A hithau’n ddiwedd mis Awst, dyma’r olaf o’r oedfaon sydd gennym oedfa i’w hargymell i chi allan o storfa archif y cyfnod clo. Bydd yr e-fwletin arferol yn ar fore Sul yn ail ddechrau yr wythnos nesaf.
Penderfyniad pwyllgor Cristnogaeth 21 oedd argymell oedfa wythnosol i’n dilynwyr drwy gydol mis Awst, o blith rhai a ddosbarthwyd yn ddigidol dros y deunaw mis diwethaf. O safbwynt y dewis ymarferol o ddegau o wasanaethau ledled Cymru, penderfynwyd cyfyngu y tro hwn i ardal Caerdydd, ac rydym yn ddiolchgar am ganiatâd i gynnig yr addoli i gylch ehangach drwy Cristnogaeth 21.
Cafodd y fideo hwn a argymhellir heddiw ei rannu gyntaf ar Fehefin y 6ed eleni, a medrwch ei weld drwy glicio ar y ddolen hon: https://youtu.be/04THlQJfcVw