Byw ar ffiniau 2

Byw ar ffiniau ii

Y Boncyff Magu: Coed a Phobl

Cefais wahoddiad ym 1997, fel llawer o weinidogion eraill, i bregethu yng Nghymanfa Ganu Cymry Gogledd America. Seattle oedd y man dewisol y flwyddyn honno. Profiad od i Gymraes oedd cyrraedd y Gymanfa a’i chael ei hun ynghanol Americaniaid o dymer reit Republican. (Nid gweriniaethwyr yn yr ystyr Gymraeg mohonynt!) Nid ydynt mor danbaid ynglŷn â’u gwreidddiau â’r Gwyddyl Americanaidd, ond pan maen nhw’n canu emynau, fe wyddocch chi mai Cymreig ac ymneilltuol yw eu tras. Maen nhw’n canu emynau fel yr oedd pobl yn eu canu drigain mlynedd yn ôl. Mae eu Cymreictod fel petai wedi cael ei hidlo drwy dwmffat o’r enw ‘Emynau’, oherwydd does dim byd arall arbennig o Gymreig ynglyn â nhw. Gan fod crefydd yn dal yn rhan amlwg o brif ffrwd bywyd America, fel yr oedd yng Nghymru ym 1900, maen nhw’n canu’r emynau gyda brwdfrydedd teimladwy, heb unrhyw swildod. Dim ond hanner deall y geiriau y mae’r mwyafrif ond y maen nhw’n uniaethu â beth gredan nhw y mae’r emynau yn ei gynrychioli. Ni piau’r rhain. O’r emynau hyn, o’r traddodiad hwn, y down ni, neu, fel yr ysgrifennodd T Rowland Hughes, ‘O’r blychau hyn y daeth ennaint ein doe a’n hechdoe ni.’

Ar un ystyr, teithio ’nôl mewn amser a wnawn i gwrdd â’r Americaniaid annwyl hyn. Dim ond i leiafrif yr oedd bywyd Cymry heddiw o unrhyw ddiddordeb iddyn nhw. Doedd gan y mwyafrif ohonyn nhw ddim diddordeb yn ein Senedd na’n trafodaeth gyhoeddus gynyddol seciwlar; lleiafrif yw’r rhai sy’n ymboeni am dynged yr iaith. Mae’n brofiad sy’n eich drysu os ewch i America gan ddisgwyl cael profiad o’r dyfodol, ond cael eich bod wedi hedfan tuag yn ôl! Profiad tebyg i Saeson yw mynd i eglwys gadeiriol Anglicanaidd yn Delhi a chael eu bod yn dal i ddefnyddio Llyfr Gweddi Gyffredin 1662 yno ac yn canu emynau allan o Hymns Ancient and Modern. Mae pobl sydd wedi gadael cartre i fyw, yr alltudion a’r ex-pats, yn dal eu gafael ar y cyfarwydd, eu cof am draddodiad eu hunaniaeth ar ffurfiau diwylliant cyfarwydd eu plentyndod. Cymru fu, Cymru ac America heddiw, Cymru fydd.

Gwefan hanes y Macah

Yr oedd fy ngŵr a minnau wedi penderfynnu y byddem, ar ôl y Gymanfa, yn ymweld â’r pentir Olympaidd y tu hwnt i Seattle. Mae’r pentir yng nghornel ogledd-orllewinol bellaf yr Unol Daleithiau, i’r de o Puget Sound a Vancouver draw yng Nghanada ond yn estyn ymhellach i’r gorllewin. Roedden ni am dreulio ychydig amser yn nhir cadw (reservation) llwyth brodorol y Macah yn ystod eu gŵyl flynyddol mewn tref fechan o’r enw Neah Bay. Mae tiroedd cadw’r llwythi brodorol yn America yn gallu bod yn fannau digalon i’r brodorion ac i ymwelwyr. Ond nid felly y bu y tro hwn.

Dim ond tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr aeth y gwynion at i o ddifrif i ‘gael trefn’ ar y Macah, ond aethant ati’n reit benderfynol bryd hynny. Gair y Macah am fwyd yw eu gair am bysgod. Roedd eu ffordd o fyw dros y canrifoedd wedi ei seilio ar hel morfilod a morio i ennill caethion o lwythi eraill. Gwaharddwyd hela morfilod a’u gorfodi i fyw ar dyfu tatws, er bod y tir a’i fforestydd yn gwbl anaddas a’r glaw yn drwm. Symudwyd y trigolion o’u pentrefi i Neah Bay a gorfodwyd i’r plant fynd i’r ysgol lle y cosbid hwy am siarad eu hiaith, lle y torrwyd eu gwallt hir, plethedig, nodweddiadol a’u gorfodi i wisgo fel y gwynion. Safonau’r concwerwyr a orfu.

