E-fwletin 5 Mai, 2019

Bod yn Fenyw … yn 2019

Mae bod yn fenyw, yn hytrach na dyn, yn dal yn anfantais yn y byd sydd ohoni. Rydan ni wedi hen arfer gweld gwragedd y byd Moslemaidd yn gorfod cuddio eu benywdod trwy eu gwisg;  mewn rhai llefydd maent yn anweledig  gan eu bod yn gorfod cadw i’r cartref. Mae stori Malala, y ferch ddewr o Affganistan, sydd wedi gorfod wynebu bygythiadau i’w bywyd am feiddio ceisio cael yr un hawliau addysg â bechgyn, yn brawf o’r anawsterau sydd yn wynebu merched yn y byd Moslemaidd. Yn y byd Iddewig cyfoes wedyn, mae’n arferiad gan rai selogion i’r wraig gerdded ychydig o gamau y tu ôl i’w gwr;  y gŵr yw’r meistr yn y cartref ac oddi cartref.

Ond, cyn i ni ym Mhrydain bwyntio bys at wledydd eraill, beth am y bygythiadau, y casineb a’r sarhad sydd i’w weld yn ein gwlad yn sgil y gwahaniaeth barn ar ôl refferendwm Brexit yn 2016? Mae hyn i gyd i’w weld yn fwy amlwg ble mae merched yn y cwestiwn. Mae bygythiadau yn erbyn merched sydd yn aelodau seneddol yn fwy niferus ac, fel y gwyddom, llofruddiwyd un ohonynt. Mae rhai ymgeiswyr  etholiadol  yn sarhau merched yn ddyddiol, ac aelodau seneddol benywaidd yn benodol.

Ond, nid yn y byd gwleidyddol yn unig y mae diffyg cyfartaledd amlwg rhwng merched a dynion. Yn gymharol ddiweddar y daeth yr hawl i ferched gael eu hordeinio yn Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru, a hynny ar ôl trafodaethau hir a dadleuol. Mae rhai clerigwyr ac aelodau eglwysig yn dal i wrthwynebu, a rhai yn gwrthod derbyn y cymun gan ferch o offeiriad. Bu’r Eglwys yng Nghymru yn trafod y mater unwaith eto ychydig ddyddiau’n ôl.  Nid yw’r Eglwys Gatholig wedi dechrau’r drafodaeth eto.

Ond, cyn i  Anghydffurfwyr ganmol ein hunain am ein bod wedi ordeinio menywod ers rhai blynyddoedd bellach, edrychwn yn fwy craff ar sefyllfa ein capeli. Mae’r mwyafrif llethol o’n cynulleidfaoedd yn ferched ac eto mae mwyafrif y swyddi o fewn y capeli yn dal i fod yn nwylo’r dynion. Gwaeth na hynny, clywais yn ddiweddar fod barn wedi ei datgan mewn cyfarfod o weinidogion Anghydffurfiol  na ddylai merch gymryd rhan mewn gwasanaeth cyhoeddus, ac yn enwedig na ddylai bregethu i ddynion! Dichon fod croeso i ferched baratoi paned a glanhau ond faint o wahaniaeth  sydd rhwng hynny a sefyllfa merched yn y gwledydd Moslemaidd ac Iddewig yn y Dwyrain Canol?   Mae rhai gyda rhagfarnau fel hyn yn hoff  o ddyfynnu o’r Beibl fel tystiolaeth lythrennol ac awdurdodol.

Ond a yw hyn yn gyson ag agwedd yr Iesu at ferched? Yn ystod y Pasg cawsom ein hatgoffa o bwysigrwydd merched wrth y Groes, wrth y bedd gwag a’u tystiolaeth yn y dyddiau cynnar. Cawn hanesion am yr Iesu yn rhoddi parch a sylw i wragedd fel y wraig o Samaria wrth y ffynnon a Mair Magdalen a’r teulu ym Methania. Mae’n  nodwedd arbennig o Efengyl Luc.

Ni allaf yn fy myw, yn yr unfed ganrif ar hugain, ddeall y teimladau negyddol yn erbyn merched ym mysg Cristnogion,  a hynny gan ferched eu hunain ar brydiau.  Mae’n fwy o ddirgelwch eu bod  yn cael eu cyfiawnhau trwy lynu wrth agweddau oedd yn bodoli yn y gymdeithas yn oes Iesu, ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.