Encil ‘Y Cymod a’r Cread’
Roedd dyddiad ein hencil eleni yn arwyddocaol iawn i’r thema, a ninnau’n cyfarfod drannoeth y brotest fawr fyd-eang.
Heriodd yr Athro Gareth Lloyd Jones ni i ymateb i’r dasg sy’n ein hwynebu wrth ddarllen yr Hen Destament. Ai dewis y darlun o’r gormeswr, ‘pob peth dan ei draed’ neu’r darlun o’r ‘goruchwyliwr’ i ofalu a pharchu’r cread? Mae’r ddau ddehongliad gyda’u gwahaniaethau a’u hanghysondebau i’w cael yn yr HD, ond wrth ddewis eu hadnodau fel y gwna’r ‘Bible believing’, maen nhw’n cynnal breichiau rhai fel Trump, sydd, yn eu traha a’u balchder, yn ymwrthod â gwybodaeth wyddonol.
Bu’n ddarlith hynod o gynhwysfawr. Rhaid ei darllen – a dysgu, a bydd yn ymddangos yn fuan iawn yn Agora.
Roedd arweiniad Dyfed Wyn Roberts (Cymorth Cristnogol) hefyd yn cynnig dewis i ni, wrth drafod ‘Cymod a Duw’. A ydym am i’r meddwl Groegaidd a’i bwyslais ar y byd drwg, materol, ein caethiwo i’r ‘cnawd’ nes i Dduw faddau i ni yng Nghrist a’n rhyddhau i’r nef? Dyna ddehongliad yr eglwys orllewinol tros y canrifoedd. Ond nid dyna’r safbwynt Beiblaidd. Mae’r cread yn dda, ac ynddo y down i adnabod Duw. Uchafbwynt y creu – yn ôl un diwinydd – yw’r Saboth pan ‘orffwysodd’ Duw i fendithio a mwynhau’r hyn a greodd. Yn y Saboth mae’r gyfrinach i’r cread. Dathlu wrth warchod y cread yw ein galwad – ac onid ‘Canys felly y carodd Duw’r cosmos’ yw’r adnod? Rhaid darllen a myfyrio ymhellach ar gyfoeth cyflwyniad Dyfed.
Alaw a cherdd a chân, y rhodd o gelfyddyd a’r rhodd o addoli sy’n ein gwneud yn warchodwyr y cread a’r cymod, yn ôl Sioned Webb. Mewn sesiwn arbennig iawn o wrando ar gerddoriaeth fel cyfrwng cawsom glywed cerddoriaeth oedd yn ein cydio â’r nef ac â’n gilydd; weithiau yn ein harwain i ddawns, weithiau i alar ond pob amser i obaith. Roedd y darn Ami Maamin gan y Rabi o wlad Pwyl a gyfansoddwyd ar y trên i’r siamberi nwy, yn datgan y gobaith tawel yn shalom Duw yng nghanol ei gread.
Fel bardd soniodd Ifor ap Glyn am eiriau ac iaith fel cyfryngau creu – i ddatgelu a rhyfeddu, i herio ac i ddeffro, i gymod ac i garu. Mae ‘angen tywyllwch i weld y sêr’ ac yn ei gerddi sonia am y cymod a welodd: y ffoadur o Syria yn gweithio fel weldiwr yn ‘asio bywyd newydd / yn tynnu masgia a thorri bara’. Gwelodd henoed tlawd yn gwneud eu hymarferiadau Tai-chi ar balmant stryd yn China er mwyn cael y golau o ffenest siop. Soniodd am ei dad a’i hoffter o emynau, er nad yn ‘gapelwr’, ond, ag yntau yn fregus, yr emynau am gariad oedd yn gorchfygu ofn.
Cyfoethogwyd yr encil gan arweiniad defosiynol a chynnes Anna Jane, o’r dyfyniad ar y dechrau ‘Pan fyddwn yn dechrau gweithredu mae gobaith ym mhob man’. (Greta Thunberg) i’r diwedd, pan gyfeiriodd at orchymyn Crist yn Efengyl Mathew ‘Ewch i’r holl fyd a chyhoeddwch yr Efengyl i’r holl greadigaeth’.