E-fwletin Tachwedd 26ain. 2017

PAM BODDRAN?

Dwi’n dal i fynd. Mae genni ddigon o betha eraill ar fy tŵ dŵ list i neud ar fora Sul.

Dwi’n parcio nghar ym maes parcio Tesco, ac yn cerddad ffwl sbid am Sportsman’s Port am mod i’n hwyr i gyfarfod Cymdeithas y Gwranwin. Noson niwl, glaw budur a weipars ydi hi a dwi wedi bod yn Aberystwyth drwy’r dydd ac mae na hannar awr arall o deithio cyn y bydda i adra. Pam boddran?

Dwi’n mynd i gynhadledd diwrnod ar Gynnal Ysbrydolrwydd ym Mangor. Canslo diwrnod o waith. Dwi’n gall?

Sgwennu e -fwletin i Cristnogaeth 21. I be?

A llynadd mi bendefynais fynd i’r Seiat. Ia dyna be dwi newydd deipio; ‘mynd-i’r-Seiat’.

Dwi’m yn un o bobol y meinstrîm, reit yn y canol, yn gwybod be dwi’n neud a be dwi isio neud. Byddai eraill yn meddwl mai un felly ydw i. Ond mae nhw’n rong. Yn fancw, yn fanna’n rwla, yn sbio o bell dwi. Ac yn fancw ym mhen draw’r bwrdd dwi yn y Seiat fyd. Cywreinrwydd oedd un o’r pethau ddenodd fi yno dweud gwir. Busnesa bosib. Seiat oedd y lle hwnnw roedd fy nhad yn mynd iddo ar Nos Lun. Ac mi fyddwn inna weithia yn cael cynnig, ‘Slap ta Seiat tisio’ rôl cambihafio.’ Seiat oedd y dewis. A  siarad oedden ni. Felly, mi oeddwn isio gweld sut siarad oedd yn digwydd mewn Seiat dyddiau yma. Ac ar ôl bod mi wnes i ffendio bod na slap i gael mewn Seiat hefyd. Ond stori arall ydi honno. Taswn i ddim wedi bod, faswn i ddim di dwad ar draws hanes yr hogyn bach oedd yn chwarae cuddiad rhwng adnodau 51, 52 Marc 14. A dwi wedi cymryd at yr hogyn bach ma.

Ar y darlleniad cyntaf fel y gwyddoch chi ddarllenwyr yn llawer gwell na fi, mae’r adnodau yn ymddangos fel rhai cwbl di-gyswllt a di-angen ac eto, mae nhw yna. Tydi Mathew na Luc ddim yn  cyfeirio at yr hogyn. Dim ond Marc sy’n gwneud hynny. Yn ôl rhai dehonglwyr, Marc ei hun yw’r bachgen a’i fod yn rhy ddiymhongar i gynnwys ei enw ei hun yn y testun. Tybed ai bwriadus oedd hyn. Mae yma godi cywreinrwydd. Mawr fyd. Mae yma stori fawr arall yma a rwbath arall mwy yn cuddiad tu nôl i’r geiriau. Yn ôl un dehongliad yng nghartref mam John Marc y bu’r Swper Olaf. Os felly gellir dychmygu’r bachgen yn codi o’i wely’n slei bach ac yn clustfeinio ar yr hyn oedd yn digwydd ac yn gwrando yn y dirgel. Tybed ddaru fo wedyn daro lliain yn gyflym drosto a phenderfynu dilyn Iesu a’r disgyblion allan ganol nos i’r ardd? Byddai hynny, medd rhai yn esbonio sut bod cofnod o hanes Gethsemane ar gael. Os oedd y disgyblion i gyd yn cysgu ai fo glywodd gwewyr geiriau’r Iesu. Dyna chi glywed. Hogyn ifanc yn clustfeinio yn y cysgodion ac yn clywed geiriau fel yna. Does ryfedd iddo gyfleu’n gynnil gynnil iddo fod yno.

Faswn i ddim wedi bod wrth fwrdd y Swper Ola. Faswn i ddim wedi codi o ngwely a dilyn Iesu o bell chwaith. Ond dwi’n rhyw feddwl ella y baswn wedi gwneud ymdrech ac wedi mynd i isda’n cefn i wrando ar Marc yn hen ŵr yn dweud ei stori mewn rhyw westy’n rwla ar noson dywyll niwlog llawn glaw mân.