E-fwletin Ionawr 14

 Llais y Werin

Datblygiad diddorol ein cyfnod ni yw poblyddiaeth (populism). Brigodd i’r golwg mewn gwrthryfeloedd gan y werin mewn canrifoedd a fu. O fewn i’r cof modern rhyw fudiad tebyg oedd Chwyldro Ffrengig y ddeunawfed ganrif, neu gynnydd Naziaid cynnar yr ugeinfed. Ideoleg ydyw sy’n ysbrydoli hawliau a dyheadau cyfiawn y werin yn erbyn awdurdod dosbarth llywodraethol. Yn ddiweddar gwelid rhai nodweddion ohono yn y bleidlais o blaid Brexit, lle pleidleisiodd mwyafrif  yr aelodau seneddol o blaid aros yn Ewrop ond nid felly’r etholwyr. Yr oedd poblyddiaeth yn amlwg yn apêl Donald Trump, fel petai yntau yn rhoi llais i ryw werin a fu’n fud.

Mae’n annisgwyl i hyn ddigwydd mewn gwledydd sy’n ymffrostio yn eu democratiaeth, democratiaeth a ddylai sicrhau llais i’r werin. Felly y mae yna ddwy farn y gallem eu harddel. Fe all poblyddiaeth fod yn ymestyniad iach mewn democratiaeth lle mae honno wedi gwyro o fod yn cynrychioli dymuniad y bobol. Ond fe all fod yn ddatblygiad eithriadol beryglus: gall ei mympwyaeth arwynebol ac ansefydlog arwain at anarchiaeth afresymol a thanseilio pob trefn lywodraethol, neu ddatblygu yn unbennaeth haearnaidd.

 Poblyddiaeth Iesu

Wedi dychwelyd o’r Gaethglud ym Mabilon canolwyd bywyd gwleidyddol a chrefyddol yr Iddewon yn y deml yn Jerwsalem. Sonia Edward Simmons (Talking Back to the Bible) am y modd y rheolid gwledydd yr oes honno gan ddosbarth breiniol lleiafrifol, a ddefnyddiai ddinasoedd a themlau i ganoli pŵer. Ystyrid unrhyw un a gyfathrebai â’r werin tu allan i’r canolfannau hynny yn wrthryfelwr bygythiol. Byddai sôn am deyrnas Dduw yn dod â chyfiawnder cymdeithasol yn gafael yn nychymyg y bobol gyffredin a ddioddefai anghyfiawnder o dan iau’r arweinwyr breintiedig. Dyna yn union a wnaeth Iesu, a’i dynghedu i gael ei ladd gan yr awdurdodau. Felly arweiniad poblyddol oedd gan Iesu, ac fe ledodd ei ddylanwad dros y gwledydd a thros yr oesau. Ond a oedd perygl i’w arweiniad yntau gael ei lurgunio nes wynebu tynged debyg i fudiadau poblyddol eraill?

A defnyddio’r Almaen fel esiampl, llygrwyd syniadau Friedrich Jahn am burdeb y werin gan ragfarnau cenedlaethol Nazïaidd, gan droi mudiad anwleidyddol yn dotalitariaeth haearnaidd. Felly hefyd y llygrwyd Cristnogaeth gan benderfyniad Cystennin i beidio ag erlid Cristnogion, gan ddechrau’r broses o droi’r eglwys ei hun yn wladwriaeth. Dirywiodd Cristnogaeth wedyn yn dotalitariaeth wleidyddol ac athrawiaethol, gan fynnu unffurfiaeth digyfaddawd. Yn wir gafaelodd yr agwedd honno mor gryf ynddi fel, pan ddaeth y Diwygiad Protestannaidd, ni allai’r Diwygwyr ymwrthod rhag bod yn babau bach yn mynnu uniongrededd ymhlith eu dilynwyr.

Beth am y perygl arall? Gwelwyd sut y troes apêl poblyddiaeth Isis yn anarchiaeth treisiol a chreulon. Ofnir y gall poblyddiaeth Donald Trump droi yn anarchiaeth ryngwladol beryglus. Byddai rhai yn barod i honni mai mudiadau tebyg i Cristnogaeth 21 sy’n mynnu troi Cristnogaeth yn fympwyaeth anarchaidd ac anuniongred. Fy ateb i yw hyn. Ni allwn fynd ar gyfeiliorn os glynwn at arweiniad Iesu ei hun a chyflawni ei ewyllys ef drwy nerth Duw. Mae ei ddysg mor syml ac uniongyrchol. Ond y mae gofynion ei egwyddorion ganwaith fwy heriol na gofynion credu mewn dogmâu. Ffordd gul a phorth cyfyng sydd gan Iesu, ond dyna’r ffordd i fywyd.

Ein cofion atoch i gyd a diolch am ddarllen yr e-fwletin. Efallai y bydd awydd arnoch i ymateb?