Oes deall ar Trump?

Oes deall ar Trump? Oes deall ar ei gefnogwyr?

Gethin Rhys sy’n ein hannog i ddwys ystyried

The Jesus Candidate: political religion in a secular age gan James Paul Lusk

Ekklesia, Llundain, 2017; 116 + xv tt. ISBN: 978-0-9932942-9-7; £7.95 + £1.45 cludiant

Wrth feddwl am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2017, fe dybiwn i mai’r cwestiwn mwyaf sy’n taro darllenwyr Agora yw sut y bu i Donald Trump, ac yntau’n ddyn mor ddi-grefydd, ddenu cefnogaeth cymaint o Gristnogion y wlad honno i’w arlywyddiaeth. Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno rhan o’r ateb i hynny – ond rhan yn unig. Mae hefyd yn codi cwestiynau dwys dros ben am ddylanwadau tebyg ar wleidyddiaeth gwledydd Prydain.

Etholiad Arlywyddol 2012 yw man cychwyn Lusk, ac ymgeisydd a aeth yn angof erbyn hyn, sef Rick Santorum. Ymgeisydd am yr enwebiad Gweriniaethol oedd e, Pabydd oedd yn arddel safbwyntiau’r asgell dde efengylaidd. Mewn un araith fe alwodd ei hun yn ‘the Jesus candidate’, a dyna deitl y llyfr a chychwyn ymchwil Lusk. Mae e’n olrhain ’nôl i ddyddiau cynnar New England y gred fod llunio cyfreithiau yn fater sylfaenol grefyddol. Duw yw lluniwr y Gyfraith, rhaid felly i’r sawl sy’n llunio cyfreithiau dynol adnabod y Duw hwnnw – neu greu eu ‘duw’ seciwlar eu hunain. Y rhyddid i lunio cyfreithiau ‘duwiol’ oedd rhyddid yr America gynnar, medd Lusk – ac felly y gellir esbonio’r ffenomen annealladwy i ni yng Nghymru o Annibynwyr neu Grynwyr yn mynnu bod yn grefydd sefydledig mewn ambell dalaith!

Mae e wedyn yn olrhain y gredo nodweddiadol Americanaidd hon drwy’r canrifoedd hyd at Santorum a’i debyg heddiw. Mae’r hanes yn ddadlennol, ac yn bwysig i ni ei ddeall. Er nad yw’n sôn am Mike Pence, yr Is-arlywydd presennol, mae ei ddylanwad e yn cael ei esbonio’n glir gan yr hanes. Ond er i Lusk ddiweddaru ei lyfr ar y funud olaf i sôn ychydig am Trump, nid yw ei naratif yn gallu esbonio sut y daeth pobl a gredai mai pobl dduwiol yn unig all lunio cyfraith i gredu mai dyn mor annuwiol â Trump oedd eu gobaith gorau yn 2016, a pham fod cymaint ohonynt yn ei gefnogi o hyd. Dyma wendid sylfaenol y llyfr – o ran yr Unol Daleithiau, mae’n crafu lle nad yw’r rhan fwyaf ohonom bellach yn cosi.

Ond efallai y dylem fod yn cosi yno. Oherwydd yng ngwledydd Prydain, mae credoau ‘ymgeisydd Iesu’ ar gerdded. Ceir ambell arlliw ohonynt yn rhai o sylwadau Theresa May, ac mae nifer o bapurau newydd yn cael eu bwydo’n effeithiol iawn â’r syniadau hyn gan y Christian Institute a Christian Concern – mudiadau sy’n cyfreitha ar ran ‘hawliau’ tybedig Cristnogion i wisgo symbolau Cristnogol ac yn y blaen. Mae Lusk yn olrhain dylanwad y mudiadau hyn ac yn dangos sut y maent yn ymgyrchu ac – yn achos Christian Concern o leiaf – weithiau yn gwneud hynny drwy gyhoeddi datganiadau i’r wasg sy’n dweud llai na’r holl wirionedd. Nid yw hyn yn amherthnasol i ni yng Nghymru – mae’r mudiadau hyn yn hogi cleddyfau eisoes i herio ymgais Llywodraeth Cymru i dynnu’r amddiffyniad mai ‘cosb resymol’ yw curo plentyn i’w ddisgyblu.

Mae’r llyfr felly yn gyfraniad defnyddiol i ddeall rhai o’r mudiadau ‘Cristnogol’ sy’n blino llawer ohonom sydd hefyd yn cyfrif ein hunain yn ‘Gristnogion’ ond yn anghytuno â llawer o’u safbwyntiau. Ond mae methiant Lusk i fynd i’r afael â ffenomen Trump – a’i fethiant i drafod Mike Pence, Arlywydd nesaf yr UDA os aiff Trump â’i ben iddo – yn golygu fod y rhan o’r llyfr sy’n ymwneud â’r UDA bellach wedi dyddio’n arw. Mae hyn yn drueni, oherwydd mae ei rybuddion am ddylanwad y math hwn ar Gristnogaeth wleidyddol ar wledydd Prydain yn rhybuddion y dylem wrando arnynt yn astud.