E-fwletin 17 Mawrth 2019

Annwyl Brenton Tarrant

Nid ydym erioed wedi cyfarfod, ond mae dy enw yn hysbys i bawb ers iti gyflawni’r gyflafan erchyll mewn dau fosg yn Christchurch, Seland Newydd ddydd Gwener diwethaf. Yno, yn y mosg Al Noor a’r mosg Linwood roedd pobl wedi dod ynghyd ar gyfer cynnal gweddïau yn ôl eu harfer. Mae dydd Gwener yn bwysig i Foslemiaid, yn union fel y mae’r Sul yn bwysig i Gristnogion. Gwyddost felly y byddai’r ddau fosg yn llawn o addolwyr.  O ganlyniad i’th ymosodiad dieflig bu farw 50 o bobl, gyda dwsinau wedi’u hanafu ac mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty. Yn eu plith yr oedd un ferch fach bedair blwydd oed. Yn ôl y sôn mae’n debyg y buost yn cynllunio i gyflawni mwy o ymosodiadau ond cefaist dy rwystro gan yr heddlu.  Rhaid diolch am ymateb dewr y ddau swyddog a lwyddodd i roi stop ar dy gasineb. Rwy’n deall dy fod bellach wedi dy arestio ac yn cael dy gadw dan glo ac y byddi ymhen amser yn gorfod wynebu’r awdurdodau. 

Mae’r byd wedi ymateb yn chwyrn i’r hyn a gyflawnaist a negeseuon o gydymdeimlad wedi’u hanfon at y teuluoedd a gollodd anwyliaid. Ymddangosodd adroddiadau yn y wasg am y modd y ceisiodd rhai pobl dy rwystro rhag saethu. Maent wedi cael eu disgrifio fel arwyr.

Beth ddaeth drosot ti dywed?  Pam wyt ti’n credu fod gennyt hawl i amddifadu pobl o’u hanwyliaid a’u lladd yn gwbl ddi-drugaredd?  Pa hawl sy gen ti i darfu ar addoliad cyhoeddus? Pam wyt ti’n credu dy fod yn medru ymosod ar bobl sydd o dras gwahanol iti dy hun? Pwy fu’n gyfrifol am blannu’r fath gasineb yn dy galon? Sut wnaeth yr atgasedd ddatblygu? Ac am ba hyd? Pwy fu’n gyfrifol am feithrin yr eithafiaeth yma yn dy fywyd?  A wnaeth unrhyw un sôn wrthyt erioed am gariad Iesu?  Mae’r holl bobl yr wyf i yn eu hadnabod yn methu deall pam y gwnest di gyflawni’r fath anfadwaith. Dwi innau chwaith ddim yn deall, ac yn sicr y mae yna ran ohonof sydd ddim am ddeall.

Ond rwyf am ddweud hyn, rwyt ti’n berson o gig a gwaed ac yn union fel finnau rwyt ti’n un o blant Duw ac y mae’r potensial ynot i fod yn well na’r person ffiaidd a welwyd yn y ddau fosg yn Christchurch ddydd Gwener diwethaf.  Hoffwn pe baet yn credu hyn, ond mater i ti yw hynny.

Yn gywir

E-Fwletin Cristnogaeth 21

(Cofiwch am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar 29 a 30 Mawrth yn Aberystwyth ar y thema ‘Dechrau o’r Newydd’. Bydd cyflwyniad theatrig ar y nos Wener, a darlithoedd ar y Sadwrn gyda Cynog Dafis, Arwel Jones, Catrin Williams, Huw Williams a Gareth Wyn Jones. Mae’r manylion llawn ar ein gwefan http://ctistnogaeth21.cymru/newyddion/)