E-fwletin 28 Mawrth, 2021

Mae’n Sul y Blodau, ac wrth ail-ddarllen hanes Iesu yn cyrraedd Jerwsalem yn efengyl Marc (pennod 11), dyma sylweddoli rhywbeth am y tro cyntaf.

Er gwaetha’r cyfeiriad at ebol ym mhroffwydoliaeth Sechareia, mae’n anodd iawn gweld yr olygfa a ddisgrifir yn unrhyw beth ond parodi o frenhiniaeth a phŵer bydol. Mae Marc yn pwysleisio na fu neb ar gefn yr ebol o’r blaen – felly y tebygrwydd yw na fyddai’n gydweithredol. Nid brenin sy’n marchogaeth ond rhyw werinwr yn ceisio rheoli anifail stwbwrn. Mae’r disgyblion yn rhwygo canghennau oddi ar y coed ac yn taflu eu dillad o flaen yr anifail. Tipyn o draed moch (traed asyn?). Mae’r dyrfa yn gweiddi “Hosanna! Clod i ti!” Onid tynnu coes maen nhw, wrth i’r saer anfrenhinol hwn gyrraedd? Rhyw fath o brotest ddychanol sydd yma, nid taith fuddugoliaethus rhywun fyddai’r dyrfa yn debyg o’i gydnabod yn Feseia.

Er mai canghennau deiliog a chwifiwyd, daethom ni’r Cymry i alw’r achlysur yn Sul y Blodau. A dyna feddwl am brotest fwy diweddar gyda blodau – y merched ymgasglodd ar Gomin Clapham yn ddiweddar i fynegi eu galar at farwolaeth erchyll Sarah Everard, ac yn eu tro cael eu hatal a hyd yn oed eu cam-drin gan yr heddlu. Mae tyrfaoedd yn cario blodau, mae’n amlwg, yn beryglus i’r awdurdodau.

Er i heddlu cyfnod Iesu adael llonydd i’r saer a’i ebol ar y Sul, y diwrnod wedyn fe ddwysaodd ei brotest trwy fynd i’r deml a dymchwel byrddau’r masnachwyr. Fel Heddlu’r Met, nid oedd heddlu’r Deml na heddlu’r Ymerodraeth yn teimlo y gallent anwybyddu hyn. Erbyn y nos Iau, arestiwyd Iesu, cafwyd rhyw lun ar brawf ac fe’i croeshoeliwyd ar brynhawn Gwener.

Nid dim ond cofio Iesu sy’n nodweddu’r wythnos hon eleni, ond hefyd dechrau dau ymgyrch etholiadol – y naill ar gyfer Senedd Cymru, a’r llall ar gyfer pedwar Comisiynydd Heddlu, Tân a Throseddu Cymru. Mae’r ail ymgyrch yn debygol o fod dan gysgod y cyntaf yn y cyfryngau, ac nid oes lwfans ymgyrchu i sicrhau fod ymgeiswyr yn gallu danfon hyd yn oed un daflen at bob cartref. Pum mlynedd yn ôl gwelwyd sbwylio papurau pleidleisio llawer yn yr etholiad am na wyddai pleidleiswyr ddigon amdano i fwrw eu pleidlais.

Ond mae’r bleidlais yn bwysig. Yng Nghymru, mae’r pedwar Comisiynydd wedi mabwysiadu dull plismona gwahanol i’r Met. Cafwyd llu o wylnosau cwbl heddychlon, wedi eu gwarchod ac nid eu herlid gan heddluoedd Cymru, ar noson gwylnos Comin Clapham. Gwelwyd ymdrechion tebyg i ganiatáu protestiadau Gwrthryfel Difodiant a Bywydau Du’n Bwysig yng Nghymru.

Mae’r Comisiynwyr wedi defnyddio peth o’u cyllideb i geisio atal troseddau trwy gyllido gwaith ieuenctid, a sefydlu cynlluniau i wrthsefyll effeithiau profiadau annymunol ym mhlentyndod rhai sy’n gallu arwain at drosedd yn nes ymlaen. Ond nid pob ymgeisydd fydd am barhau’r polisïau hyn.

Felly wrth i chi gofio plismona creulon Ymerodraeth Rhufain yr wythnos hon, ymdynghedwch i bleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr Cymru. Mae yna wefan Gymraeg i’ch helpu – www.choosemypcc.org.uk/cy. Da chi, bwriwch eich pleidlais ar Fai 6 er cof am y cyfiawn Iesu.