Cristnogaeth Feddylgar

Cristnogaeth Feddylgar

Rhannwyd y cartŵn hwn ar dudalen Facebook Mindful Christianity yr wythnos yma. Mae gwirionedd creiddiol ynddo sydd wedi dod yn amlycach i nifer ohonom dros y cyfnod clo estynedig, ein hadeiladau dan glo a ninnau ar wasgar yn addoli drwy’r cyfryngau rhithwir/rhithiol. (Mae’r ddau ansoddair, er yn golygu realiti(?) gwahanol, yn berthnasol i’n haddoli ar-lein, dybia i!)

Mae wedi bod yn gyfnod heriol i bawb. Ac fel unigolion ac eglwysi rydym wedi bod yn ymrafael â’n hunaniaeth: pwy a beth ydi eglwys Bethel, Caersalem, Seilo ac ati heb yr adeilad a chwmnïaeth weledol a chyffyrddol y saint? I ba raddau y mae ein hunaniaeth yn annatod glwm â’n hadeiladau – rhai ohonynt yn focsys sgwar â phensaernïaeth gaeth y meinciau (digon anghyffyrddus), y sêt fawr a’r pulpud, eraill yn focsys mwy hyblyg, yn aml yn cael defnydd amgenach rhwng y naill Sul a’r llall gan nifer o grwpiau allanol – neu grwpiau bach sy’n rhan o’r eglwys fwy?

I ba raddau ydan ni’n nabod yr eglwys yn ein gwaith bob dydd – yn ein siopa, ein mynd a dod, ein hynysu? Yn sicr, mae nifer fawr o aelodau’r bocsys wedi bod yn rhan annatod o’r gwaith cymunedol cymwynasgar sydd wedi cynnal y rhai mwyaf bregus drwy’r cyfnod clo. Mae rhai wedi bod yn casglu presgripsiwns, yn siopa, yn mynd a’r cŵn am dro, ac eraill yn dosbarthu bwyd, yn gwirfoddoli ar nifer o brosiectau i gefnogi a thrwsio’r clymau a’r rhwydweithiau lleol.

Yr eironi ydi ein bod yn dilyn Iesu, yr un nad oedd ganddo le i roi ei ben i lawr, yr un oedd ar grwydr parhaus efo rhyw giang o ddynion a merched digon rhyfedd yn ei ddilyn. Ia, y c’nonyn aflonydd oedd i’w gael ymhobman, yn enwedig yn y mannau annisgwyl ac efo’r bobl na fyddem ni’n debyg o roi fawr o groeso iddynt yn ein bocsys (ond efallai ein bod wedi cyffwrdd â rhai ohonynt drwy’r gwaith cymunedol gwirfoddol y soniwyd amdano eisoes).

Dilyn Iesu – ond yn dal i ddyheu am gael gwneud hynny yn ein bocsys, lle ’dan ni’n gallu rhoi ein pen i lawr a gorffwys – ac ymlacio – a chau’r byd allan?

Tybed?

Anna Jane Evans