E-fwletin Medi 15fed, 2014

Gobaith Dydd Iau

Rwy’n ysgrifennu’r ychydig fyfyrdodau hyn heb wybod beth all ddigwydd yn yr Alban ddydd Iau nesaf yn y bleidlais fawr. Rhaid imi gyfaddef mod i’n byw mewn gobaith y bydd hi’n dewis mentro i’r dyfodol yn genedl rydd ac annibynnol. Ymhlith llu o obeithion sy’n gysylltiedig â hynny i mi yw’r tebygrwydd wedyn y byddai hi’n cael gwared ar Trident o’i thiriogaeth. Mae’n wir fod Plaid Genedlaethol yr Alban yn rhagweld y byddai ganddi, ar y dechrau beth bynnag, fyddin fechan ynghyd ag arfau a llongau ac awyrennau rhyfel. Ond fe fyddai cefnu ar adeiladu yn yr Alban long danfor, a fyddai’n cludo taflegrau niwcliar, yn gam sylweddol i’r cyfeiriad iawn. O’r diwedd fe fyddai gennym un wlad fach yn dewis troi ei chefn ar fod yn rhan o’r ras orffwyll gyfoes i luosogi arfau’r byd.

Fe deimlais gywilydd mai ar dir Cymru y cynhaliwyd cyfarfod NATO yn ddiweddar. Cywilydd o feddwl mai’r unig ateb oedd ganddynt i broblemau mawr y ddaear hon oedd cytuno i bob aelod gynyddu gwariant ar arfau. Ac i ddwylo pwy y rhoddir ac y gwerthir yr arfau ychwanegol hyn? Yr ateb syml yw “i’n ffrindiau ni sydd ym mhair y Dwyrain Canol.” Ond y mae arweinwyr y Gorllewin mewn dryswch llwyr pwy yn union yw’r ffrindiau a phwy yw’r gelynion. Beth amser yn ôl y gelyn mawr oedd Iran. Bellach mae honno bron â chael ei hystyried yn bartner. Sonnir llawer llai y dyddiau hyn am bechodau erchyll Assad yn Syria. A’r rheswm am hynny yw fod ambell arweinydd yn awr yn dawel fach yn ystyried y byddai’n fanteisiol i gael ei gymorth yntau i ymosod ar ISIS. Yn wir petai Saddam Hussein wedi cael byw fe fyddai mewn perygl bellach o gael ei wahodd i fod yn aelod o NATO!

A phetai Ian Paisley yn fyw heddiw tybed a fuasai yntau ar awr wan yn barod i ganmol y Pab Francis. Dywedodd y Pab yn Korea fis Awst ein bod ynghanol y Trydydd Rhyfel Byd, rhyfel sy’n cael ei ymladd mewn pocedi ledled y byd. Yna ddydd Sadwrn, aeth i gladdfa can mil o filwyr Eidalaidd. Wrth edrych ar gladdfeydd felly, a “dathlu’r” canmlwyddiant, bydd ein harweinwyr ni yn ymroi i ganmol y modd y trechwyd y gelyn. Nid felly y Pab. Yr hyn ddywedodd ef oedd: “Mae rhyfel yn afresymol…Mae rhyfel yn wallgofrwydd…Hunanoldeb, anoddefgarwch, a’r trachwant am b^wer sy’n peri i bobol ddewis rhyfela…ac unig gynllun rhyfel yw dwyn distryw. Y mae’n ymroi i dyfu drwy ddinistrio a lladd.”

Gorchest fawr i wledydd y byd wrth gofio’r “Rhyfel Mawr” fyddai darganfod rhyw “Heddwch Mawr”. Un cam at wneud hynny fyddai ailfywhau’r alwad am Ddiarfogi Niwcliar. Mae paratoi arfau i ladd miliynau o bobol ddieuog ddiniwed mewn rhyw wlad arall yn ddifrifol o wrthun. Wrth fyfyrio mewn gobaith am ddydd Iau, tybed a allai’r Alban fach, wan, ddistatws, ddiniwcliar ddechrau arwain y byd?