A ninnau ar drothwy Diwrnod Cofio Waldo, mae’n addas mai dyna sydd wedi mynd â bryd awdur e-fwletin yr wythnos hon:

Wrth y garreg

Daeth cyfle arall drachefn i draethu wrth y garreg goffa ar gomin Rhos-fach. Cyrhaeddodd y criw camera mewn da bryd yn unol â’u gair. Cafwyd cyfnewid cyfarchion ond ni fu ysgwyd dwylo. Dadlwythwyd yr offer a’i osod yn ei le. Gwrandawyd ar y gwcw yn y pellter. Ni wn beth oedd ei neges. Mae yna wastad rhywbeth i dynnu sylw. Roedd yna eraill wedi parcio yno’n unswydd i wrando ar un o arwyddion y gwanwyn. Roedd yno wynt bach main a’i gwnâi’n ofynnol i wisgo pilyn cynnes.

Fe’m dilynwyd yn cerdded at y garreg bigfain droeon gan y camera. Rhaid oedd i mi sefyll a syllu. Fe’m gosodwyd i eistedd ar garreg. Gyda thrylwyredd y gwnaed yn siŵr bod fy osgo’n gymwys ac ongl y camera yn gwneud cyfiawnder â mi. Llyncais fy mhoeri. Cliriais fy ngwddf a pharod oeddwn i ynganu fy mrawddeg agoriadol. Ond och ac aw tarfwyd arnom.

Cyrhaeddodd hyrdi gyrdi a edrychai fel carafán sipsiwn wedi’i haddasu gyda simne fwg ar ei tho. Roedd yn gartref ac yn declyn teithio i rywrai. Roedd yn swnllyd. Disgynnodd dyn a dynes a rhoces ifanc ohoni. Taerwn nad oedd y ferch yn fwy na seithmlwydd oed. Sgipiai’n hyderus tuag atom yn ei wellintons bawlyd gan dywys ei rhieni. Amgylchynwyd hwy gan wynt mwg coed tân.

Roedd yn amlwg eu bod yn gwybod am fodolaeth y garreg. Oedd y ferch yn cael ei haddysgu adref tybed ac mae rhan o wers y prynhawn oedd ymweld â’r garreg i dalu gwrogaeth? Ni hidient am yr hyn a oedd ar y gweill gennym ni. Mae’n bosib bod teledu yn rhywbeth dieithr iddyn nhw.

Bu’r tri’n panso darllen y plac wrth ymyl. Gallwn fod wedi esbonio mai am fod ymwelwyr o bell wedi dyfalu mai coffau march a wnâi’r garreg ag un enw arni y gosodwyd gwybodaeth bellach ar blac. Ond roeddwn yn awyddus i gyflawni dyletswydd arall. Troes y tri ar eu sodlau, dyfalwn mai acenion cryf y Cymoedd a glywn, wrth iddyn nhw ddringo i’r siarabáng, a diflannu. Gwers y prynhawn ar ben.

Ailgydiwyd yn yr orchwyl gyda’r dyn camera yn llwyddo i greu gwaith celf o ddim byd. I gyflawni’r dasg rhaid oedd canfod coeden i glymu rhubanau ar ei changhennau. Canfuwyd y goeden ddeiliog berffeithiaf erioed wrth fynedfa tyddyn gerllaw. Aed ati i ofyn caniatâd ac esbonio’r bwriad. Syllodd y wraig yn hir a syn o glywed y fath gais anghyffredin.

Esboniwyd bod y bardd roeddem am hongian llinellau o’i eiddo wedi dewis adnod o Lyfr y Datguddiad yn sail ar gyfer teitl ei unig gyfrol. Fe’i syfrdanwyd a hithau’n gwneud dim mwy na chwynnu’r ardd ar y pryd. Tra roedd y camera’n cyflawni ei driciau celfydd diflannodd hithau i’r tŷ.

Dychwelodd gan gadarnhau iddi ganfod yr adnod a chan estyn copi dwyieithog yr un o Efengyl Luc yn fychan ac yn sgleiniog i ni. Rhyw brofiadau annisgwyl felly, yn cadarnhau ei ffydd yn y ddynoliaeth, a ddeuai ar draws Waldo ei hun yn gyson.