynd ymhellach ac yn dweud bod eiddo yn debycach o fod yn nwylo “1% o 1%”!  Ymhellach mae’r drefn gyfreithiol yn llwyr ar ochr y cyfoethog – caethiwed i dlodi i’r werin a bonws mawr a chefnogaeth llwyr i’r banciau a’r bancwyr.

Y cwestiwn sy’n codi i fi yw, ydy capeli ac eglwysi  Cymru yn rhy gaeth i sefydliadaeth a syniadau materol ac felly, yn anabl i wneud cyfraniad – yn brysur gyda defodaeth ac yn wan gyda gwerthoedd fel cyfiawnder a thegwch?  Mae hi tu hwnt i’n dychymyg inni allu sicrhau fod ein heglwysi yn siop waith i greu daioni, nid jyst i siarad amdano.  Oni ddylai Cristion unigol addysgedig ac eglwys neu gylch o eglwysi ddisgwyl gweithredu ac ymwneud yn gwbl naturiol â dyweder y Trussell Trust, Church Action on Poverty neu’r Joseph Rowntree Foundation?  Rhywfodd neu’i gilydd mae cariad yn hawlio gweithredu go iawn!  Sŵn yn unig yw cariad sy’n gweithredu yn llugoer, a thlawd fydd byw mewn cymdeithas sy’n methu a fforddio gofalu’n iawn.

O.N.    Cofiwn i Amos gael ei fartsio o Bethel am ei fod e’n niwsans.

Church Action on Povertywww.church-poverty.org.uk
Joseph Rowntree Foundationwww.jrf.org.uk