E-fwletin 21 Chwefror 2021

Beibl, Bwrdd… a Ffoaduriaid

Mae rhai’n chwerthin, eraill yn crechwenu, ac ambell un yn gwgu, synnu neu’n gwaredu pan fydda’ i’n dweud imi dreulio hanner blwyddyn yn byw mewn cwfaint yng nghanol cyfandir Ewrop.​

Yr un sydd wedi treulio 30 mlynedd yn gyrru rhwng un dedlein a’r nesaf, yn ei chael ei hun yng nghanol nýns. A’r hogan sy’n hen gyfarwydd â Chymraeg y rhegfeydd, yn landio’i hun mewn cell ddeuddeg troedfedd wrth ddeg ar goridor cul ar chweched llawr adeilad seithllawr, dan groes fawr, fawr.

Ond beth bynnag ydi’r ymateb, mae yna, ym mhob un, mi hoffwn i feddwl, chwilfrydedd digon didwyll ynglŷn â sut brofiad oedd treulio chwe mis yn byw a bod yng nghanol lleianod urdd Bened ym mhrifddinas Awstria.​

Rhwng mis Medi 2014 a Chwefror 2015, cwfaint Stephanushaus yn Fienna oedd fy nghartref, wrth imi dreulio’r cyfnod yn gweithio ym mhrifysgol y ddinas gerddorol, Babyddol, honno. Mae’r cwfaint yn adeilad modern ar stryd brysur Ungargasse (Stryd Hwngari), lle mae tramiau a thacsis, beics, motobeics, ceir a lorïau yn taranu heibio trwy’r dydd a’r nos. Dyna sut oedd hi, y tu allan, yn y byd mawr, wrth i mi fynd o gwmpas fy mhethau, mynd i’r gwaith a’r londrét, mynd i siopa bwyd a chyfri’ gwerth pob peth mewn ewros yn lle punnoedd.

Ond y tu mewn, cyfnod o symlrwydd di-deledu oedd hwn. Cyfnod y bwyd plaen, sych a’r te du. Cyfnod o godi am 4.30 o’r gloch y bore, bob bore, wrth imi ddod i ymgyfarwyddo â chlywed y lleianod go iawn yn ystwyrian o’u celloedd ar y llawr uwch fy mhen gan baratoi am offeren a chymun chwech o’r gloch. Cyfnod o gael crap ar weddïo yn Almaeneg. A chyfnod o dawelwch a chadw cwmni â mi fy hun nad oes posib ei ddiffinio gyda’r un o fy miloedd ansoddeiriau llachar.​

Yng ngogledd ddwyrain Awstria y mae mam-eglwys y lleianod a fu’n gweithio yng nghwfaint wrban Stephanushaus ers 1964. Pwrpas sefydlu’r cwfaint yn Fienna hanner canrif yn ôl oedd darparu llety a chartref henoed ar gyfer offeiriaid wedi ymddeol; offeiriaid sâl heb deulu i edrych ar eu holau; ac i gynnig llety rhad ar gyfer ambell bererin fel fi.​

Ac mae pob pererin yn cyrraedd efo’i gês. Yn y cês hwnnw y mae yna ddillad, llyfrau, a lle gwag i gario swfenîrs adref efo fo. Ond yn y lle gwag hwnnw, yn ogystal â geidbwc, cawodydd eira a chardiau post, mi ffeindiais i fod yna ambell i ragfarn yn llechu hefyd…

Fel yr un sy’n cymryd yn ganiataol fod pob lleian yn glên ac yn wenau i gyd, fel tasa cariad Duw yn pelydru allan ohoni bob awr o’r dydd. Neu’r rhagdybiaeth honno fod pob lleian yn hoffi pobol ac yn ei helfen yn cymdeithasu ac yn sgwrsio efo dieithriaid. A’r gred, a’r gobaith, fod lleianod sydd wedi tyngu llw i dreulio’u hoes yn briod â’u Gwaredwr, yn ymgorfforiad grasol ohono mewn byd sy’n gallu bod mor hunanol a chreulon.​

Efallai mai gwers fwyaf fy misoedd yn Stephanushaus oedd deall na fuaswn i byth yn ffitio i mewn yno, mewn gwirionedd. Dim hyd yn oed pe bawn wedi cael aros am flwyddyn. Oherwydd doeddwn i ddim yn Babydd – ac roedd hynny’n codi mur rhyngof i a phob chwaer yn syth bin. Onid ydi hi’n well gan bob un ohonon ni dreulio amser efo pobol debyg i ni? Mae’n saffach, dydi? Mae’n haws. Ac mae’n neisiach.

Yn ail, mi ddysgais fod lleianod, fel pob pererin, yn cario’u profiadau efo nhw – ac, mewn ambell achos, roedd y sgrepan yn drom gan brofiadau llym a chreulon eu bywyd cynnar. Roedd gan bob un ei reswm, neu ei resymau, tros benderfynu troi cefn ar y byd a threulio’i hoes yn ymwrthod â’r drefn er mwyn gwasanaethu Duw. Weithiau, mi fyddai profiadau ddoe yn dod i’r wyneb mewn ffit o dymer ddrwg, mewn ffrae neu hyrddiau o grio direol. A doedd yr iwnifform ddim yn gysur o gwbwl ar adegau felly, pan oedd raid i’r emosiwn ffrwydro’i ffordd allan o blygion starts yr habit.

Ond roedd gofal y chwiorydd am yr offeiriaid oedrannus – sydd, oherwydd gofynion eu crefydd, yn ddibriod ac yn ddi-blant – yn gariad i gyd. Gofal anhunanol tuag at ddynion sydd, yng ngolwg y byd, wedi tyfu’n hen ar eu pennau eu hunain. A chariad difesur, fel y moroedd yn yr emyn, a diamod.

Ac efallai mai dyna sut y dylwn i feddwl am fod yn debycach i leianod Stephanushaus:-

– troi fy nghefn ar fateroliaeth a gwerthoedd ffug y byd sy’n fodlon gadael i’r gwan ddioddef;

– bod yn barod i weiddi, dadlau a chrio fy nheimladau yn onest gerbron Duw a’m cyd-bererinion;

– gofalu am bobol eraill, a gweithio heb ddisgwyl na chlod na thâl yn ôl.

Ond wyddoch chi’r peth gorau un am Stephanushaus erbyn hyn? Mae’r cwfaint wedi cau. Mae’r lleianod wedi encilio yn eu holau i’r gogledd gwledig. Ac mae’r adeilad solat ar Ungargasse bellach yn cael ei redeg fel gwesty, gan ffoaduriaid.

Yno, wrth groesawu a gweini ar dwristiaid, y mae mewnfudwyr a gafodd groeso gan bobol Awstria, yn talu’r gymwynas honno i eraill – ac yn dysgu sgiliau bywyd fel trin arian a dysgu ieithoedd.

Rwan, mae hynna YN swnio fel cenhadaeth go iawn.