E-fwletin 8 Rhagfyr, 2019

Cyfri’r Triliynau

Mae gen i gyfaddefiad i’w wneud. Er i mi ymdrechu ymdrech deg, ni fedraf yn fy myw amgyffred beth yw gwerth triliwn o bunnau. Mae’r fath ffigwr ymhell y tu hwnt i’m dirnadaeth i. Pan fo un blaid yn cyhuddo un arall o gyhoeddi maniffesto sy’n debygol o gostio £1.2 triliwn, mae’r ffigurau’n peri i ‘mhen i droi.

Ond gwir ddagrau pethau yw ein bod yn llawn sylweddoli mai siarad gwag yw’r addewidion am fyd gwell yn aml iawn. Tra bo’r gwleidyddion ar eu bocsys sebon yn telynegu am ddatrys ein holl broblemau cymdeithasol trwy wario miliwn fan hyn a thriliwn fan draw, fe wyddom i gyd mai’r mudiadau elusennol sy’n trwsio’r craciau yn ein byd toredig, yn bwydo’r anghenus ac yn gofalu am y digartref.

Ar yr union ddiwrnod y dechreuodd yr ymgyrchu etholiadol o ddifrif, roeddwn i gydag eraill ar ddyletswydd mewn arch-farchnad sy’n ymylu ar un o’r ardalodd mwyaf difreintiedig yng ngwledydd Prydain, yn griw bach oedd yn derbyn rhoddion gan y cwsmeriaid at y banc bwyd lleol. Fel bob amser, cawsom i gyd ein synnu gan haelioni pobl oedd yn ei chael hi’n ddigon anodd i gael dau pen llinyn ynghyd eu hunain. Ac mi gododd y ffigwr o driliwn o bunnau yn y fan honno hefyd. Ffrind i mi oedd wedi bod yn darllen adroddiad gan Swyddfa’r Ystadegau Gwladol (O.N.S.) yn dangos bod y bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn parhau i dyfu yn yr ynysoedd hyn, a’r 10% cyfoethocaf wedi gweld cynnydd o £2.3 triliwn yng ngwerth eu heiddo dros y deng mlynedd diwethaf.

Ynghanol y dadlau am y triliynau, cawsom ein hatgoffa gan Ymddiriedolaeth Trussell fod y galw am y banciau bwyd wedi gweld mwy o gynnydd dros y chwe mis diwethaf nag a welwyd ers pum mlynedd. Mewn rhannau o Gymru, doedd gan un o bob pump o gartrefi ddim incwm o gwbl yn ystod y mis cyn cael hawl i ddod i’r banc bwyd. Ac am y gweddill, y cyfartaledd incwm ar ôl talu costau cynnal tŷ  oedd £50 yr wythnos.

Un o nodweddion Etholiad 2019 yw bod mwy a mwy o elusennau yn pledio ar y llywodraeth i amddiffyn trigolion gwledydd Prydain rhag newyn.  Does dim modd gwadu’r ffaith fod y sefyllfa’n argyfyngus. Ar ben hynny, rydym yn gweld atgasedd o fewn ein cymdeithas nas gwelwyd ei debyg erioed o’r blaen. A dim ond ffŵl fyddai bellach yn ceisio gwadu fod yr argyfwng newid hinsawdd yn ein harwain i ddifodiant.

Eto i gyd, gellid dadlau nad yw’r etholiad ddydd Iau yn adlewyrchu’r argyfyngau hynny. Unwaith eto, drannoeth y drin, bydd y baich o geisio achub y sefyllfa yn syrthio ar ysgwyddau’r mudiadau dyngarol, yr elusennau a’r gwirfoddolwyr anhunanol. Fedr y gweddill ohonom ond diolch am weledigaeth y rhai hynny sydd byth yn digalonni, ond yn hytrach yn gweithredu mewn ffydd. Fel y dywedodd Martin Luther King: “Cymerwch y cam cyntaf mewn ffydd. Does dim rhaid i chi weld y grisiau i gyd, dim ond mentro ar y cam cyntaf.“