Llinach Drygioni

Llinach Drygioni
Brian McClaren

mclaren

Brian McClaren

Mae llinach drygioni … yn estyn o Gystennin i’r Pab Nicholas V i Columbus, hyd at wleidyddiaeth gyfoes America ac Ewrop: traddodiad o ragorfraint llwyth a chrefydd a grym – yn enwedig rhagorfraint y gwynion a goruchafiaeth y Cristnogion … Rhyw ddeugain mlynedd cyn 1392, cyhoeddodd y Pab Nicholas V ddogfen swyddogol dan yr enw Romanus Pontifex … sy’n sylfaen i’r hyn a elwir yn gyffredin yn Athrawiaeth Darganfod, y ddysgeidiaeth y gall Cristnogion wrth ‘ddarganfod’ rhywbeth, ei gymryd a’i ddefnyddio fel y mynnont … Diffinnir y genhadaeth Gristnogol fyd-eang fel ‘goresgyn, chwilio, caethiwo, trechu a churo’ y rhai nad oeddent yn Gristnogion ar draws y byd a dwyn ‘pob eiddo symudol ac ansymudol’ a ‘darostwng eu perchenogion i fod yn gaethion am byth’ – ac nid hwy yn unig, ond eu disgynyddion hefyd. A sylwch ar y defnydd o’r gair troi (fel yn tröedigaeth) ‘i’w troi at eu defnydd a’u helw hwy’.

Brian McClaren, The Great Spiritual Migration: How the World’s Largest Religion is Seeking a Better Way to be a Christian (Convergent, 2016), 76–77

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.