Teimlem yn eithaf cartrefol yn yr ŵyl flynyddol – roedd hi braidd yn debyg i’r Eisteddfod Genedlaethol ’nôl tua 1960. (Trafaelu tuag yn ôl eto.) Ceid yno’r un cymysgwch o’r gwych a’r gwachul, yr un diffyg hyder economaidd a thipyn o swildod hefyd. Diwylliant o gystadlu ydoedd – nid barddoniaeth a chanu ac adrodd, ond rasys canŵ a chwaraeon tîm, a llawer iawn o hap chwaraeon. Mae tua hanner y llwyth o 1,500 o bobl yn byw y tu allan i’r tir cadw ond mae cannoedd ohonyn nhw’n dychwelyd bob blwyddyn i fwynhau’r hapchwarae, y babell chwysu ar olwynion (sweat lodge) a stondinau’n gwerthu bara saim Indaidd. Byrddau lu o sbwriel i dwristiaid ochr yn ochr â gwaith celf trawiadol a hardd a’i arddull yn nhraddodiadau’r llwythi brodorol. Petaen nhw’n hoffi canu, fe fydden nhw wedi bod wrth eu boddau’n canu ‘Ry’n ni yma o hyd!’ Gwrthod marw, ond dathlu goroesi ‘er gwaetha pawb a phopeth’. Oeddem, yr oeddem ni’n eithaf cartrefol.

Yn yr hwyr cawsom ein hatgoffa o’r Eisteddfod eto yn yr ŵyl ddawnsio yn neuadd gampau’r ysgol. Nid dawnsiau poblogaidd, pow-wow, oedd y rhain, ond dawnsiau difrifol, sanctaidd hyd yn oed, a berfformid â dwyster ac urddas. Er bod yr iaith wedi nychu, yr oedd y dawnsio’n dal i’w cysylltu â’u hanes a’u hysbrydolrwydd a’u perthynas â byd natur. Yr oedd y gynulleidfa o rieni a chefnogwyr yn eistedd ar feinciau wedi eu trefnu ar dair ochr y gampfa. Dirgrynai’r lle o ymroddiad emosiynol, y dwyster o draddodi’r pethau i genhedlaeth newydd, yr un dirgryniad yn union â hwnnw a deimlwch yn Eisteddfod yr Urdd neu’r Ŵyl Gerdd Dant.

Dyma wraig oedd yn eistedd nesaf ataf yn pwyntio at lanc ifanc yn y ddawns:

‘Dyna fy ŵyr i. Mae’r dawnsio wedi ei achub e!’

‘Ei achub e?’

‘Roedd e mewn trwbl gyda chyffuriau a diod – fel llawer o’n pobl ifanc ni. Mae’r dawnsio wedi rhoi ei hunan ’nôl iddo.’

Eisteddai nifer o wragedd oedrannus yn y rhes flaen. Dyma flaenoriaid ac arweinwyr y llwyth, ac yn eu plith yr oedd nifer o’r dyrnaid sy’n dal i allu siarad Macah. Yn ei gwallt, gwisgai un wraig dlws wedi ei frodio â mân fwclis, mwclis coch ar gefndir glaswyrdd yn y dull Indiaidd yn cyhoeddi’r geiriau ‘Jesus Saves’. Yn y gymuned hon ceir eglwysi Pentecostaidd cryfion gyda’u pwyslais ar brofiad uniongyrchol o Dduw drwy’r Ysbryd Glân. Mae’n ddatblygiad naturiol o’u hysbrydolrwydd cynhenid, cydnaws â’u crefydd brodorol gynt a’u cof o’r Bod Mawr a gynrychiolir yn yr enw ‘Wakan anka’. Mae’r efengyl yn y wisg honno’n golygu y medrant fod yn Gristnogion a dal i fod yn Macah.

Mae profiadau’r llwythau brodorol hyn yn siŵr o daro tant yng nghalonnau Cymry Cymraeg. Cawn yma ein hanes ni ein hunain wedi ei gywasgu i gyfnod byrrach a ffyrnicach. Ond rywsut mae hi’n anodd i’r brodorion ddychmygu y gall unrhyw bobl wynion o Ewrop uniaethu â’u profiad hwy. Trwy lygaid y llwythau hyn mae’r gwynion i gyd yn euog. Serch hynny, mae’r stori am blant yn cael eu cosbi yn rhan o’n stori ninnau. Pan fentron ni, yn swil ddigon, rannu ein profiad â phobl y mudiad iaith yn eu hamgueddfa newydd sbon danlli, gwenu’n oddefgar wnaethon nhw. Faint o bobl sy’n siarad Cymraeg? Cymaint o gannoedd o filoedd! Deg blaenor Macah sydd ar ôl sy’n medru siarad eu hiaith hwy. Beth wydden ni! Peidiwch chi â mentro meddwl eich bod chi’n deall ein profiad ni! Roedd ganddyn nhw un pâr ifanc oedd yn dysgu’r iaith ac wedi penderfynu magu eu babi drwy gyfrwng y Macah. Tybed beth sydd wedi dod ohonyn nhw erbyn hyn?

