E-fwletin Mai 29ain, 2016

Bydd rhifyn Mehefin o Agora yn ymddangos ar y wefan ddechrau’r mis, a gobeithiwn y cewch chi flas ar y darllen. Gobeithio hefyd y medrwch chi ymuno â ni ar Fehefin 11eg  ar gyfer y Gynhadledd Flynyddol yn Aberystwyth. Mae’r manylion llawn ar y wefan. 

Yn y cyfamser, dyma e-fwletin yr wythnos hon:

Gawsoch chi gyfle eto i weld y ffilm The man who knew infinity? Mae’r ffilm yn seiliedig ar lyfr o’r un teitl gan Robert Kanigel a gyhoeddwyd yn 1990. Ei thema yw hanes y mathemategydd rhyfeddol o’r India, Srinivasa Ramanujan (1887-1920). Mab i deulu digon cyffredin yn nhalaith Tamil Nadu yn ne India oedd Ramanujan a dangosodd sgiliau arbennig mewn mathemateg yn hynod o ifanc. Canolbwyntiodd ei holl egni ar fathemateg ar draul pob pwnc ysgol arall a hynny, yn ogystal ag adnoddau prin ei deulu, a’i rwystrodd rhag mynd ymlaen i brifysgol. Wrth ei gynnal ei hun fel clerc yn Chennai (Madras, gynt) treuliai ei amser hamdden yn gwneud ymchwil mewn mathemateg. Yn 1912 dechreuodd anfon ffrwyth ei waith at G. H.  Hardy, mathemategydd pennaf Prydain, os nad y byd, yn ei gyfnod.

Roedd Hardy yn diwtor mathemateg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Nid oedd y llythyrau a anfonodd Ramanujan at Hardy yn dilyn y confensiynau gorllewinol arferol o ran dangos yr angen i brofi damcaniaethau mathemategol. Roeddynt, yn hytrach, yn rhestru fformiwlâu gwreiddiol dirifedi, heb air o brawf ar eu cyfyl. Mae’r ffilm yn olrhain natur y berthynas ffrwythlon a ddatblygodd rhwng Ramanujan (a chwaraeir gan Dev Patel) a Hardy (Jeremy Irons).

Honnai Ramanujan, Hindŵ pybyr ei grefydd, fod llawer o’i waith yn cael ei ysbrydoli gan Namagiri, un o dduwiau Hindŵaeth, ac un a oedd yn arbennig o bwysig i deulu Ramanujan. Deuai fformiwlâu Namagiri iddo mewn breuddwydion a chymaint oedd ffydd Ramanujan fel nad oedd yn amau eu cywirdeb. Fe’u profwyd yn gywir, yn amlach na pheidio, a daeth Ramanujan, dan ddylanwad Hardy, i werthfawrogi hefyd yr angen i brofi ei ddamcaniaethau’n ffurfiol.

Fel Cristnogion rydym yn gyfarwydd gyda hanesion am gymeriadau’r Beibl yn clywed llais Duw mewn breuddwydion. Beth a wnawn ohonynt yn yr oes oleuedig sydd ohoni? Ai’r un peth yw llais Duw y Beibl â llais Namagiri yn hanes Ramanujan?

Dywedodd Ramanujan, “An equation has no meaning for me unless it expresses a thought of God”. I Ramanujan, Namagiri oedd lladmerydd y duw hwnnw.

Gwyliwch y ffilm pan ddaw’r cyfle.