E-fwletin Tachwedd 19eg. 2017

‘ac anifeilaid y maes hefyd ….’

Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu hanes y lyncs, sef y gath fawr a ddihangodd o Sŵ y Borth yn hawlio’r newyddion, nid yn unig yn Aberystwyth a’r cylch ond ar draws Cymru a thu hwnt. Llwyddodd y greadures ddwy flwydd oed hon i ddianc o’i chaets ac er gwaethaf pob ymdrech i’w themtio â phob math o ddanteithion, penderfynwyd yn y diwedd byddai’n rhaid ei saethu er mwyn sicrhau diogelwch trigolion y Borth, a hynny er mawr siom i nifer helaeth o bobl.  

Ychydig o ddiwrnodau yn ddiweddarach daeth y newyddion trist am farwolaeth lyncs arall yn y Borth, o ganlyniad i ddamwain wrth iddo gael ei symund o un lle i’r llall yn y sŵ. Beirniadwyd perchnogion y sŵ yn hallt am y digwyddiad hwn ac mae o leiaf un mudiad wedi galw ar y Cyngor Sir i gau’r lle.

Bu’r bennod hon yn un hynod drist ac yn destun gofid i berchnogion y sŵ, y Cyngor, yr heddlu a’r trigolion lleol. Tra mae’r digwyddiad yn codi cwestiynau moesol nid yn unig am ein perthynas ag anifeiliaid gwyllt a’r modd y maent yn cael eu cadw a’u trin, mae hefyd yn codi cwestiynau mewn perthynas â’r sawl  sy’n arddel y ffydd Gristnogol: hynny yw, beth yw cyfrifoldeb y Cristion tuag at anifeiliaid? Mae ‘na ddigonedd o Gristnogion yn fawr eu gofal dros anifeiliaid,  ond a ydym yn cysylltu’r gofal hwnnw yn benodol â’n ffydd?

Mae David Clough, Athro Moeseg Diwinyddol ym Mhrifysgol Caer wedi dadlau bod gofal a chonsyrn dros anifeiliaid yn rhan hanfodol o fod yn ddisgybl i’r Arglwydd Iesu. Yn sicr, mae’r Beibl yn dangos bod Duw yn dymuno i ni ofalu nid yn unig am y greadigaeth ond am greaduriaid hefyd. Gallwn ddwyn i gof y straeon dirifedi hynny am seintiau’r eglwys yn dangos gofal tuag at anifeiliaid,  fel yn hanes Macarius, Jerome a Francis.

Mae’n siŵr bod nifer ohonom wedi ein cyfareddu gan y gyfres deledu Blue Planet a gyflwynir gan David Attenborough, a go brin y byddai unrhyw un ohonom yn anghytuno y dylid gwneud pob dim o fewn ein gallu i ddiogelu dyfodol cyfoeth y rhywogaethau. Ond i ba raddau y mae hyn yn amlwg ym mywyd yr eglwys heddiw? Gwyddom am waith arddechog mudiadau Cristnogol sy’n estyn cymorth i’n brodyr a’n chwiorydd ar draws y byd, ond faint o sylw a roddir i’r mudiadau hynny sy’n ceisio amddiffyn hawliau anifeiliaid yn ein heglwysi? Rydym yn llwyr ymwybodol o bwysigrwydd prynu nwyddau masnach deg, ond a fyddwn yn annog Cristnogion i brynu cynnyrch anifeiliaid gan gwmnïau sy’n gwarantu eu bod yn rhoi y gofal gorau i anifeiliaid?     

Mae’r efengyl a gyflwynwyd i ni yn newyddion da i’r greadigaeth, ond a yw hi’n newyddion da i’r anifeiliaid yn yr unfed ganrif ar hugain?