Mae aelodau pob cymuned orthrymedig yn tueddu i deimlo’u bod nhw’n unigryw ac wedi dioddef yn waeth na phawb arall. Dyw camu dros y ffin a rhannu’r profiad ddim yn hawdd, hyd yn oed i’r rhai sy’n cydymdeimlo. Pan fo gwynion brwdfrydig ond anwybodus eisiau dysgu am eu hysbrydolrwydd, drwgdybir eu hamcanion a gwawdir y ‘shamaniaid plastig’: ‘Maen nhw wedi dwyn ein tir ni, wedi lladd ein hieithoedd ni, a nawr maen nhw eisiau cael gafael ar ein crefydd ni.’

Ein bwriad ar ôl yr ŵyl oedd mynd i weld y goedwig gyntefig, gynoesol, a mynd o blith pobl dan fygythiad i amgylchedd dan fygythiad. Dyma ardal o goedwig law dymherus lle y mae darn bychan o’r goedwig gyntefig wedi goroesi. Mae Parc Cenedlaethol ar y pentir yn amddiffyn y goedwig rhag ymosodiadau’r cwmnïau torri coed, a chwmnïau anferth ydy’r rheini. Ar draethau’r Môr Tawel fe welwch foncyffion a gwreiddiau anferth wedi eu gwasgaru a’u gadael i bydru. Fe’u cariwyd gan lif chwyrn yr afonydd o fannau yn y mynyddoedd lle mae’r llifio peirianyddol, swnllyd yn clirio’r tir. Mae ’na goedwigoedd aildyfiant ym mhob cyfeiriad wrth i chi deithio tuag at y coed sy’n cael eu gwarchod.

Ar ôl cyrraedd a chamu o’r maes parcio, fe sylweddolwch eich bod mewn mangre gwbl ryfeddol, anferth, dwys-wyrdd, sy’n eich distewi. Wrth sefyll dan y coed, fe welwch wrth eich ymyl bentyrrau gwyrdd o fwsog yn cuddio olion hen foncyffion; cewch edrych ar blanhigion aer, epiphytes sy’n sugno dŵr o’r aer llaith ac yn ymsymud yn llenni gwyrddion o frigau’r coed uwchben. Goleuid pob graddfa o wyrdd gan belydrau’r haul yn torri drwy fylchau a adawyd gan stormydd ers talwm.

Wrth gamu i ymylon y goedwig gynoesol yr oedd bychander ein profiadau bach llwythol ni yn edrych yn ddigon pitw. Wrth sefyll yn y goedwig, gwelwn res syth o goed yn edrych fel petai wedi ei phlannu’n fwriadol. Ond mae’r llinell unionsyth yn rhan o broses naturiol. Mewn storm, ryw bedair canrif neu fwy yn ôl, dymchwelwyd un o hen gewri’r goedwig. Rhaid ei fod wedi syrthio drwy’r brigau ac ar draws coed eraill nes gorwedd yn ei anferthedd ar lawr y goedwig. Yn raddol, yn y lleithder mwyn, yr oedd y mwsog wedi tyfu drosto ac yna dwr o egin-blanhigion yn blaguro ar hyd llinell y boncyff. Mae’n hawdd i blanhigyn bach wreiddio mewn mwsog ond mae cystadleuaeth enbyd o’i flaen. Mae’r egin-blanhigion yn cystadlu â’i gilydd am oleuni ac awyr a bwyd; bydd rhai’n tyfu’n goed bychain ac yna’n tyfu’n gyflym nes bod rhes ohonyn nhw’n aeddfedu’n genhedlaeth newydd o gewri ifanc, i gyd mewn rhes. Mae gwreidddiau wedyn yn tyfu o gwmpas rhisgl y boncyff ac i lawr i’r ddaear. Wrth i’r hen foncyff bydru, a’i waith cynnal wedi dod i ben, mae bwlch fel twnnel yn agor lle y gall ymwelydd sefyll yn syfrdan mewn ogof fach a luniwyd gan wreiddiau’r coed. Fe gewch eich taro’n fud mewn systemau gwreiddiau – a’r coed newydd, sydd bellach yn ganrifoedd oed, yn estyn yn uchel, uchel, uwch eich pen.

Mae’r wybodaeth ar y posteri yn y maes parcio yn dweud mai’r ymadrodd am y boncyffion diflanedig yw boncyff magu (nurse log).

Ruby Beach – Olympic National Park (via Pixabay)