I ba raddau y bu ddoe’n Sul y Drindod i chi? A gafwyd myfyrdod ar y ‘tri yn un a’r un yn dri’ yn eich eglwys chi? A fu rhywun yn ymgodymu ag athrawiaeth y drindod? Digon, efallai, oedd cyhoeddi’r Weddi Apostolaidd.
Ofer, siŵr, synio am y drindod yn nhermau athrawiaeth yn unig. Ffrwyth dadl a phleidlais ac awdurdod Ymherodr yw honno. Mecanyddol a di-serch ei mynegiant yw’r credoau ar y gorau. Nid felly’r patrwm neu’r strwythur trindodaidd a welir yn y Testament Newydd sy’n seilio ffydd ac yn nodweddu adnabyddiaeth y Cristion o Dduw. Onid oedd Cristnogion yn byw’n Drindodaidd ymhell cyn i’r athrawiaeth gael ei llunio ac onid oes lle i gredu mai dogfen cwbl ddieithr a di-ystyr yw’r athrawiaeth i drwch Cristnogion ein dydd sydd, er hynny’n ddigon cysurus i gyfeirio at Dduw fel Tad, Mab ac Ysbryd Glân.
Tybiaf bod Moltmann (The Loving God and the Fullness of Life) yn taflu peth goleuni ar y mater. Sonia am gymwynas cymunedau tebyg i Taize yn adfer y cyfarchiad ‘Abba, annwyl Dad’ i’w gweddïau a’u defosiwn. Cyfarchiad Iesu o Nasareth yw hwn, wrth gwrs, a gollwyd gan yr eglwys yn fuan yn yr ail ganrif ac wrth ei hepgor, oni chollodd olwg ar berthynas agos, gynnes a chariadus Iesu â’i Dad gan fabwysiadu’n hytrach ffyrdd mwy ffurfiol a chyfreithiol o sôn am Dduw, Duw a Thad ein Harglwydd Iesu.
Does dim amheuaeth i Iesu wybod am gariad Duw, ffynhonnell ei fywyd, a phob bywyd, ac iddo ildio’i hunan i’w garu a’i wasanaethu. Does dim amheuaeth iddo ymdeimlo ag egnïoedd cariad Duw yn ei yrru i gyfryngu’r cariad hwnnw i ‘r byd. Am iddo ildio’i hunan yn ffyddlon i fwriadau Duw a rhannu’r cariad hwnnw ag eraill fe’i gwrthwynebwyd, a’i wrthod, a’i ladd. Eto, ni chredodd erioed y deuai ei stroi i ben. Galwodd ddisgyblion i gyflawni ei weinidogaeth. Rhoes iddynt awdurdod i gyhoeddi bywyd y Deyrnas. Soniodd wrthynt am y posibilrwydd o gyflawni gweithredoedd fyddai’n fwy hyd yn oed, na’r eiddo ef, ac ymddengys mai dros ysbeidiau byrion yn unig y teimlodd y disgyblion eu hunain yn amddifad o’u bresenoldeb ac wedi’r Pentecost yn bresenoldeb heb na ffin na therfyn o fath yn y byd iddo. Dywedwn ninnau, wedyn, gyda disgyblion yr oesoedd, “Y mae ein cymundeb ni gyda’r Tad a chyda’i Fab ef, Iesu Grist.”
Fe fflamiodd cariad tri yn un…. deil i losgi.