E-fwletin 8 Hydref 2017

Frank Lloyd Wright

Ganrif a hanner yn ôl ganwyd y pensaer Frank Lloyd Wright. Un o ardal Pont-shaen, ger Llandysul oedd ei fam, Anna. Roedd yn bumed plentyn i Richard a Mallie Jones. Yn 1844 aeth y rhieni a’r saith plentyn i’r America.

Ceir sawl awgrym pam yr aethant. Awgryma rhai eu bod, yn syml, yn dianc gorthrwm y cyfnod. Awgryma eraill iddyn nhw golli eu limpyn neu dorri eu calonnau pan wnaeth sgweier anenwog Alltyrodyn adael i’w gwn hela redeg yn wyllt drwy eu gardd. Awgryma Meryle Secrest (cofiannydd Frank Lloyd Wright) fod gan Richard gysylltiad ag ymgyrchoedd Merched Beca. Posibilrwydd arall yw mai gweld cyfle i wireddu breuddwydion wnaethon nhw, fel cymaint o deuluoedd eraill y fro.

Fodd bynnag, cyrhaeddwyd Efrog Newydd yn nechrau Rhagfyr 1844, wedi 6 wythnos o fordaith helbulus. Ar y dociau, twyllwyd y teulu uniaith Gymraeg wrth iddyn nhw ymddiried yn ddiniwed mewn cynnig a wnaed iddyn nhw gan siaradwr Cymraeg arall. Rhedodd hwnnw bant â llawer o’u harian a’u heiddo. Cyn cyrraedd Wisconsin cafwyd trychineb gwaeth. Bu farw un o’r plant (Nanny, chwaer Anna) yn 3 oed, fe’i claddwyd yn y fan a’r lle.

Dair blynedd ar hugain wedi cyrraedd Wisconsin, a hithau yn 27 oed, fe briododd Anna ym mis Mai 1867 ag William Russel Wright. Ganwyd mab iddynt yr un flwyddyn a’i enwi’n Frank Lloyd Wright. Dadleuir mai’r ffaith fod Frank yn fab i Gymraes a theulu o Undodiaid a roddodd iddo’i ysbryd mentrus, heriol ac anghydffurfiol. Disgrifiodd ei hunan fel, “…gwr o dras Gymreig ac Undodwr o’r iawn ryw”.

Pan oedd yn 9 oed cerddai ar draws cae o eira gyda’i ewythr. Dwedodd hwnnw wrtho ym mhen draw’r cae i edrych yn ôl ar yr olion troed. “Sylwa, mae dy draciau di yn mynd igam-ogam ar draws ac ar led ym mhobman – draw at ffens y gwartheg ac yn ôl i’r clawdd eto. Sylwa, mae’n nhraciau i’n anelu’n uniongyrchol at y nod. Dyma wers bwysig i ti!” Flynyddoedd wedyn dwedai fel roedd y profiad wedi cyfrannu at ei athroniaeth o fywyd. “Penderfynais bryd hynny,” meddai’n ddireidus, “i beidio â cholli’r pethau sy’n cael eu cynnig mewn bywyd fel fy mod yn cael profiadau gwahanol. Gwaetha’r modd, nid felly oedd fy ewythr yn gwneud”.

Ystyriwyd ef yn athrylith, yn un a oedd yn ymwadu’n llwyr â’r cyffredin, gan dorri ei gwys ei hunan. Bu’n arbrofwr a oedd yn chwilio am ffyrdd newydd a gwell, gan osod nodau newydd i benseiri. Credai mewn Pensaernïaeth Organig, gan ddangos parch at “…y deunyddiau a sicrhau perthynas gytun rhwng y dyluniad a swyddogaeth yr adeilad”.

Ei obaith oedd diwygio cymdeithas trwy bensaernïaeth. Honnai y byddai cartrefi da yn cael effaith gadarnhaol ar y trigolion, e.e. y gyfradd ysgariadau; a bod dyluniad adeiladau yn medru effeithio ar gynnyrch a hapusrwydd y gweithle. ‘Pregeth mewn carreg’ oedd ei bensaernïaeth. Roedd o’r farn bod rhan o’r dwyfol o fewn natur, a dyletswydd pensaer oedd ei ddal a’i gyfleu: “I believe in God, but I spell it N-A-T-U-R-E”, meddai. Y geiriau sydd ar ei garreg fedd yw, ‘Mae cariad at syniad yn gariad at Dduw’.