E-fwletin 28 Chwefror 2021

Gwneud y Pethau Bychain

Nôl yn 2014 cyhoeddwyd llyfr hynod ddifyr a defnyddiol, sef ‘Gwnewch y Pethau Bychain’ a olygwyd gan Ffion Heledd Gruffudd. Fel yr awgryma’r teitl mae’n gyfrol llawn syniadau am y pethau bychain, ond pellgyrhaeddol, y gall pawb eu gwneud er mwyn hybu Cymru a’r Gymraeg. Canlyniadau’r cyfrifiad diwethaf a fu’n rhannol gyfrifol am sbarduno’r golygydd i baratoi’r llyfr a hynny er mwyn ceisio ‘Cymreigio Cymru’. Mae’n adnodd arbennig ar gyfer pawb sydd yn dymuno gweld ein hunaniaeth fel Cymry yn mynd o nerth i nerth, a chan ei bod yn gyfrol ddwyieithog mae’n galluogi’r di-Gymraeg hefyd i wneud eu rhan.    

Er iddi gael ei chyhoeddi saith mlynedd yn ôl mae’r anogaeth yn y gyfrol yn wych a’r brwdfrydedd fel chwa o awyr iach. Ceir awgrymiadau ysgafn a doniol, yn ogystal â rhai mwy difrifol. Er enghraifft, rhowch enw Cymraeg ar eich anifail anwes; cefnogwch fusnesau teuluol Cymraeg eu hiaith; gosodwch faner y Ddraig Goch ar gyrion, pentrefi, trefi a dinasoedd; anfonwch e-byst at y cyrff hynny nad yw eu gwefannau ar gael yn Gymraeg.  

Ond a oes yna unrhyw awgrymiadau arbennig ar gyfer y Gymru Gristnogol gyfoes, o gofio mai geiriau Dewi Sant sydd i’w gweld ar glawr y gyfrol? Wel, oes yn wir, a cheir mwy nag un syniad:

  • Hyrwyddwch yr Efengyl yng Nghymru, adfywiwch y capeli, canwch yr emynau, darllenwch y gweddïau a’r Beibl (un William Morgan a’r Beibl Cymraeg Newydd). Rhain oedd asgwrn cefn y Gymraeg a’i diwylliant.
  • Anogwch ysgolion eglwysig, eglwysi a chapeli i sefydlu diwrnod o weddïo Cymraeg ar draws Cymru, a darparu gweddïau. Gallai’r rhain gael eu defnyddio mewn gwasanaethau ar ddyddiadau penodol.
  • Canwch emyn Cymraeg y mae pawb yn yr ysgol yn ei adnabod wrth gydaddoli, ac adroddwch weddi ddyddiol yn Gymraeg.
  • Gweddïwch yn uchel yn Gymraeg bob dydd.  

Mae’r syniadau yn rhai da ond wn i ddim a yw ‘adfywiwch y capeli’ yn ‘beth bach’ i’w wneud, nac ychwaith yn realistig, a go brin y byddai pob ysgol yn croesawu’r awgrym i sefydlu diwrnod o weddi!

Ond o ran cyfrwng i’n hybu a’n hannog, dyma’n wir sydd ei angen arnom. Hynny yw, rhestr syml o bethau cadarnhaol y gallwn fel Cristnogion, o bob traddodiad ac enwad, eu cofleidio a’u gweithredu er mwyn magu hyder a brwdfrydedd o’r newydd. Pan fydd cyflwr llesg ein heglwysi yn ein tristáu, sêl genhadol Dewi Sant yn prysur ddiflannu a chanlyniadau cyfrifiad arall ar y gorwel, a fydd, mae’n siŵr, yn cofnodi lleihad yn nifer y Cristnogion yng Nghymru, gadewch i ni gydio ym mhob dim a fydd o gymorth i’n hysbrydoli er mwyn dal ati i wneud y ‘pethau bychain’.