E-fwletin 31 Ionawr 2021

Cofio Vivian

Er ein bod eisoes wedi cyhoeddi neges o deyrnged i’r diweddar gyfaill  Vivian Jones ar y dudalen Facebook, mae’n weddus iawn ein bod yn neilltuo’r e-fwletin heddiw i gofio amdano yn ogystal. Wedi’r cwbl, fyddai Cristnogaeth 21 ddim yn bodoli heb ddycnwch ac argyhoeddiad Vivian, ac fel ein cadeirydd cyntaf, teimlai fod cyfrifoldeb arno i ysgrifennu cyfrolau a fyddai’n adlewyrchu’r meddylfryd dros sefydlu’r wefan.

Wedi iddo ddychwelyd i Gymru o’r Unol Daleithiau yn 1995, ei bryder mawr oedd y diffyg llwyfan i drafod Cristnogaeth flaengar, gyfoes, yn y Gymru Gymraeg. Teimlai fod yna ogwydd ffwndamentalaidd yn perthyn i’r cylchgronau oedd yn bodoli ar y pryd, a bod angen creu lle diogel i bobl fynegi amheuon, holi cwestiynau a chynnig atebion gonest heb fod ofn cael eu beirniadu. Dyna oedd y tu ôl i sefydlu gwefan Cristnogaeth 21 yn 2008.

Roedd Vivian yn enghraifft o rywun oedd yn ein hannog ni’n gyson i edrych o’r newydd ar bopeth efo llygaid ffresh, ond mewn modd oedd yn parchu ysgolheictod. Credai’n gryf nad oes unrhyw beth sy’n fwy o sarhad ar ysgolheictod na derbyn pethau’n gibddall heb eu cwestiynu. Gwyddom fod Vivian yn ddarllenwr awchus, a’i chwaeth mewn llyfrau diwinyddol wedi ei dylanwadu’n helaeth gan ei gyfnod yn uwch-weinidog yn Eglwys Plymouth, Minneapolis. Dyna pam bod ganddo’r fath sêl dros edrych o’r newydd ar neges Iesu Grist a’i gwneud yn berthnasol i’r unfed ganrif ar hugain, ac o  hynny y daeth yr enw ‘Cristnogaeth 21’ wrth gwrs. Roedd am i ni sylweddoli mai’r hyn wnaeth yr Iesu oedd gwau edafedd y gorffennol yn batrwm newydd a rhyddhau trysorau ffydd Israel i bawb. Yr her i ninnau yw parhau i drafod a dehongli yn ymchwilgar.

I’r eglwysi hynny sy’n dilyn y Llithiadur bob Sul, mae’r darlleniad ar gyfer heddiw’n adrodd hanes Iesu’n bwrw allan ysbryd aflan yn y synagog yng Nghapernaum. Byrdwn y neges yw natur a diben awdurdod, ac roedd y dorf yn ymateb i’r ddysgeidiaeth newydd a gyflwynodd Iesu iddyn nhw, am ei bod mor wahanol. Nid ail-gylchu’r hen ddogmâu a’r hen athrawiaethau a’u gwneud nhw’n awdurdod, ond ail ddehongli, a gweld mawredd yr efengyl mewn goleuni newydd sy’n berthnasol i ni heddiw. Osgoi’r syniad o awdurdod mewn credo a dogma.

Roedd Vivian yn teimlo’n gryf ‘bod tuedd i Gristnogion dros y byd ddylunio Iesu fel un ohonynt hwy o ran hil – adwaith yn rhannol, efallai, i’r gorddefnydd o luniau Ewropeaidd ohono.’  Meddai unwaith, “Ni chawsom eto wared ar gulni enwadol yng Nghymru, ond mae culni Cristnogol lletach yr ydym yn rhan ohono.” Y culni hwnnw oedd ein bod wedi ystumio Iesu’r Iddew i ymdebygu i ni o ran hil, a bod hynny hefyd wedi llifo drosodd i’n ffordd o feddwl am ei osgo a’i neges. Yn ei flynyddoedd olaf, roedd Vivian wedi magu edmygedd tuag at Andrew Walls, cyn-genhadwr a fu’n Athro ym Mhrifysgol Caeredin ar Gristnogaeth y Byd Anorllewinol. Ac roedd yn hoff o’r dyfyniad hwn gan Walls: ‘For decades the God that theological students in the West have been taught about has been a territorial and denominational Baal.’

Ar brydiau, byddai sawl un ohonom yn rhyfeddu at feddwl miniog a chwim Vivian, dyfnder ac ehangder ei wybodaeth, a’i barodrwydd i wrando ar safbwyntiau gwahanol a syniadau newydd. Ond efallai mai’r hyn a gofiwn fwyaf yw ei gwmnïaeth ffraeth a chynnes.